Mae Dalier Sylw yn croesawu’r ddogfen fel ymdrech i ymateb i’r problemau sydd wedi wynebu drama yng Nghymru ers blynyddoedd. Mae’n amlwg bod rhaid cael newid, ac mae pawb yn ymwybodol nad yw’n bosib i fynd ymlaen gyda’r sefyllfa bresennol. Mae’r ddogfen yn agor y drws ar drafodaethau buddiol ar fyd y ddrama
Mae’r datganiad o’r bwriad i greu dau gwmni cenedlaethol yn cadarnhau y sibrydion a fu ar led ers amser, ac yn anorfod mae’n debyg ers i Clwyd Theatr Cymru ddenu cymaint o nawdd yn y blynyddoedd diwethaf. Ond dylid sicrhau bod ymarferwyr theatr Cymru yn cael y cyfle i weithio o fewn y sefydliadau yma, yn enwedig Clwyd Theatr Cymru, er mwyn datblygu sgiliau a chael y cyfle i weithio gyda’r math yma o adnoddau. Os yw’r sefydliadau yma i ddod i gynrychioli’r gorau o fewn y ddrama yng Nghymru, bydd rhaid gosod targedau uchel a’u monitro yn gyson. Yn anffodus nid oes gennym adolygwyr annibynnol o safon yng Nghymru i wneud y gwaith yma, a bydd sicrhau system asesu yn anodd.
Mae Dalier Sylw yn croesawu’r ychwanegiad at arian grantiau prosiect. Mae llawer o bobl wedi methu datblygu eu gwaith oherwydd y system bresennol sydd wedi amddifadu artistiaid, nad ydynt ynghlwm a chwmni refeniw, o’r cyfle i weithio. Serch hynny er mwyn i’r cwmnïau prosiect fedru derbyn cymorth gan gwmnïau refeniw, rhaid i’r broses benderfyniadau ddigwydd ynghynt er galluogi’r cwmnïau refeniw i gynllunio’u rhaglenni gwaith.
Mae’n rhaid mynegi pryder nad oes yn y strategaeth unrhyw gyfeiriad at deithio Cymunedol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi sôn ers rhai blynyddoedd y bwriedir trosglwyddo cyfrifoldeb am y ddarpariaeth hon I Asiantaeth Allanol, ond nid oes datblygiad i’r perwyl hyn eto. Ymddengys nad yw Teithio Cymunedol yn uchel iawn ar restr blaenoriaethau’r Cyngor.
Canolir ymateb Dalier Sylw, wrth reswm ar yr adran o’r Strategaeth sy’n trafod ysgrifennu newydd, maes y mae’r cwmni hwn wedi gwneud gwaith arloesol ynddi ers deng mlynedd, ac mae parch mawr at y cwmni gan awduron, actorion, a chanolfannau. Rydym yn siomedig iawn nad yw llwyddiant y cwmni wedi cael ei gydnabod trwy gynnydd yn ein grant.
Fodd bynnag o dderbyn y sefyllfa honno, cred Dalier Sylw y gallai’r syniad o greu adeilad penodol ar gyfer ysgrifennu newydd, yn hytrach na chreu canolfan gyda chwmnïau ysgrifennu newydd yn rhan ohoni, fod yn gyffrous iawn. Wrth ganoli cymaint o arian ac adnoddau yn y gogledd mae’r brifddinas yn cael ei amddifadu. Mae’n bwysig bod Caerdydd yn cael proffil uchel fel cartref i gwmni cenedlaethol, yn hytrach na dim ond bod yn un o’r lleoliadau y bydd y cwmnïau cenedlaethol yn teithio iddyn nhw.
Mae’r cwmni yn poeni yngly^n â dyfodol diwylliant Cymraeg y De-Ddwyrain. Credwn drwy golli Dalier Sylw y byddai’r elfen ddinesig yn cael ei golli, a bod hyn yn gam yn ôl yn ddiwylliannol.
Byddai creu ty^ ar gyfer ysgrifennu newydd o’r Sherman yn cynnig cyfle am ddatblygiadau cyffrous ac unigryw yn y brifddinas. Credwn y byddai hyn, ar drothwy sefydlu’r Cynulliad yn gyfle gwych i greu sefydliad a fyddai’n datblygu gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae o bosib 2 opsiwn
Opsiwn 1 Rhoi cwmnïau Dalier Sylw, Made In Wales a’r Sherman gyda’u gilydd o dan yr un to. Mae sawl cwestiwn yn codi yma: · A oes digon o le yn yr adeilad i dri chwmni · Be fyddai’r strwythur - a fyddai’r cwmni yn colli ei fwrdd rheoli · A fyddai bwrdd rheoli D.S. yn ddarostyngedig i fwrdd Y Sherman · Rhaid diogelu polisi dwyieithog · Rhaid sicrhau annibyniaeth artistig
Opsiwn 2 Creu un corff i reoli’r sefydliad gyda rheolwr a chyfarwyddwyr cynorthwyol yn gyfrifol am yr ystod o wasanaethau.. Efallai dylid creu un cwmni newydd ac enw newydd o’r tri chwmni presennol. Dylid ceisio cysylltu’r gweithgaredd yn Dempseys a’r cynllun hefyd. Hoffwn dynnu eich sylw at gais Dalier Sylw i gyfuno’r cwmni â Made in Wales rhai blynyddoedd yn ôl.
Gallai’r cwmni newydd ddatblygu y swyddogaethau canlynol fel rhan ganolog o’i frîff: ·
Bod yn ganolfan hyrwyddo a derbyn ysgrifennu newydd
Datblygu perthynas gyda chwmnïau eraill led Prydain sy’n cyflwyno gwaith newydd ·
Rhwyd weithio a chwmnïau eraill er datblygu ysgrifennu newydd ar eu cyfer yn y Gymraeg a’r Saesneg ·
Darparu rhai cynhyrchiadau ·
Gweithio gyda dramodwyr i ddatblygu eu gwaith ( o weithdai i sesiynau un ag un) ·
Cydweithio â’r brifysgol i ddatblygu cwrs ol-radd ar ysgrifennu newydd yn y ddwy iaith ·
Rhwyd weithio ag ysgolion a cholegau ·
Cyhoeddi gweithiau a darparu catalog yn nodi’r gweithiau sydd ar gael ·
Datblygu cysylltiadau cryf a’r cyfryngau, a datblygu gwaith ar gyfer radio a theledu ·
Creu cyfleoedd ar gyfer cyfarwyddwyr gwadd ·
Darparu gwasanaeth theatr ieuenctid yng Nghaerdydd gyda’r pwyslais ar ysgrifennu newydd
Mae’r pwynt olaf yn codi cwestiwn am ariannu. A fyddai ariannu Theatr Ieuenctid yn dod o dan Theatr Bobl Ifanc? A fyddai’n rhaid ceisio am ffranseis Theatr Bobl ifanc er mwyn ariannu y gwaith? A sut mae gwneud hyn o fewn amserlen bresennol Cyngor Celfyddydau Cymru?
Rhaid codi cwestiwn am gyflwr adeilad y Sherman hefyd. Mae sôn bod angen gwariant mawr ar yr adeilad sydd wedi dirywio’n arw; mae hyd yn oed sôn bod yr adeilad yn mynd i gau cyn hir. Yn sicr dydi’r adeilad fel y mae wedi ei osod allan ar hyn o bryd ddim yn gwneud y defnydd gorau o’r gofodau oddi mewn iddi.
Mae datblygiad newydd cyffrous o’r fath yma yn mynd i fod angen cyllideb realistig ac amser i’w setio i fyny. Os mai ceisio arbed arian yw’r nod trwy osod tri chwmni gyda’u gilydd dydi’r cynllun ddim yn mynd i weithio.
I Dalier Sylw mae sawl ystyriaeth. Ydym ni’n barod i aberthu’r cwmni "for the greater good". Mae dod â’r cwmni i ben yn opsiwn y bydd rhaid edrych yn ofalus arno. Byddai hyn yn golygu mai drama Wil Garn fyddai cynhyrchiad olaf Dalier Sylw.
Symud ymlaen
Er mwyn gweld os oes modd cydweithio, mae Dalier Sylw yn awgrymu bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn galw cyfarfod o’r tri chwmni, lle byddant yn cyflwyno i’w gilydd yr hyn maent wedi ei gyflawni, a’u gobeithion am ddyfodol ysgrifennu newydd. Awgrymwn y dylid apwyntio "facilitator" i arwain y drafodaeth.
Os yw’r opsiwn o greu un cwmni dwyieithog yn apelio, awgrymir y dylid cael tim ymgynghorol i archwilio’r holl bosibiliadau, ac i lunio cynllun a fyddai’n ddatblygiad cyffrous a gwerthfawr ar gyfer y mileniwm.
Hoffai’r bwrdd gael ymateb i’r syniadau yma cyn diwedd mis Mawrth 1999. Oherwydd oblygiadau gwaith rydym wedi clustnodi mis Gorffennaf fel cyfnod i gwblhau unrhyw benderfyniadau ar ddyfodol y cwmni. Byddwn yn gofyn am gyfarfod a Chyngor Celfyddydau Cymru ddiwedd Gorffennaf i gytuno ar gynllun er mwyn dechrau gweithredu ym mis Medi. Bydd hyn yn rhoi 6 mis i ni (3 mis yn gyfnod cynhyrchu ddechrau 2000) i weithredu’r penderfyniadau.
Bwrdd Rheoli Dalier Sylw
|