|
Mae’r New Theatre yn dathlu canrif o adloniant gyda thymor o berfformiadau disglair, o ddramâu pryfoclyd, perfformiadau dawns rhyfeddol, comedïau gwyllt a gwallgof, dramâu difyr i blant a sioeau cerdd di-ri - a rhywbeth tra arbennig ar gyfer yr haf! Mae’r tymor yn dechrau gyda SIMPLY BALLROOM yng nghwmni 16 o bencampwyr dawnsio o fri. Bydd ffans dawnsio wrth eu boddau gyda thair dawns ryngwladol gan gwmni DIVERSIONS, sioe I GOT RHYTHM gan y Northern Ballet Theatre, a doniau ifanc lleol yn POPSTARS DANCE SCHOOL. Os ydych am fwynhau noson o ramant pur, cofiwch am ROMEO AND JULIET a fydd yn dechrau ar noson Sant Ffolant yma am wythnos. Mae chwarae’n troi’n chwerw yn ddiweddarach yn y tymor gyda’r ddrama THE HOLLOW gan Agatha Christie, ac yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o A CHORUS OF DISAPPROVAL gan Alan Ayckbourn, comedi o fri ac enillydd gwobr Olivier. Cewch lond bol o chwerthin gyda dramâu eraill - o hiwmor du FESTEN, hanesion ffraeth THE VAGINA MONOLOGUES a hiwmor heb ei ail gan fenywod y Cymoedd yn A KISS ON THE BOTTOM gan Frank Vickery. Cewch ddôs o ddigrifwch dychrynllyd yn THE CIRCUS OF HORRORS fis Chwefror. Bydd y to iau yn dwlu ar anturiaethau egsotig KENSUKE’S KINGDOM a gwallgofrwydd GEORGE’S MARVELLOUS MEDICINE gan Roald Dahl. Byddwch yn dawnsio yn eich seddi gyda chymysgedd o sioeau cerdd newydd ac ambell hen glasur. Daw hanes athrylith canu ‘soul’ i Gaerdydd yn syth o Efrog Newydd, sef I CAN’T STOP LOVING YOU - THE RAY CHARLES STORY, bydd premiere Cymreig THE WITCHES OF EASTWICK gan gwmni Orbit Theatre, teyrnged i Frank, Sammy a Dean yn dod o’r West End i Gaerdydd yn THE RAT PACK: LIVE IN LAS VEGAS, a bydd yr hen ffefryn BUDDY - THE BUDDY HOLLY STORY yn dychwelyd ar ôl 5 mlynedd. Bydd y theatr yn llawn dop yn y gwanwyn gyda BLOOD BROTHERS gan Willy Russell, a bydd sioe gerdd newydd am hynt a helynt bachu cariad, PERSONALS, gan awduron ‘Friends’, i’w gweld yma fis Mehefin. I goroni’r cyfan, mae sioe gerdd fythgofiadwy Andrew Lloyd Webber, CATS, (sy’n 25 oed eleni) yn dod i’r New Theatre ac i’r de am y tro cyntaf erioed. Bachwch ar y cyfle i’w gweld! Bydd holl liw a llun dawnsio neuadd yn goleuo’r New Theatre wrth i Lionel Blair gyflwyno SIMPLY BALLROOM o ddydd Llun 6 tan ddydd Sadwrn 11 Chwefror. Mae’r sioe lwyfan ysblennydd hon yn dilyn llwyddiant ysgubol Strictly Come Dancing ar y teledu, gyda cherddorfa fyw a choreograffi gwych gan sêr y sioe, Anton Du Beke ac Erin Boag. Bydd hen, hen gynnen yn codi’i phen wrth i fersiwn ffres a bywiog Bill Bryden o ROMEO AND JULIET gamu ar lwyfan y New Theatre o nos Fawrth 14 tan nos Sadwrn 18 Chwefror. Yn addas ddigon, mae stori garu drasig y ddau gariad enwog yn agor ar ddydd San Ffolant. Wedi’i gosod yn Verona’r 15g, mae cwlwm teuluol angerddol yn gyrru teulu’r Capulet a Montague benben â’i gilydd gyda chanlyniadau torcalonnus. Ydych chi’n barod i fentro i fyd bwrlésg bendigedig THE CIRCUS OF HORRORS gydag ambell dro trwstan newydd a’r hen ffefrynnau hanner-pan o nos Fawrth 21 tan nos Iau 23 Chwefror? Dan oruchwyliaeth y Cylchfeistr Anfarwol, Doktor Haze, a’i fand roc a rôl diawledig o dda, The X Factor, cewch fwynhau giamocs syrcas peryglus ar y naw gyda thafod yn y boch. Ar ôl llwyddiant ysgubol Horrible Histories y llynedd, bydd y Birmingham Stage Company yn dychwelyd i Gaerdydd o ddydd Mawrth 28 Chwefror tan ddydd Sadwrn 4 Mawrth gyda hanes KENSUKE’S KINGDOM. Michael Morpugo yw awdur yr addasiad newydd hwn o stori boblogaidd a enillodd deitl Llyfr y Flwyddyn i Blant. Dilynwn hanes Michael a’i freuddwyd o hwylio rownd y byd sy’n prysur droi’n hunllef ar ôl cael ei longddryllio mewn storm enbyd. Ar ôl cael ei wahanu oddi wrth ei rieni, mae’n rhaid iddo ymdrechu am y gorau ar ynys bellennig yn y Môr Tawel. Er hynny, mae’n gwneud darganfyddiad anhygoel. Mae’r ynys arbennig hon eisoes yn gartref i un dyn – a dyma deyrnas Kensuke! Byddwch yn chwerthin yn eich dyblau o nos Fawrth 7 tan nos Sadwrn 11 Mawrth, wrth i gwmni Clwyd Theatr Cymru berfformio gwaith un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd Prydain. Mae A CHORUS OF DISAPPROVAL gan Alan Ayckbourn, yn llawn dawn dweud ffraeth nodweddiadol awdur sydd wedi ennill gwobr Olivier. Dyma gipolwg doniol ar fyd cwmni drama amatur, lle mae newydd-ddyfodiad yn llwyddo i gorddi’r dyfroedd wrth gynllwynio a charu ar y slei gyda’r rhan fwyaf o’i gyd-actoresau! Gyda Robert (High Hopes) a Julian Lewis Jones (Where The Heart Is). Bydd cynhyrchiad llwyddiannus Almeida Theatre o FESTEN, sydd wedi’i enwebu am sawl gwobr Olivier, yn dod i Gaerdydd o nos Lun 13 tan nos Sadwrn 18 Mawrth, cyn ei throi hi am Broadway. Dyma ddrama ddwys â thalp go lew o hiwmor du, wedi’i seilio ar y ffilm gwlt enwog a sbardunodd draddodiad y ffilmiau Dogme. Yn ystod cinio arbennig i ddathlu pen-blwydd y penteulu Helge Klingenfelt yn 60 oed, mae ei fab Christian yn datgelu cyfrinach sinistr o orffennol tywyll y teulu. Mae goblygiadau’r cyfaddefiad mawr yn addo dathliad na wnaiff neb fyth ei anghofio ar chwarae bach! Addas i rai dros 15 oed yn unig. Mae I CAN’T STOP LOVING YOU – THE MUSIC OF RAY CHARLES, teyrnged i athrylith canu ‘soul’, yn dod yn syth o Efrog Newydd i Gaerdydd o nos Lun 20 tan nos Sadwrn 25 Mawrth. Georgia on My Mind, Hit the Road Jack, You Are My Sunshine – dewch i glywed cantorion a dawnswyr Broadway a cherddorfa o fri yn perfformio’r hen ffefrynnau, wrth i ni olrhain bywyd anhygoel Ray Charles a’i ganeuon jazz, y bl_s a’r bandiau mawr. O nos Lun 27 Mawrth tan nos Sadwrn 8 Ebrill, mae hen ffefryn yn dychwelyd i’r New Theatre - BLOOD BROTHERS gan Willy Russell - gyda Linda Nolan wrth y llyw unwaith eto fel Mrs Johnston, y fam sy’n celu cyfrinach drist â goblygiadau trasig. Dyma hanes cyffrous gefeilliaid sy’n cael eu gwahanu o’r crud cyn uno eto trwy ffawd greulon. Dyma chwip o sioe boblogaidd ledled y byd - mynnwch eich tocynnau nawr! Bydd stori ias a chyffro THE HOLLOW gan Agatha Christie yn cosi’ch chwilfrydedd o nos Lun 10 tan nos Sadwrn 15 Ebrill. Daw criw o ffrindiau ynghyd i ymlacio mewn t_ braf yn y wlad, cyn i lofruddiaeth ysgwyd pawb i’w seiliau. Mae pob copa walltog dan amheuaeth mwya’r sydyn wrth i hen garwriaethau a chyfrinachau ddod i’r fei… Kate O’Mara (Dynasty) a Tony Britton (Don’t Wait Up) yw rhai o actorion y ddrama gyffrous hon gan un o awduron straeon dirgelwch gorau’r byd. Mae cwmni brodorol y brifddinas, Orbit Theatre, yn dychwelyd gyda’r premiere Cymreig o’r sioe gerdd gythreulig o dda THE WITCHES OF EASTWICK o nos Fawrth 18 tan nos Sadwrn 22 Ebrill. Wedi’i seilio ar nofel John Updike a’r ffilm gwlt o’r un enw, mae’n olrhain hanes tair menyw sy’n byw bywyd digon di-nod yn nhref Eastwick, ac sy’n llwyddo i gonsurio pishyn o’r enw Darryl Van Horne. Ond mae pethau’n dechrau poethi pan fo’r swynwr dieflig yn llwyddo i swyno a bachu’r tair ohonynt! O nos Lun 24 tan nos Sadwrn 29 Ebrill, cewch ail-fyw oes aur rhai o gantorion gorau ac eiconau’r 20g, Frank Sinatra, Sammy Davis Jnr a Dean Martin yn THE RAT PACK – LIVE FROM LAS VEGAS a mwynhau casgliad gwych o’u caneuon mwyaf cofiadwy. Wedi’i gosod yn Las Vegas pan oedd bywyd yn un parti gwyllt ar ôl y llall i enwogion yr oes, mae’r sioe gampus hon wedi llenwi theatrau’r West End i’r ymylon ers dros 4 blynedd. Bydd cantorion pop y dyfodol yn dangos eu doniau yn POPSTARS DANCE SCHOOL ddydd Sul 30 Ebrill. Ar ôl eu perfformiadau llwyddiannus yn Neuadd Dewi Sant, mae’r criw ifanc hyn yn si_r o godi’r to wrth efelychu sêr y siartiau pop Eingl-Americanaidd. Mae’r cwmni dawns cenedlaethol o fri, DIVERSIONS, yn dychwelyd i’r New Theatre o nos Fercher 3 tan nos Sadwrn 6 Mai gyda thair dawns ryngwladol gan rai o’r coreograffwyr gorau o Québec, Sbaen a’r Unol Daleithiau. Mae’r sioe hon, sy’n slic a bywiog, yn si_r o’ch cyfareddu chi. Mae BUDDY – THE BUDDY HOLLY STORY - cyfuniad o stori serch a thorcalon, gyda rhai o ganeuon roc a rôl gorau’r 1950au yn gefndir iddi, yn dychwelyd nos Lun 8 tan nos Sadwrn 13 Mai. Mae’r stori’n olrhain hanes gyrfa fer ond anhygoel Buddy Holly a fu farw ym mlodau ei ddyddiau – o’i gytundeb recordio cyntaf i’r daith olaf, angheuol, honno. Dyma ddathliad o dros 30 o glasuron Holly, gan gynwys Peggy Sue a That’ll Be The Day. Bydd enwogion lu yn dod i Gaerdydd o nos Lun 15 tan nos Sadwrn 20 Mai i gyflwyno THE VAGINA MONOLOGUES. Mae’r casgliad o fonologau doniol, ffraeth a dirdynnol hyn yn rhoi llwyfan i straeon am ferched dewr, doniol, dwys a nwydus. Bydd dilynwyr selog Sex and The City a Desperate Housewives wrth eu boddau gyda’r hanesion herfeiddiol a ffraeth hyn. Mae’r cwmni uchel ei barch, Northern Ballet Theatre yn dychwelyd i’r New Theatre gyda sioe afieithus I GOT RHYTHM o nos Fawrth 23 tan nos Sadwrn 27 May. Bydd yr hen ffefrynnau fel An American in Paris a Summertime yn siwr o godi’r galon mewn gwledd o ddawns a chân i gyfeiliant perfformiadau byw o ganeuon George and Ira Gershwin! Gwyliwch eich hun, Mam-gu! Bydd castiau GEORGE’S MARVELLOUS MEDICINE gan Roald Dahl yn sicr o blesio’r to ifanc dros hanner tymor y Sulgwyn, o ddydd Mawrth 30 Mai i ddydd Sadwrn 3 Mehefin. Dilynwn hynt a helynt George, sy’n paratoi moddion arbennig iawn gyda’r nod o wella tymer ei fam-gu gwynfanllyd. Ond mae pethau anhygoel yn digwydd ar ôl i’r hen wraig fach gymryd llwyaid ohono… The Birmingham Stage Company, hen lawiau ar berfformio campweithiau Dahl fel The Witches a James and the Giant Peach, sydd wedi addasu’r stori wych hon i blant. Cipolwg gwyllt a gwallgof ar fachu cariad yn y byd modern yw Personals, sioe gerdd gan awduron Friends, sy’n dod i’r New Theatre o nos Lun 5 tan nos Sadwrn 10 Mehefin. Dyma gomedi ffraeth a lliwgar sy’n dilyn ymgais 6 o bobl yn eu tridegau i fachu’r cymar delfrydol trwy gyfrwng gwib-ganlyn, gwefannau caru a cholofnau personol. Gyda pherfformwyr fel Gary Wilmot a cherddoriaeth gan gyfansoddwyr Little Shop of Horrors a Beauty and the Beast, dyma noson ddelfrydol am ddêt cyntaf! Dewch i fwynhau dawn dweud arbennig un o hoff ddramodwyr Cymru, wrth i ddrama ddiweddaraf Frank Vickery, A KISS ON THE BOTTOM ddod i’r New Theatre o nos Iau 13 tan nos Sadwrn 17 Mehefin. Mae Marlene, ceg fawr y cymoedd, yn yr ysbyty am brofion ond yn gobeithio cael mynd adre’n fuan erbyn priodas ei merch. Cyn hynny, fodd bynnag, mae ganddi waith busnesu ym mywydau preifat y cleifion eraill! Mae’r ddrama gomedi hon â chast o fenywod yn si_r o wneud i chi grïo chwerthin. I goroni’r cyfan, mae’n bleser gennym gyflwyno sioe gerdd hynod boblogaidd Andrew Lloyd Webber, CATS yn y New Theatre rhwng nos Fawrth 20 Mehefin a nos Sadwrn 15 Gorffennaf – am y tro cyntaf erioed yn y de. Gyda setiau anhygoel, gwisgoedd godidog, coreograffi campus a chaneuon bythgofiawy (fel Memory) bydd yr addasiad hynod lwyddiannus hwn o Old Possum’s Book of Practical Cats gan T. S. Eliot yn aros yn y cof am byth. Bydd perfformiadau gydag Iaith Arwyddion Prydain yn cynnwys KENSUKE’S KINGDOM (Sadwrn 4 Mawrth, 2.00pm), BLOOD BROTHERS (Sadwrn 1 Ebrill, 2.30pm), THE HOLLOW (Sadwrn 15 Ebrill, 2.30pm) a CATS (Sadwrn 8 Gorffennaf, 2.30pm). Mae perfformiadau wedi’u disgrifio’n glywedol yn cynnwys A CHORUS OF DISAPPROVAL (Sadwrn 11 Mawrth, 2.30pm), FESTEN (Sadwrn 18 Mawrth, 2.30pm), BLOOD BROTHERS (Sadwrn 8 Ebrill, 2.30pm) a CATS (Sadwrn 15 Gorffennaf, 2.30pm). Mae perfformiad â phenawdau A CHORUS OF DISAPPROVAL ddydd Sadwrn 11 Mawrth am 2.30pm. Gallwch brynu’ch tocynnau nawr o Swyddfa Docynnau’r New Theatre, naill ai drwy ffonio Caerdydd (029) 2087 8889 neu yn www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre Cardiff web site: |
| Chris Williams, Marketing Assistant e-mail: CHWilliams@cardiff.gov.uk |
| Monday, January 16, 2006 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
