Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sioe newydd Bara Caws     

Yn ystod mis Ebrill bydd Bara Caws yn teithio cynhyrchiad newydd, sef drama gomedi newydd gan ein cydlynydd artistig, Tony Llewelyn.

Bydd ‘Camp a Rhemp’ yn cychwyn teithio Nos Fawrth, 4ydd o Ebrill yn Neuadd
Dwyfor, Pwllheli ac yn diweddu yn Neuadd Llanofer, Caerdydd ar Nos Sadwrn
29 o Ebrill.

Byddwn yn ymweld â chanolfannau perfformio megis, Llangefni, Amlwch, Dinbych,
Llansannan, Bangor, Y Bala, Penygroes, Rhuthun, Llanrwst, Llangadfan, Bethesda,
Blaenau Ffestiniog, Theatr Felinfach a Neuadd Llanofer, Caerdydd.

Ni ddaw ddoes i neb yn ol’ meddai’r hen air ond mae gan Gwyn gynllun.
Mae o’n mynd i achub ‘i briodas os ‘di Carol ei wraig yn licio neu
beidio. A lle’n well na mewn pabell fel bydda nhw ers talwm...dim
ond y ddau ohonyn nhw a Hiwi a Liz… a chriw o ffiriwrs gwragedd o
Redditch … o a be am y camddealltwriaeth bach ‘na hefo Keith sy’n
disgwyl ‘chydig mwy na’i siar o ramant dan y ser…?
Mae cynllun Gwyn yn rhemp ac os ddown nhw i gyd drwyddi mi fydd
yn gamp.....

Yr actorion yw Wyn Bowen Harries, Gwenno Elis Hodgkins, Maldwyn John,
Eilir Jones a Nia Williams. Y Cyfarwyddwr yw Tony Llewelyn.


 
web site
:

e-mail:
Thursday, March 16, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk