|
Mae gwefan unigryw mewn llais a llun wedi’i sefydlu i hyrwyddo drama newydd sbon a blaengar gaiff ei pherfformio yn Aberystwyth yr wythnos nesaf. Cyd-ysgrifennwyd Dominos o’i chwr gan bedair dramodwraig ifanc gyda chefnogaeth y saith aelod o’r cast gan apelio’n bennaf tuag at pobl ifanc. “Roedd y broses fel hwrli bwrli o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Mared Swain, 24 mlwydd oed, o Llantrisant ger Caerdydd a gyd-ysgrifennodd Dominos gyda Manon Wyn o Landwrog ger Caernarfon, Branwen Davies o Landegfan, Ynys Môn, ac Angharad Llwyd o Brion ger Dinbych. “Fy ngobaith yw y bydd y ddrama’n denu cynulleidfaoedd o bob oed ond os y gallwn ddenu cenhedlaeth newydd i’r theatr byddaf wrth fy modd,” ychwanegodd. Perfformir Dominos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth am 7.30 o’r gloch, nos Fawrth, Ionawr 31, 2006, a, 7.30 o’r gloch nos Fercher, Chwefror 1, 2006, pryd y cynhelir sesiwn arbennig ar gyfer dysgwyr y Gymraeg cyn y prif berfformiad. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yw Dominos ac mae’r wefan sy’n hyrwyddo’r ddrama, sydd wedi’i ddylunio gan gwmni dylunwyr No.Break o Gaerdydd. “Mae Dominos yn torri’r mowld artistig yn ogystal ag o ran dulliau marchnata,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams. “Bydd y cynhyrchiad hwn heb os yn cynnig cyfleon newydd i Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn sail i drafodaeth ac yn ysbrydoliaeth i’r gynulleidfa,” ychwanegodd. Cymerwyd bron i flwyddyn i gwblhau’r prosiect. Pob dramodydd yn cyfrannu tuag ar gyfanwaith ac yn cydweithio gydag actorion roddodd gig a gwad am y cymeriadau a ddarparwyd ar eu cyfer. “Gyda’n gilydd datblygwyd drama, sydd wedi’i lleoli mewn dinas, gyda saith cymeriad o gefndiroedd a natur gwahanol i’w gilydd,” ychwanegodd Manon Wyn, fydd yn 24 mlwydd oed ar ddyddiad perfformiad cyntaf Dominos. “Mae’r adegau clasurol ddramatig ynghyd â cyfnodau o gomedi du’n cyfuno i greu profiad theatrig sy’n hwyl yn ogystal â bod yn ysgogiad,” meddai. Drama gyfoes yw Dominos yn dilyn diwrnod ym mywyd y saith cymeriad – bywydau sy’n cyd-daro yn dilyn un digwyddiad ar hap. “Mae’r cwbl yn digwydd megis cwymp rhes o ddominos a dyna sy’n rhoi’r teitl i’r ddrama,” meddai Branwen Davies, sy’n 25 mlwydd oed. “A dweud y gwir dyna fu hanes y broses ysgrifennu hefyd wrth i ni benderfynu ar y ddrama a’i chymeriadau wrth i syniadau ddeilio ar syniadau eraill,” ychwanegodd. Y saith aelod o gast Dominos yw Angharad Lee, Carys Eleri, Dave Taylor, Melisa Annis, Owen Arwyn, Rhian Blythe a Trystan Wyn a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Osian Gwynedd gynt o’r grŵp Big Leaves. Mae ei grŵp presennol, Sibrydion, yn amlwg yn y sîn roc Cymraeg. “Mae’r cynhyrchiad terfynol yn gyfuniad o dalent a ddeilliodd o broses gynhyrchu gynhyrfus, buddiol ac arbrofol,” ychwanegodd Angharad Llwyd, sy’n 26 mlwydd oed. “Mwynheais y profiad yn fawr ac rwy’n siŵr y bydd cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru’n rhannu’r boddhad hwnnw,” meddai. Yn dilyn y perfformiadau yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth bydd Dominos yn mynd yn ei flaen i Galeri Caernarfon (nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau, 7-9 Chwefror, 2006), Theatr Sherman Caerdydd (nos Fawrth, nos Fercher, nos Iau a nos Wener, 14-17 Chwefror, 2006), Theatr Brycheiniog, Aberhonddu (nos Lun a nos, 20-21 Chwefror, 2006), Theatr y Grand, Abertawe (nos Iau a nos Wener, 23-24 Chwefror, 2006), a Theatr y Gromlech, Crymych (nos Lun a nos Fawrth, 27–28 Chwefror, 2006). Ni ystyrir y ddrama’n addas ar gyfer y rhai o gan 16 mlwydd oed. Dylai’r rhai sydd â diddordeb yn y gweithgareddau ychwanegol hyn gysylltu â’u theatr leol neu ffonio Judith Roberts ar 01554 780650 (e-bost: judith@theatr.com). -diwedd- Am ragor o fanylion cysylltwch ag Elwyn Williams ar 01554 780650 neu UTGORN ar 01766 514505. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, January 23, 2006 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
