Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sgript Cymru yn dathlu ar ôl ennill dwy wobr     

Mae Sgript Cymru wedi derbyn gwobrau Cynhyrchiad Saesneg Gorau ac Actor Gorau am y cynhyrchiad hynod o lwyddiannus o Life of Ryan ...and Ronnie gan Meic Povey. Enillodd Aled Pugh y wobr am Actor Gorau am ei berfformiad hudol o Ryan.

Cyflwynir y gwobrwyon gan wefan Theatr yng Nghymru, sy’n gyrchfan a man trafod amhrisiadwy ar gyfer y Celfyddydau.

Gan ennyn cynulleidfaoedd mawr ac adolygiadau rhagorol, profodd Life of Ryan ...and Ronnie yn llwyddiant ysgubol i Sgript Cymru. Roedd y sioe yn berfformiad epig oedd yn cynnwys siwtiau o’r 70au, crysau â choleri fflêrs a theis bo melfed. Gydag anwyldeb, gonestrwydd a rhywfaint o gabaret, dilynodd drama Meic Povey uchafbwyntiau a dyfnderoedd y ddau ddiddanwr gan ddiweddu ar y noson y caeodd y llenni ar y ddau am y tro olaf.

Roedd Simon Harris, Cyfarwyddwr Artistig Sgript Cymru a Chyfarwyddwr Life of Ryan …and Ronnie wrth ei fodd gyda’r gwobrwyon.

“Dyma’r nawfed tro mewn pum mlynedd i Sgript Cymru ennill gwobr Theatr yng Nghymru, ond mae hon yn wobr arbennig. Mae’n bleser o’r mwyaf i dderbyn gwobr Cynhyrchiad Saesneg Gorau gan ei fod yn cydnabod pob elfen o Life of Ryan …and Ronnie - set, goleuo, cyfarwyddo, perfformio a sgript. Rhannir llwyddiant y cynhyrchiad gan bawb oedd yn ymwneud â hi - o’r gweinyddwyr a’r criw i’r tîm cynhyrchu - fe ysbrydolwyd pob un ohonyn nhw gan ddrama swynol Meic Povey.”
Ychwanegodd: “Dwi hefyd yn hynod o falch bod Aled Pugh wedi ennill y wobr Actor Gorau am ei berfformiad o Ryan, ond Aled fyddai’r cyntaf i gydnabod ei gyd-actor, Kai Owen. Gwnaeth y cyfuniad o’i talentau gynorthwyo iddyn nhw greu act dwbl rhagorol.”

Rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2005, teithiodd y cynhyrchiad unarddeg o Theatrau, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Cochrane yn Llundain. Cafwyd ymateb ffantastig ym mhob un o’r canolfannau a llawer yn teimlo y gwnaeth y ddau lwyddo i bortreadu'r ddau gomedïwr mor driw i'w cymeriadau.

Roedd Aled Pugh, a gafodd ei ganmol gan yr actor enwog Philip Madoc am ei bortread o Ryan, wrth ei fodd pan glywodd y newyddion:

“Roedd e’n grêt i ennill Actor Gorau ond rhan o’r rheswm y bu’r sioe mor llwyddiannus oedd y bartneriaeth rhyngof i a Kai. O’r dechrau roedd yna swyn, ac roedd yn ffantastig i rhannu llwyfan gyda ef ac roedd pob un perfformiad yn ffres a gwahanol”

Dywedodd Aled, a oedd yn ffan mawr o waith Ryan cyn y sioe, i'r cynhyrchiad wneud iddo deimlo’n agosach fyth at y seren. “Dwi’n fwy fyth o ffan o Ryan nawr. Fe wnaeth y cynhyrchiad alluogi fi i gael gwell dealltwriaeth o’r person yn hytrach na’r perfformiwr. Roedd e’n brofiad ffantastig.”

Mae Sgript Cymru yn hynod o falch o lwyddiant y sioe ac yn ddiolchgar bod cynulleidfaoedd wedi mynd i'r drafferth i ddangos eu gwerthfawrogiad drwy bleidlais yn ogystal â thrwy gymeradwyaeth.
Sgript Cymru  
web site
: www.sgriptcymru.com

e-mail:
Friday, February 10, 2006back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk