|
MARAT / SADE Mercher – Gwener EBRILL 27-29 Carchar Biwmaris Yn niwedd Ebrill gwelir cynhyrchiad olaf Adran Cyfathrebu a’r Cyfryngau yn cael ei llwyfannu yn amgylchfyd hynod ddramatig carchar Biwmaris, Ynys Môn. Teitl llawn y ddrama yw ERLYNIAD A LLOFRUDDIAETH JEAN PAUL MARAT, WEDI’I PHERFFORMIO GAN GLEIFION YSBYTY MEDDWL CHARENTON DAN GYFARWYDDYD Y MARQUIS DE SADE, ond mae drama Peter Weiss, yr enghraifft mwyaf nodedig o Theatr Creulondeb Antonin Artaud, yn fwy cyfarwydd fel Y MARAT / SADE. Mae yma wrth reswm drama o fewn drama wrth i’r Marquis dderbyn caniatad i gyflwyno gwaith theatrig therapiwtig, ond mae’n ymddangos fod ganddo agenda arall wrth gyflwyno perfformiad am hanes diweddar y Chwyldro Ffrengig. Yn ein fersiwn ni o’r ddrama, cafodd de Sade weithio gyda thrigolion benywaidd yr ysbyty meddwl yn unig, gyda Coulmier y Pennaeth yn synhwyro y byddai’r marched yn haws eu trin . Yn unig ddynion sy’n ymddangos yn y ddrama ei hun felly yw gweithwyr yr ysbyty. Mae’n bosib y rhagwelir diweddglo chwyldroadol i’r cynhyrchiad gan de Sade, ond beth yn union fydd canlyniad corddi dyfroedd dwfn y cleifion? Perfformir y Marat / Sade am dair noson yn unig yng Ngharchar Biwmaris, gyda’r niferoedd yn gyfyng. Dylid cysylltu ag Amgueddfeydd ac Orielau Môn i sicrhau tocynnau: Oriel Môn 01248 724444 Carchar Biwmaris 01248 810921 Llys Biwmaris 01248 811691 Os hoffech chi fwy o fanylion am gefndir y sioe, cysylltwch â: Nic Ros n.ros@bangor.ac.uk 01248 383206 |
| web site: |
| nic ros e-mail: n.ros@bangor.ac.uk |
| Thursday, April 14, 2005 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
