|
Bydd actorion proffesiynol yn cael cyfle i ymarfer eu sgiliau Shakesperaidd pan ddaw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru o un o drasiedïau enwocaf y damodydd o Statford–upon-Avon, Romeo a Juliet, yn eu hardal. O dan olwg barcud Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Cefin Roberts, bydd yr actorion yn cael eu cyflwyno i’r arddull glasurol. “Heb os y mae chwarae mewn dramâu clasurol yn rhoi sylfaen dda i yrfa unrhyw actor,” meddai Cefin Roberts. “Pwysleisir y pwysigrwydd o lefaru croyw a’r deallwriaeth o farddoniaeth a rhyddiaith ar eu gorau,” ychwanegodd. Cynhelir y dosbarthiadau meistr yn Theatr Gwynedd, Bangor ar Hydref 9, 2004 am 3.00 o’r gloch; yn Stiwdio Arad Goch, Aberystwyth ar Hydref 16, 2004 at 10.30 o’r gloch; Canolfan Gelfyddydau Dylan Thomas y Aberawe ar Hydref 20, 2004 at 2.30 o’r gloch; a Canolfan Celfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd ar Dachwedd 6, 2004 am 2.00 o’r gloch. Gwahoddir cynulledfa i fynychu’r dosbarthiadau meistr a dylai actorion sydd â diddordeb gysylltu â Judith Roberts ar judith@theatr.com er mwyn cwblhau’r trefniadau angenrheidiol. Cynhelir gweithdai ar gyfer myfyrwyr drama hefyd yn ystiod taith chwe wythnos Thetar Genedlaethol Cymru gyda Romeo a Juliet. “Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddehongli gwaith Shakesperae gan ganolbwyntio ar yr iaith a’r mesur a defnyddia yn ei waith,” ychwanegodd Cefin Roberts. “Bydd y myfyrwyr yn clywed am y gwaith corfforol a lleisiol sy’n gysylltiedig â bod yn rhan o gorws ac i arbrofi gyda’r sgiliau perfformio,” meddai. Cyhhelir y gweithdai yn Theatr Felinfach, Ceredigion, ar Hydref 13, 2004, am 1.30 o’r gloch; yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar Hydref 15, 2004, am 10.00 o’r gloch; Neuadd y Dref Denbigh ar Hydref 20, 2004, at 12.30 o’r gloch; Theatr y Stiwt, Rhosllennerchrugog ar Hydref 21, 2004 at 10.00 o’r gloch; Canolfan Cymunedol Llanrwst, Hydref 22, 2004 am 10.00 o’r gloch; Canolfan Celfyddydau Dylan Thomas Abertawe ar Dachwedd 2, 2004, am 10.00 o’r gloch; Canolfan Celfyddydau’r Chapter Caerdydd ar Dachwedd 3, 2004 am 10.00 o’r gloch; Canolfan y Muni, Pontypridd ar Dchwedd 5, 2004, am 10.00 o’r gloch; a Theatr Mwldan, Aberteifi ar Dachwedd 11, 2004, am 10.00 o’r gloch. Gofynnir i ysgolion a cholegau gofrestru ey myfyrwyr ar gyfer y gweithdai drwy gysylltu â Judith Roberts ar judith@theatr.com Bydd taith Theatr Genedlaethol Cymru gyda Romeo a Juliet yn cychwyn ar Hydref 6-9, 2004, yn Theatr Gwynedd, Bangor, cyn mynd ymlaen I Ganoklfan Celfyddydau Aberystwyth (Hydref 14-16), Theatr Stiwt, Rhosllanerchrugog (Hydref 19-20), Canolfan Celfyddydau Taliesin Abertawe (Hydref 28-29), Theatr Sherman Caerdydd (Tachwedd 3-5) gan orffen yn Theatr Mwldan, Aberteifi (Tachwedd 9-11). Dyma fydd perfformiad cyntaf o’r ddrama Romeo a Juliet yn y Gymraeg gan gwmni theatr proffesiynol. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: judith@theatr.com |
| Monday, September 27, 2004 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
