Ar ganmlwyddiant ei eni bydd cyfraniad un o dramodwyr mwyaf dylanwadol Cymru’r ugeinfed ganrif yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd fis nesaf.Cafodd Dr John Gwilym Jones ei eni a’i fagu yn Groeslon ger Caernarfon ac yno bu’n byw am y rhan fwyaf o’i oes hyd at ei farw ym 1988 yn 84 mlwydd oed. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr, yn feirniaid llenyddol ac yn academydd i fri a mawr fu ei stamp ar genedlaethau o ysgrifenwyr, beirdd, academyddion ac actorion fu o dan ei adain. Bydd tair o ddramâu John Gwilym Jones yn sail i gyfres o berfformiadau a gweithdai a gynhelir gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr y Maes yn yr Eisteddfod. “Mae hi’n gywir ac yn briodol cofio cyfraniad amhrisiadwy John Gwilym Jones, yn enwedig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg, ar ben-blwydd ei eni,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts. “Er iddo ragori mewn dulliau eraill o lenydda ystyrir dramâu John Gwilym Jones yn bencampweithiau,” ychwanegodd. Bob dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd y pedwar o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru’n llwyfannu perfformiadau amser cinio neu yn ystod y prynhawn fydd yn para am dri chwarter awr. Bydd ‘Ac Eto Nid John Gwil’ yn cynnwys dwy o ddramâu byrion John Gwilym Jones, Un Briodas a Dwy Ystafell yn ogystal â rhan o Ac Eto Nid Myfi, sef dadansoddiad dramatig o berthynas dyn a’i anian sylfaenol. Perfformir Un Briodas am 12.30 o’r gloch, dydd Llun, Awst 2, 2004 ac am 2.30 o’r gloch, dydd Iau, Awst 5, 2004. Perfformir Dwy Ystafell am hanner dydd, dydd Mawrth, Awst 3, 2004, ac am 4.00 o’r gloch, dydd Gwener, Awst 6, 2004. Gellir gweld yn detholiad o Ac Eto Nid Myfi am 12.30pm, dydd Mercher, Awst 4, 2004, am hanner dydd, dydd Sadwrn, Awst 7, 2004. Cyfarwyddir y cynhyrchiad gan Cefin Roberts a Chyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts. |
| theatr genedlaethol cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, July 5, 2004 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Ar ganmlwyddiant ei eni bydd cyfraniad un o dramodwyr mwyaf dylanwadol Cymru’r ugeinfed ganrif yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd fis nesaf.