“Frongoch” gan Ifor ap Glyn a Micheál Ó Conghaile
Mae ymarferion wedi cychwyn ar gyfer cynhyrchiad cyffrous ar y cyd rhwng Llwyfan Gogledd Cymru a Project Arts Centre Dulyn.
Wedi Gwrthryfel y Pasg 1916 yn Nulyn carcharwyd dros 1,800 o Wyddelod yng Ngwersyll Frongoch, ger Y Bala. Yno, fe greuwyd y cynlluniau a ysgogodd annibyniaeth, yno hefyd daeth Michael Collins i amlygrwydd. Mae Frongoch, yn ymdrin â digwyddiadau yn y gwersyll a lywiodd gwrs cenedl. Mae'n codi cwestiynau am berthynas Cymru a'r Iwerddon sydd yr un mor berthnasol nawr ag yr oedden nhw yn y cyfnod.
Daw’r cast o ddwy ochr Môr Iwerddon a byddant yn defnyddio tair iaith gyda’r deunydd o daflunio a fideo yn gwneud y cynhyrchiad yn ddealladwy bawb. Yn fyw ar y llwyfan fe fydd Richard Elfyn ennillydd BAFTA Cymru, Michael Atkinson, a ymddangosodd yn y ddrama wobrwyol Ta Ra Teresa a’r Gwyddel ifanc Caoimín Ó Conghaile. Bydd deuddeg actor arall yn ymddangos ar fideo ac ar dâp.
Yn ôl y cyfarwyddwr Ian Rowlands ““Mae gormod o siarad wedi bod am frawdgarwch Celtaidd heb ystyried yn ddwys ei ystyr – os oes ystyr iddo! Y mae llu o gamddealltwriaeth rhwng Iwerddon a Chymru, gyda’r cynhyrchiad hwn, ein gobaith yw adeiladu pontydd”.
Awdur FRONGOCH yw’r Prifardd a’r cyfarwyddwr teledu llwyddiannus Ifor ap Glyn ynghyd a’r awdur gwobrwyol Micháel Ó Conghaile o’r Iwerddon. Dyma drydydd cynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru yn dilyn llwyddiant “Ta Ra Teresa” a “Deinameit”.
Manylion y Daith
Chwefror 8-11 - Theatr Gwynedd, Bangor
Chwefror 17 - Theatr Ardudwy, Harlech
Chwefror 19 - Canolfan y Celfyddydau ,Aberystwyth
Chwefror 22 - Theatr y Lyric, Caerfyrddin
Chwefror 25 - Theatr Mwldan, Aberteifi
Chwefror 26 - Ysgol Uwchradd Llanbedr Pontsteffan
Chwefror 28 - Canolfan y Chapter , Caerdydd
Mawrth 2 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Mawrth 3 - Theatr Colwyn , Bae Colwyn.
Mawrth 4-5 - Theatr Clwyd , Yr Wyddgrug.
Mawrth 9-11 - Garter Lane, Waterford
Mawrth 15-16 - Galway
Mawrth 18-19 - Belfast
Mawrth 21-26 - Project Arts ,Dulyn.
Mawrth 28 - Y Galeri , Caernarfon.
Mawrth 30 - Y Stiwt, Rhosllannerchrugog.
Mawrth 31 - Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Swyddog y Wasg Llwyfan Gogledd Cymru Rhian Cadwaladr ar 07818 424283 rhianc@btinternet.com neu Llio Prydderch Huws, gweinyddwraig ar 01248 370088. www.llwyfan-gogledd-cymru.com
Creuwyd Llwyfan Gogledd Cymru gan Ian Rowlands yn 2003 gyda’r bwriad o greu cynhyrchiadu o safon uchel ar gyfer Gogledd Cymru a thu hwnt.
Polisi artistig y cwmni yw ceisio pontio’r gagendor rhwng iaith a diwylliant Cymraeg a Saesneg. Mae Frongoch yn esiampl o’u bwriad o gyflwyno cyn hychiadau aml-gyfrwng, aml-ieithog gyda’r bwriad o gryfhau safle yr iaith Gymraeg a codi ymwybyddiaeth o theatr Gymreg ar lwyfan ryngwladol.
Mi fydd y broses o greu Frongoch yn cael ei ffilmio gan Cwmni Da ar gyfer ei ddarlledu ar S4C ym mis Mai.
Ariannir y cynhyrchiad gan fudiadau yn cynnwys, Cyngor celfyddydau Cymru, Welsh Arts Internation. Hwn yw’r cynhyrchiad cyntaf i gael ei ariannu gan CCAT. Cynllun o dan y rhaglen Interreg IIIa yw CCAT yng nghanolfan y celfyddydau Aberystwyth a Temple Bar a'i nod yw meithrin perthnasoedd rhwng pobl sy'n ymwneud â'r celfyddydau yng Nghymru ac Iwerddon gan godi proffil byd y celfyddydau yn y ddwy wlad gartref a thramor.
|