Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Pwy sy'n cofio 'Rentaghost' tybed?     

Pwy sy'n cofio 'Rentaghost' tybed?
Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio’r cymeriadau Timothy Claypole, Hazel McWitch neu hyd yn oed Nadia Popov? Os da chi’r o’r un genhedlaeth â mi, ac wedi’ich sodro o flaen y teledu ar gychwyn yr 80au, yna bydd cymeriadau’r rhaglen i blant ‘Rentaghost’ yn siwr o ddod ag atgofion melys i’r cof am amser tê! Pan glywais i ar ddechrau’r flwyddyn bod drama gerdd ar y gweill, mi archebais fy nhocyn yn syth, gan ddychymygu y byddai’r sioe yn ‘sell-out’! Wrth ddewis fy sedd yn theatr yr Empire yn Lerpwl, wyddwn i ddim bod y sioe yn ymweld â Chaerdydd a Llandudno! Ta waeth, penwythnos yn Lerpwl – rhywbeth i edrych ymlaen ato! Yr unig beth wyddwn i am y sioe oedd mai’r digrifwr Joe Pasquale oedd yn gyfrifol am y sgript, yn ogystal â bod yn ‘llais yr ysbryd’. Cyfuniad diddorol, meddyliais, gan ddychymygu digonedd o hwyl os nad dim arall! Wel y fath siom! Pantomeim o sioe shabi, goleuo giami, setiau rhad, sgript oedd yn gweddu’n well i ddigrifwr ‘stand-up’ a dim golwg o Miss Popov!

Mae’r stori wedi’i osod yn Swyddfa ‘Rentaghost’ – swyddfa sy’n cynnig – fel mae’r enw yn awgrymu, gwasanaeth i ddychryn pobol. Yn yr ail-olygfa, cawn ein cyflwyno i’r gwamalwr Timothy Claypole (Joseph Wicks) - sy’n ymddangos allan o gwpwrdd ffeilio gyda llaw! – a Hazel McWitch (Laurie Sydonie). Daw hi’n amlwg bod rheolwr y cwmni Fred Mumford (Chris Cambridge) wedi derbyn eu swydd gyntaf sef mynd i ddychryn ymwelwyr Maudlin Manor, ond mae gan y golygydd papur newydd Randolph Upchurch (Richard Alan) gynllun i ddifa’r cwmni a dwyn cyfoeth y Plas.

Ynghanol miri’r pantomeim, mae yna ambell i linell doniol yn ogystal ag ambell i dric clyfar, ond fawr ddim fel arall. Wedi gweld y sioe ‘Acorn Antiques’ y llynnedd, roeddwn i wedi dychymygu llawer mwy. Collwyd y cyfle i greu sioe gofiadwy fyddai’n deilwng i goffau’r gyfres a welodd 58 pennod, dros 9 cyfres ar y BBC rhwng 1976 a 1984. Bob Block oedd awdur y gyfres aeth yn ei flaen wedi hynny i greu cyfresi poblogaidd eraill i blant sef ‘Grandad’ gyda Clive Dunn a ‘Galloping Galaxies’.

Er mwyn symud fy meddwl wrth wylio’r sioe, meddyliais am gyfresi tebyg yn y Gymraeg – cyfresi fyddai’n gweddu i’r math yma o driniaeth. Beth am sioe lwyfan o’r gyfres gomedi ‘Naw Tan Naw’ gan Eilir Jones, neu ‘Siop Siafins’ gyda Bfeian Lloyd Jôs?; ‘Hafod Henri’, ‘Glas y Dorlan’ neu ‘Bob a’i Fam’? Beth am gymeriadau cofiadwy Caryl, Siw Huws ac Emyr Wyn yn ‘Ibiza, Ibiza’ a ‘Steddfod, Steddfod’?! Dyna chi sioe – a sialens nesa i Caryl ella - y dalent ‘gosa sganddo ni at Victoria Wood!

Yn 2001, daeth ‘Rentaghost’ yn rif 12 mewn pleidlais gan Sianel Pedwar o’r ‘can sioe blant mwyaf cofiadwy’ – yn anffodus, mi fydda i’n cofio’r sioe lwyfan am y rhesymau anghywir…

Mae’r sioe eisioes wedi ymweld â Chaerdydd ond i’r rhai dewr sydd am fentro, cewch y cyfle i’w gweld hi yn Theatr Gogledd Cymru Llandudno ar Fehefin y 3ydd.
 
web site
:
Paul Williams
e-mail:
Friday, May 19, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk