Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

CENHEDLU’R GENEDL     

(Nation or Notion?)
Cynhadledd Ryngwladol ar Astudiaethau Perfformio
Prifysgol Cymru, Bangor
Mehefin 5 – 6, 2004

Gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn llenwi’n theatrau gyda’u perfformiad cyntaf, a llawer o drafod yn y wasg ynghylch darpariaeth cyfrwng Saesneg tebyg, mae’r gynhadledd hon yn amserol iawn. Bwrw golwg eang a rhyngwladol ar themâu cysylltiedig â chenedligrwydd a wna’r Gynhadledd, a hynny ym maes theatr, ffilm a’r cyfryngau, cerddoriaeth, dawns ac opera. Bydd Cenhedlu’r Genedl yn codi cwestiynau ar hunaniaeth, iaith a dwyieithrwydd, etheg yr ethnig, y lleol a’r cenedlaethol, a thraddodiad cynhenid. Yn ystod y deuddydd llawn cyflwynir papurau, trafodaethau a pherfformiadau.


Gyda chyfrannwyr o bedwar ban byd, mae amrediad eang o bynciau:
Nationality and theatre in the Phillipines; Re-birth and regeneration in the Croatian theatre; Mexico and the Day of the Dead; Traditional Theatre in Taiwan; Bollywood in Britain; Indian Dance; Street Perfromance in Massachussetts; Ravenhill in Greece; the Boston Ideal Opera company; Nationality and Performance in Ethiopia.

Mae cynrychiolaeth gref o’r gwledydd Celtaidd, gyda phapurau ar: Friel and McGuiness, Liz Lochhead, the Scottish National Theatre debate, dressing up as resistance in Northern Ireland, Irish and English Identities in Henry V.

Mae cynrychiolaeth Gymreig gref, ac er y cyflwynir y rhan helaethaf o’r papurau yn Saesneg, ceir rhai yn y Gymraeg. Testunau’r papurau yw: forked tongues and shifting sands, performing civic identity, translatability, imagi-nation, the Drama Movement in Wales.


Am fwy o fanylion cysyllter â’r trefnwyr:
Nic Ros – n.ros@bangor.ac.uk
Graeme Harper – Graeme.Harper@port.ac.uk
Neu archebwch eich lle trwy
Linda Jones – Gweinyddydd – L.C.Jones@bangor.ac.uk
 
web site
:
nic ros
e-mail: n.ros@bangor.ac.uk
Sunday, May 23, 2004back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk