Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro     

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro Fyddai wastad yn meddwl bod dramâu fel bysus – ‘run cynhyrchiad yn teithio am wythnosa’, ac yna’r cwbl efo’i gilydd! Bu’r wythnosa’ diwethaf yn brysur rhwng ein Theatr Cenedlaethol a Llwyfan Gogledd Cymru, a da yw deall for y ddau gwmni yma eto’n brysur yn paratoi cynhyrchiada newydd. Daniel Evans yn cyfarwyddo ‘Esther’ gan Saunders Lewis i’r Theatr Genedlaethol, fydd yn agor yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug ar Nos Iau, 20fed o Ebrill, ac Owen Arwyn yn gorffen ei daith fer gyda drama Aled Jones Williams – ‘Sundance’ heno – Nos Wener – yn Theatr Fach, Llangefni am 7.30yh. Wedi gweld y cynhyrchiad yma yn Steddfod Y Faenol y llynedd, gallaf ddweud mai dyma, i mi, yw un o uchafbwyntiau yn hanes y cwmni.

Llwyfan Gogledd Cymru wedyn yn ymarfer eu drama gerdd ‘Theatr Freuddwydion’ gan Dewi Rhys a Dyfrig Evans fydd yn agor yn y Galeri yng Nghaernarfon Nos Wener nesaf, Ebrill 7fed, a Theatr Bara Caws yn ymarfer ‘Camp a Rhemp’ gan Tony Llewelyn fydd yn agor yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli nos Fawrth a Mercher nesaf, Ebrill 4ydd a’r 5ed, cyn mynd draw am Langefni, Amlwch a Dinbych ddiwedd yr wythnos.

Ond dawns sy’n cael fy sylw cyntaf yr wythnos hon gyda chynhyrchiad cwmni Earthfall o Gaerdydd, ‘At Swim Two Boys’ yn y Galeri yng Nghaernarfon. Ysbrydolwyd y gwaith gan nofel Jamie O’Neill o’r un enw, gyda Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916 yn gefndir iddi. Heb fod yn gyfarwydd â’r nofel, na’r stori tu cefn iddi, teimlais fy hun ar goll braidd, ynghanol y d_r! Gallwn werthfawrogi mai drama am ddau fachgen ifanc yn creu perthynas â’i gilydd oedd y nod, ond yn bersonol, collwyd cyfle i greu mwy o densiwn rhwng y ddau o’r cychwyn. Ar adegau, roedd yma adlais o stori’r ddau gowboi yn y ffilm ‘Brokeback Mountain’ – y cynefino, y caru sydyn, yna’r gwahanu a’r difaru efallai, cyn ail-gyfarfod â’u gilydd eto, hyd angau. Un o’r pethau sydd wastad yn fy swyno gyda dawns yw symudiadau ystwyth, di-ffwdan y dawnswyr. Symudiadau sy’n fy nghyfareddu cymaint, nes imi anghofio mai ‘gwylio dawns’ ydwi, gan ymgolli yn y ‘ddrama’. Er cystal perfformiad Terry Michael a Stuart Bowden, doedd y ddau ‘gorff’ ddim yn asio’n dda, yn enwedig wrth efelychu symudiada’r naill a’r llall, a dyna brif wendid y cynhyrchiad i mi. Wedi’r perfformiadau yng Nghaerdydd yr wythnos yma, bydd y cwmni yn mynd ar daith i Stuttgart, Den Haag, Zagreb a Llundain, cyn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe ar y 12fed o Fai.

I Harlech wedyn i ddal diwedd taith Sgript Cymru o ‘Cymru Fach’ gan Wiliam Owen Roberts. Ymateb cymysg fu i’r cynhyrchiad yma gyda’r mwyafrif unâi yn ei charu neu ei chasau. Ddaru’r cynhyrchiad ddim taro deuddeg i mi, a theimlais fod y sgript yn drwm-lwythog o sweips at sefydliadau a ‘gwerthoedd’ Cymreig, nes peri i rai golygfeydd swnio fel talpiau o nofel yn cael eu dyfynnu. Oherwydd y gormodedd o ‘eiriau, roedd y cast yn ei chael hi’n anodd i gynnal y ddrama, a brwydrais innau yn fy nghredinedd o’r cymeriadau â’u sefyllfa.

Siom ddwbl felly. Yr wythnos nesaf, ymweliad â’r ‘Castell Coll’ yn nrama gerdd SBARC! a Cwmni Cofis Bach yn y Galeri, Caernarfon a chael ‘Digon o’r Sioe’ drwy ail fyw rhai o uchafbwyntiau’r blynyddoedd a fu gydag Ysgol Glanaethwy, yn Theatr Gwynedd, Bangor, Nos Sadwrn a Sul, Ebrill 1af a’r 2il am 7.30yh.
 
web site
:
Paul Griffiths
e-mail:
Friday, March 31, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk