Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

RIA YN DYCHWELYD I GYMRU     

Mae Ria Jones, o Abertawe, yn dychwelyd i Gymru i chwarae rhan y sioeferch rywiol, Reno Sweeney, yn y sioe gerdd lwyddiannus, Anything Goes, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (y Ganolfan) o nos Lun 3 i 8 Ebrill.

Mae Ria, a ddechreuodd ei gyrfa fel Nancy yng nghynhyrchiad Ysgol Gyfun Pentrehafod, Abertawe o Oliver pan oedd yn ddisgybl yno, wedi cael gyrfa lwyddiannus yn chwarae’r prif rannau mewn sawl sioe gerdd yn y West End yn cynnwy Cats, Chess, Evita, Les Misérables a Jospeh and the Amazing Technicolor Dreamcoat.

Mae Michael Starke, seren Brookside (Sinbad), Angela Rippon ac arwr Hi-De-Hi!, Barry Howard yn ymuno â Ria ar y llwyfan. Yn llawn o glasuron diamser Cole Porter, mae Anything Goes yn cynnwys It’s De-lovely, I Get a Kick out of You ac wrth gwrs, Anything Goes.

Mae Richard Tynen, Cyfarwyddwr Datblygu Canolfan Mileniwm Cymru yn egluro, “Ria yw seren y sioe hon ac mae ganddi lais anhygoel a fydd yn llenwi pob twll a chornel o’r brif neuadd. Hwn fydd ail ymweliad Ria â’r Ganolfan. Daeth yma am y tro cyntaf cyn i’r adeilad gael ei orffen a chanodd ar y llwyfan gyda’i het galed!”

Mae’r sioe lwyddiannus, sy’n ymweld â’r Ganolfan ar ôl cyfnod yn Broadway, wedi derbyn adolygiadau brwd ac mae presenoldeb Ria ar y llwyfan wedi gwneud ei phortread hi o Reno yn un o uchafbwyntiau’r sioe. Agorodd y daith genedlaethol yn y Lowry ym Manceinion ddydd Gwener 27 Ionawr.

Mae’r sioe’n adrodd hanes llong deithio foethus - S.S American – sy’n hwylio i Loegr ac arni lwyth o gymeriadau lliwgar. Mae’r teithiwr cudd, Billy Crocker yn awyddus i ddenu’r ferch ddymunol, Hope Harcourt, tra’i fod ef yn destun edmygedd Reno Sweeney, cyn-efengylwraig sydd bellach yn westeiwraig mewn clwb nos. Ymhlith y rhamant, mae Moonface Martin ac asiantau FBI dwl yn ychwanegu ffars i’r sioe gomedi gerdd hon.

Mae tocynnau ar gyfer y sioe hon yn amrywio o £5 i £29 ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch â swyddfa tocynnau a gwybodaeth y Ganolfan ar 08700 40 2000 neu ewch i: www.wmc.org.uk
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Tuesday, March 7, 2006back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk