|
Epa yn y Parlwr Cefn Gan Sion Eirian Maw 26 – Sadwrn 30 Hydref , 8yh Dyma gynhyrchiad newydd o ddrama bwerus Sion Eirian gan Gwmni Theatr 3D. Hanes tair putain wahanol iawn sydd yma – Mary, Bethan a Linda. Myfyrwraig o gefndir breintiedig yw Bethan, sy’n puteinio er mwyn talu am ei lle yn y coleg. Mae’n boendod i Linda, sy’n butain ifanc, surbwch, ond gwelwn y ddwy yn eu tro yn ffoi o’u sefyllfaoedd drwy eu hatgofion a’u dychymyg. Putain brofiadol, wedi ei chaledu yw Mary. Ystyriwn yr hyn sydd fwya’ anfoesol – galwedigaeth drist a diflas y merched, neu drachwant ffasiynol a dienaid eu lanlord, Scoot? Ai niwroses rhywiol ein cymdeithas sy’n gyfrifol am gynnydd puteinio, neu’r amodau cymdeithasol dinistriol cynyddol? Nid ceisio ateb yr amlwg a wneir, ond creu darlun bras o fywyd pedwar cymeriad, mewn un gornel fach o’r cynfas. Anaddas i rai dan 16. A new production of Sion Eirian’s hard hitting play about three prostitutes, not performed in Wales for over a decade. Unsuitable for children under 16. £5 / £4 Cwmni Theatr 3D 16 donald street Roath Caerdydd CF24 4TQ 07815 099995 |
| Cwmni Theatr 3D web site: |
| e-mail: post_3d@hotmail.com |
| Monday, October 4, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
