|
‘Haws oedi gyhyd ar lwybrau hud ein bro.’ Annodd credu fod blwyddyn gron wedi mynd heibio ers i Llwyfan Gogledd Cymru adeiladu a llwyfannu Caerdroia, y Labrinth yng nghoedwig Gwydyr ger Llanrwst. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y prosiect hwnnw, mae Llwyfan Gogledd Cymru wedi sicrhau nawdd i gynnal dau brosiect yno eleni. Y diwrnod hiraf a’r diwrnod byrraf sy’n fframio’r ddau gynhyrchiad, ‘HEULDRO HAF a HEULDRO GAEAF’. Bydd y gynulleidfa yn troedio’r Labrinth awyr agored fesul un ac yn dod ar draws cymeriadau a digwyddiadau sy’n procio a diddanu y galon a’r ysbryd; i flasu fel plentyn oll, bywyd a natur yn ei ogoniant llachar. Am un funud fach cyn elo'r haul o'r wybren, dewch acw am ychydig o ‘therapi i’r enaid’. Perfformiadau ‘Heuldro Haf’ - 20fed - 30fed Fehefin. Perfformiadau ‘Heuldro Gaeaf’ – 11fed – 24ain Rhagfyr. Bydd bws yn gadael i’r ffair am 6.00yh, 7.00yh neu 8.00yh beth bynnag y tywydd (heblaw am fellt a tharanau). Rhaid archebu tocynnau blaenllaw. £10 (£7 gostyngiad) o Fenter Iaith Conwy, Sgwar Ancaster, Llanrwst - 01492 642357. Mae’n bosib trefnu perfformiadau yn y dydd i grwpiau dros 15. |
| Llwyfan Gogledd Cymru web site: |
| Llio Prydderch Huws e-mail: lliohuws@btconnect.com |
| Wednesday, June 21, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
