Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DWY THEATR, DAU GLASUR     

DWY THEATR, DAU GLASUR Daw Hud, Atgofion a Roc a Rôl i Gaerdydd wrth i Ganolfan Mileniwm Cymru a’r Theatr Newydd baratoi i godi’r llen ar ddwy o sioeau cerdd enwocaf Andrew Lloyd Webber, Starlight Express a CATS.

Bydd sioeau cerdd West End mwyaf poblogaidd Andrew Lloyd Webber yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghymru am y tro cyntaf gyda Starlight Express yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 11 a 29 Ebrill ac yna CATS yn y Theatr Newydd rhwng 20 Mehefin a 15 Gorffennaf.

Mae taith Starlight Express o amgylch y DU wedi bod yn rhyfeddu cynulleidfaoedd o bob oedran ers i’r sioe ddod â’i chyfnod o 18 mlynedd yn y West End i ben yn 2002 ac mae’n adrodd hanes cariad ifanc yn wyneb adfyd. Mae’r ail-lwyfaniad hwn yn cynnwys caneuon newydd gan David Yazbek, a fu hefyd yn gyfrifol am gyfansoddi’r sgôr cerddorol ar gyfer y Full Monty, ac mae’n cyfuno’r dechnoleg rhith 3-D diweddaraf, cerddoriaeth drydanol, ffilm ac wrth gwrs, rasio rholio cyflym.

CATS yw’r sioe gerdd sydd wedi’i pherfformio am y cyfnod hiraf ym Mhrydain a daeth ei chyfnod yn y West End i ben 21 mlynedd yn union ar ôl ei pherfformiad cyntaf yn y New London Theatre. Mae’r cynhyrchiad clasurol hwn wedi rhyfeddu dros 65 miliwn o bobl ledled y byd, wedi ei lwyfannu mewn mwy na 150 o ddinasoedd ac wedi ei gyfieithu i 14 o ieithoedd. O Old Deuteronomy i Magical Mr Mistoffeleese, mae rhyfeddod CATS yn werth ei weld a bydd y daith hon o amgylch y DU yn rhoi anadl einioes i hanes, cerddoriaeth a lliw hoff sioe gerdd y byd.

Mae Judith Isherwood, Prif Weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru yn egluro, “Starlight Express yw sioe gerdd gyntaf Andrew Lloyd Webber i gael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac rydym ni, a phobl Cymru, yn ymfalchïo yn hynny wrth i’r tocynnau brofi’n boblogaidd iawn. Bydd gwledd i’r cynulleidfaoedd eleni.”

Mae Susan Lewis, Rheolwr y Theatr Newydd yn ychwanegu “Rydym wedi cyflwyno sioeau cerdd Andrew Lloyd Webber yma yn y gorffennol yn cynnwys Evita, Tell Me On A Sunday a Jesus Christ Superstar, ond dyma’r tro cyntaf i ni gyflwyno CATS yn y Theatr Newydd. Rydym yn hapus iawn gyda’r diddordeb sydd wedi ei ddangos yn y cynhyrchiad hyd yn hyn ac yn cynghori pobl i archebu eu tocynnau’n gynnar.”

Yn dilyn y digwyddiadau gwych a gynhaliwyd i ddathlu pen-blwydd cyntaf Canolfan Mileniwm Cymru fis Tachwedd diwethaf, tro‘r Theatr Newydd yw hi bellach i ddathlu wrth i 2006 nodi ei chanmlwyddiant. Mae gan y ddau leoliad rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ac maent yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i gynulleidfaoedd yng Nghymru i fwynhau perfformiadau megis y ddwy sioe gerdd wych hyn.

Mae tocynnau ar gyfer Starlight Express yn amrywio o £10 i £35 ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000 neu ewch i’r wefan yn www.wmc.org.uk

Mae tocynnau ar gyfer CATS yn amrywio o £8.50 i £34 ac i archebu tocynnau, cysylltwch â Swyddfa Docynnau’r Theatr Newydd ar 029 2087 8889 neu ewch i’r wefan yn www.newtheatrecardiff.co.uk
Canolfan y Mileniwm, Caerdydd  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Friday, March 17, 2006back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk