Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

nwydaun mudlosgi     

Botticelli’s Bonfire yw’r cynhyrchiad diweddaraf gan ThCIC gwobrwyol sy’n dychwelyd i Aberystwyth ym mis Awst. Ysgrifennodd Greg Cullen ei ddrama newydd yn benodol i’r cwmni ifanc, sy’n dod o Gymru gyfan ac yn cynrychioli’r gorau o genhedlaeth newydd o berfformwyr. Cyflwynir Botticelli’s Bonfire ganddynt am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 2 Medi (7.30 p.m.).

Yn y ddrama dangosir sut y daw dinas a fu unwaith yn oleuedig yn agos at ddifodiant wrth i arweinydd crefyddol, carismataidd reoli’r boblogaeth ofnus. Wedi’i lleoli yn Fflorens ar adeg y Dadeni, mae Botticelli’s Bonfire yn codi sawl cwestiwn hynod o fodern wrth ddweud hanes artist arloesol sy’n colli bri wrth i rymoedd anoddefgarwch gymryd gafael a cheisio gwahardd syniadau newydd a mynegiant artistig. Llosgir llyfrau, peintiadau a cherfluniau yn y strydoedd wrth i ddilynwyr Savonarola, Brawd Du militaraidd, geisio troi holl gyraeddiadau artistig Botticelli a’i gyfoedion yn llythrennol yn llwch.

Bydd gan y ddrama sgôr “ffilmaidd” gyda cherddoriaeth wreiddiol wedi’i chyfansoddi gan Steve Allan Jones, cyn-aelod o’r band The Alarm. Debbie Seymour fydd y Gyfarwyddwraig Wadd yn 2005 ac mae hithau’n ymuno â ThCIC am y tro cyntaf. Yn flaenorol cyfarwyddodd ddramâu newydd gyda Paines Plough, Theatr Hampstead, Old Vic Bryste a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ymhlith eraill.

Mae’r cwmni’n cynnwys perfformwyr sy’n 16-21 mlwydd oed. Mae llawer ohonynt eisoes yn astudio mewn rhai o brif golegau drama’r DU, gan gynnwys RADA, Central a CBCDC. Yn ymuno â ni eleni hefyd mae’r actores o Bobol y Cwm, Alex Roach (17) – Alex sy’n chwarae cymeriad Elin yn opera sebon S4C.

Cyflwynir Botticelli’s Bonfire am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 2 Medi (7.30 p.m.) gyda pherfformiadau pellach ar 3 Medi am 2.30 p.m. a 7.30 p.m. Swyddfa Docynnau: 01970 623232. Ar daith: Clwyd Theatr Cymru (1.00pm & 7.30pm, Medi 6); Theatr Brycheiniog, Brecon (7.30pm, Medi 7; 12.30pm, Medi 8); Theatr Y Sherman, Caerdydd (1.00pm & 7.30pm, Medi 9; 2.30pm & 7.30pm, Medi 10).


“You can expect a lively show in the award-winning style that has become synonymous with the National Youth Theatre of Wales.”
(Cylchgrawn Buzz ar ThCIC, 2005)
ThGIC  
web site
:
Penny Simpson
e-mail:
Monday, August 08, 2005back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk