Daeth hyd at 10,000 o bobl i weld perfformiadau a gweithgareddau eraill Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod blwyddyn gyntaf y fenter.
Amrywiodd y cynyrchiadau o ddrama gignoeth Meic Povey, Yn debyg iawn i ti a fi, sy’n ymdrin â sgitsoffrenia i Romeo a Juliet William Shakespeare a Plas Drycin, sef drama gomedi fodern yn bwrw’i ffon fesur dros yr argyfwng tai mewn ardaloedd gwledig. Ar gyfartaledd Cymru roedd 66% o seddi prif theatrau Cymru’n llawn at gyfer y perfformiadau.
“Mae ein polisi gwreiddiol o fynd â’n cynyrchiadau cyn agosed â phosib at ein cynulleidfa wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant,” meddai Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru, Lyn Jones.
“Bellach, flwyddyn yn ddiweddarach, gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol gan wybod yn iawn fod gennym gynulleidfa deyrngar a chref Gymru benbaladr,” ychwanegodd.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru’n cyflogi deg yn llawn amser gan gynnwys tîm o bedwar o actorion craidd ifanc a brwdfrydig. Y Cyfarwyddwr Artistig yw’r hynod dalentog Cefin Roberts.
Mae’r cwmni bellach yn barod ar gyfer y cynhyrchiad nesaf. Ystyrir Ty ar y Tywod yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y theatr Gymraeg, gyda’r awdur, y diweddar Gwenlyn Parry, yn un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol ac amrywiol Cymru’r ugeinfed ganrif.
Llwyfannwyd Ty ar y Tywod gyntaf ym 1968 ac fe gymharir y ddrama’n aml gyda gwaith dramodwyr byd enwog y cyfnod fel Harold Pinter a Eugéne Ionesco.
Bydd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o’r ddrama yn cychwyn ar daith chwe wythnos o Gymru yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug a nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 21-23 o Ebrill, 2005, cyn mynd ymlaen i Theatr Gwynedd, Bangor (27-29 Ebrill, 2005); Theatr Lyric, Caerfyrddin (Mai 4, 2005); Canolfan Gelfyddydau Taliesin Abertawe (6-7 Mai, 2005); Theatr Mwldan, Aberteifi (13-14 Mai, 2005); Theatr Ardudwy, Harlech (17-18 Mai, 2005); a Theatr Sherman, Caerdydd, (26-28 Mai, 2005).
Mae cynlluniau ar droed hefyd i lwyfannu drama gerdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn wedi’i selio ar ddiwygiad rhyfeddol Evan Roberts union gan mlynedd yn ôl.
"Fe gymrodd hi amser hir a chryn ddyfalbarhad i wireddu’r freuddwyd o theatr genedlaethol Gymraeg, ond mae’r ymateb a gawson ni dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos yn glir fod galw am ddatblygiad o’r fath,” ychwanegodd Lyn Jones.
“Rwy'n hyderus y bydd y fenter yn tyfu o nerth i nerth fel y byddwn ni sy’n aelodau’r Bwrdd Rheoli yn ogystal â’r tîm awyddus o actorion a’r rhai sy’n gweithio’r tu ôl i’r llwyfan yn ymateb yn gadarnhaol i’r sialens,” meddai.
Ar hyn o bryd mae Theatr Genedlaethol Cymru a'i bencadlys yn Llanelli ond bwriedir symud i Gaerfyrddin pan fydd y ganolfan gelfyddydau newydd yng Ngholeg y Drindod wedi'i chwblhau.
|