Mae’r Theatr Newydd, Cwmni Theatr Cymru a Chyngor Caerdydd wedi dod at ei gilydd i gynnig tocynnau am ddim i bobl Caerdydd, Cymru a thu hwnt. Mae cynhyrchiad arloesol o Hamlet yn cael ei gyflwyno i’r ddinas fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Caerdydd. Cynhelir digwyddiadau canmlwyddiant trwy gydol y dydd ac mae busnesau, ysgolion a lleoliadau celfyddydol yn chwarae eu rhan. Mae’r Theatr Newydd wedi gosod esiampl anghyffredin drwy gynnig tocynnau ar gyfer y cynhyrchiad cymeradwy diweddaraf o Hamlet am ddim ar gyfer yr holl berfformiadau rhwng 2 a 12 Tachwedd. Ffurfiwyd Cwmni Theatr Cymru dair blynedd yn ôl. Dyma eu trydydd ymweliad i’r Theatr Newydd ac mae’r perfformiad hwn yn nodi pennod newydd cyffrous yn eu gwaith. Yn ogystal â pherfformio’r ddrama drwy gyfrwng Saesneg gwreiddiol Shakespeare, bydd 2 berfformiad o’r ddrama mewn cyfieithiad Cymraeg newydd gan Gareth Miles. Mae’r cynnig tocynnau am ddim ar gyfer yr holl berfformiadau yn y ddwy iaith a chyfyngir rhifau’r tocynnau gan argaeledd yn unig. Yr unig amod yw bod y tocynnau a dderbynnir dan y cynnig hwn yn cael eu defnyddio. Bydd y Theatr Newydd yn cysylltu â’r bobl sydd eisoes wedi archebu tocynnau i gynnig dêl arall. Dywedodd y Cynghorydd, Nigel Howells, aelod Gweithredol Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant: “Rwyf wrth fy modd y bydd y Theatr Newydd yn chwarae rhan mor allweddol yn nathliadau Canmlwyddiant Caerdydd drwy wahodd pawb i weld y cynhyrchiad cyffrous hwn o Hamlet am ddim. Hoffwn ddiolch i’n partneriaid Caerdydd 2005, Comisiwn y Mileniwm a Chwmni Theatr Cymru am eu cymorth gwerthfawr i wneud y cynnig arbennig hwn yn realiti. Rwy’n annog pawb i ddod draw a bod yn rhan o’r dathliadau.” Dywed Cyfarwyddwr Hamlet Michael Bogdanov: “Mae’n anrhydedd i fod yn rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Caerdydd. Rwy’n gobeithio y bydd cefnogwyr Shakespeare, pobl sy’n newydd i’w waith a phobl nad ydynt erioed wedi bod i’r theatr o bosibl yn manteisio’n llawn ar y cynnig eithriadol hwn.” Mae Hamlet yn y Theatr Newydd, Caerdydd o Ddydd Mercher 2 – Dydd Sadwrn 12 Tachwedd cyn parhau â’i daith o Gymru. Mae tocynnau am ddim ar gael o 10am Dydd Iau 27 Hydref o’r Swyddfa Docynnau ar Caerdydd (029) 2087 8889 neu ar-lein ar www.newtheatrecardiff.co.uk Bydd ffi pryniant bach arferol y lleoliad o £1.50 am brynu ar-lein. Am fanylion pellach, delweddau electronig a chyfweliadau cysylltwch â: Liz Brillante, Adran Marchnata, Ffôn: 029 2087 8797, E– bost: ebrillante@cardiff.gov.uk Am wybodaeth bellach ar ddigwyddiadau Dydd Caerdydd, cysylltwch â Lindsey Hawker, Swyddog y Wasg, Cyngor Caerdydd (029) 2087 2965, 07989 996 116, ffacs (029) 2087 2499, lhawker@cardiff.gov.uk |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: ebrillante@cardiff.gov.uk |
| Wednesday, October 26, 2005 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae’r Theatr Newydd, Cwmni Theatr Cymru a Chyngor Caerdydd wedi dod at ei gilydd i gynnig tocynnau am ddim i bobl Caerdydd, Cymru a thu hwnt. Mae cynhyrchiad arloesol o Hamlet yn cael ei gyflwyno i’r ddinas fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Caerdydd.