|
BARA CAWS YN YMWELD Â’R EISTEDDFOD YN ABERTAWE GYDA’I SIOE GLYBIAU – JAC YN Y BOCS
|
Bydd Bara Caws yn perfformio ei gynhyrchiad diweddaraf, sef y sioe glybiau ‘JAC YN Y BOCS’ gan Bryn Fôn, Tony Llewelyn a Dyfan Roberts yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch.
Bu’r daith yn llwyddiannus dros ben yng ngogledd Cymru, ac mae’r cwmni yn falch iawn o gael y cyfle i berfformio (wythnos olaf y daith) yn Neuadd Bentref Pontlliw o Nos Fawrth Awst 8fed hyd at Nos Wener Awst ll am 8.00 bob nos.
Y diwydiant teledu yng Nghymru sydd o dan y chwyddwydr gwallgo’ wrth i ni ddilyn hynt a helynt Jac Jones o’i ddiwrnod cyntaf fel ‘runner’ mewn stiwdio yn syth oddiar y dôl, hyd nes iddo gael ei wneud yn Brif Weithredwr y Sianel Genedlaethol.
Drwy fiwsig a chwerthin a lwmp mawr o ddychan, wedi ei gyflwyno yn eu ffordd ddihafal eu hunain, fe fydd criw Bara Caws yn troi’r bocs ben ycha’n isa’ i weld beth ddisgynnith allan.
Ceir cyfle i weld wynebau cyfarwydd iawn (llwyfan a theledu)
sef Lisa J_n Brown, Llyr Evans, Maldwyn John, Eilir Jones a Catrin Mara.
Tony Llewelyn yw’r cyfarwyddwr.
Mae’r cwmni yn gobeithio’n fawr y bydd trigolion Abertawe a’r cylch a chefnogwyr y ‘Steddfod yn cael cyfle i ymuno â hwy ym Mhontlliw mewn noson o ddychan a hwyl. Bydd bar ar gael yn y neuadd!
Nid yw’r cynhyrchiad yn addas i rai o dan l8 oed!!
I archebu tocynnau gellir ffonio Linda ar ei ffôn symudol : 07748595791neu 07740637648. Yn ogystal bydd y tocynnau ar werth yn ddyddiol yn y Theatr ar
faes yr Eisteddfod.
|
Bara Caws
web site: |
e-mail: |
Wednesday, August 2, 2006 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999