Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Hercules gan Handel yn y Gate, Caerdydd     

Hercules gan Handel yn y Gate, Caerdydd am 7.30
Tocynnau 02920 483344

Ar y 28fed o Fedi, bydd y Gerddorfa Faroc Gymreig, y Camerata Cymreig a phump unawdydd baroc yn perfformio un o weithiau mwyaf cyffrous Handel, cyn mynd i’w berfformio yng ngwyl baroc Varazdin yn Croatia.

Cariad,
Cenfigen,
Colled – dyma’r teimladau sy’n cael eu trafod yn yr oratorio ddramatig hon.

Er mai Hercules yw enw’r gwaith, y prif gymeriad yw Dejanira – ei wraig.
Mae Dejanira yn ddigalon oherwydd fod Hercules wedi bod oddi cartref am flynyddoedd. Mae Hyllus, ei mab a’r gwas Lichas yn ceisio ei chysuro.
Daw Hercules yn ol o ryfel yn Oechalia – gyda nifer o gaethweision, yn eu mysg merch brydferth o’r enw Iole.
Wrth weld prydferthwch Iole, mae cenfigen Dejanira yn cynyddu, ac mae’n cyhudddo’r gaethferch o ddwyn cariad ei gwr, a Hercules o fod yn anffyddlon.
Diwedd y gan yw marwolaeth Hercules.

Y cantorion;

HERCULES (Bariton)
Richard Morris o Bontardawe.
Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru a’r Guildhall yn Llundain. Mae ei waith yn ymestyn o ganu Mass Bernstein dros y byd, a Les Miserables yn y West End i ganu gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment a pherfformio gweithiau newydd gan Birtwhistle a Metcalf.

DEJANIRA (Mezzo Soprano)
Buddug Verona James o Aberteifi
Astudiodd yn y Guildhall a’r Opera Studio. Mae ganddi diddordeb mawr ym myd y baroc – wedi canu Orfeo (Gluck) yn America a Canada, a Dardano (Handel) yn Ewrop ac America. Ond hefyd a dileit yn y newydd – ysgrifennodd Pwyll ap Sion drefniant iddi o ganeuon gwerin am Gwyl Gwyr eleni. www.buddug.co.uk

HYLLUS (Tenor)
Huw Rhys Evans o Dregaron
Astudiodd yn yr Academy yn Llundain a’r Opera Studio. Yn ddiweddar, mae wedi canu gyda Chwmni Opera Norwy. Mae’n arbennigo yng ngherddoriaeth Handel, Bach a Rossini. Ar y foment yn rihyrsio opera gan Haydn – i’w berfformio yn St John Smith Square yn Llundain

IOLE (Soprano)
Julia Gooding o Lundain
Astudiodd yn y Guildhall. Mae yn arbennigo mewn gweithiau baroc yn unig – ac wedi gweithio gydag arweinyddion o fri fel Nicholas McGegan, Paul McCreesh, Charles Mackerras, a Trevor Pinnock.

LICHAS (Counter Tenor)
Jonathan Peter Kenny o Lerpwl
Astudiodd yn y Guildhall. Eto, mae’n arbennigo yn y baroc - yn enwedig Handel, ac wedi canu tua 25 o’i weithiau yn fyd-eang. Mae hefyd wedi perfformio gweithiau newydd gan Jonathan Dove, Deirdre Gribbin a Jocelyn Pook


Cor o 20 yw’r Camerata Cymreig a gafodd ei sefydlu i ganu gweithiau cynnar.

Sefydlodd Andrew Wilson-Dickson y Gerddorfa Faroc Gymreig yn 1992 er mwyn rhoi gwaith i gerddorion baroc yng Nghymru ac i hybu gweithiau baroc yng Nghymru. Ym Mis Mawrth eleni, fe berfformiwyd gwaith oratorio gan Ziani – nad oedd wedi ei pherfformio ers 300 mlynedd.


Thomas Chilcot Songs – Cerddoriaeth o’r 18fed ganrif – Cerddorfa Faroc Cymreig a Buddug Verona James (Meridian) (CDE84428),
Arias gan Handel a Gluck allan o sioe un-fenyw Buddug - Castradiva gyda ‘Ensemble’ o’r Gerddorfa (Fflach)(CD2371)
The James Sisters sing Gospel – Buddug a’i chwiorydd – ‘dem bones’ wedi’i drefnu gan Andrew Wilson-Dickson (Fflach) (CD258H)
All through the night – Caneuon gwerin i gyfeiliant telyn – Huw Rhys Evans a Ieuan Jones (Claudio Records) (CR4114-2) (Harp)
Catalogue No: CR4114-2


Cysylltu

Mae’r canlynol yn siarad Cymraeg – ac yn hapus i wneud cyfweliadau.

Buddug Verona James – neu buddug@buddug.co.uk
Huw Rhys Evans – huwrhysevans@onetel.com
Tim Pearce (Y Camerata Cymreig)- t.j.pearce@ntlworld.com
Buddug Verona James  
web site
:
Buddug Verona James
e-mail: buddug@buddug.co.uk
Wednesday, August 31, 2005back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk