Dros yr wythnosa nesa, dwi am fwrw golwg ar rai o’r dramâu a’r dramâu cerdd newydd sy’n dod i Lundain. Ond cyn cychwyn ar fy nhaith, beth sydd ar y gweull yma’n Nghymru…?Braf clywed bod Meic Povey yn gweithio ar ddrama newydd o’r enw ‘Hen Bobl Mewn Ceir’ fydd yn agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd ym mis Tachwedd 2006 ac yn teithio Cymru o’r 8fed o Dachwedd tan yr 2il o Ragfyr. Cynhyrchiad i Sgript Cymru fydd y ddrama, a dyma flâs o’r cynnwys : ‘Mae Roy yn nyrs 59 mlwydd oed sy’n gweithio mewn hosbis. Mae’n byw gyda mam fusgrell sy’n alcoholig. Mae hefyd yn gwadu ei rywioldeb. Mae Ceri, nyrs gynorthwyol 39 mlwydd oed wedi ei chaethiwo mewn priodas ddi-ryw. Pan maent yn cyfarfod mae fflam perthynas bosibl yn cael ei chynnau, ond a yw’n bosib ei gynnal , neu a yw’r ddau wedi eu niweidio’n ormodol yn emosiynol i wneud iddo weithio? Gyda phathos a hiwmor tywyll, ‘rydym yn dilyn ymdrech deg Roy a Ceri i droi’r cloc yn ôl, ac i ail-afael yn swyn eu hieuenctid coll. Ac wedi’r cyfan, onid yw llaw gysurlon cyfeillgarwch fil gwaith gwell na rhyw fodio trwsgl yn y tywyllwch?’ Bydd Sgript Cymru hefyd yn brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cyflwyno dwy ddrama (mewn cydweithrediad â ‘Living Pictures’) - ‘Mae Sera’n Wag’ gan Manon Steffan Ross (y buddugol yng nghystadleuaeth y ddrama fer a’r Fedal Ddrama y llynedd) a drama fer gan Mari Siôn o’r enw ‘Car Dy Gymydog’. Bydd y dramâu’n cael eu cyflwyno fel rhan o raglen Dwy Yn Un yn Theatr y Maes, ddydd Iau, 10fed o Awst a dydd Sadwrn, 12fed o Awst. Bydd y cwmni hefyd yn cynnal gweithdy ar ysgrifennu ar gyfer y llwyfan yn Theatr y Maes ddydd Mawrth, 8fed o Awst. Ac mae Sioe Glybiau Theatr Bara caws hefyd yn ymweld â’r Eisteddfod yn Abertawe efo’i sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ gan Dyfan Roberts, Tony Llewelyn a Bryn Fôn. Y diwydiant teledu sydd o dan y chwyddwydr tro ma, a chawn hanes Jac Jones o’i ddiwrnod cyntaf fel rhedwr mewn stiwdio nes iddo gael ei wneud yn Brif Weithredwr y Sianel. Lisa Jên, Llyr Evans, Maldwyn John, Eilir Jones a Catrin Mara fydd yn adrodd yr hanes o dan gyfarwyddyd Tony Llewelyn ac i gerddoriaeth Emyr Rhys. Os da chi methu disgwyl tan mis Awst, bydd y cwmni yn cychwyn ar eu taith ar y 5ed o ‘Orffennaf yng Ngwesty’r Marine, Cricieth, cyn ymweld â Chemaes, Llangefni, Bethesda, Bala, Caernarfon, Abergele, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Llanberis cyn cyrraedd Abertawe ym mis Awst. Yn y Steddfod hefyd bydd Cwmni Rhosys Cochion yn cyflwyno eu sioe ‘Holl Liwie`r Enfys’ gan Catrin Edwards a Sharon Morgan. Mae`r sioe un fenyw yma`n archwilio byd hudolus merch ifanc sy`n tyfu`n fenyw yn Ne Orllewin Cymru yn ystod newidiadau pell-gyrrhaeddol 50au a 60au`r ganrif ddiwethaf, wrth iddi ddyheu am drawsnewdidiad a chwilio am lwybrau i ryddid. Wedi’r _yl, bydd y cwmni ar daith yn yr Hydref Ac wedi llwyddiant y ddrama ‘Frongoch’, da clywed fod Ifor ap Glyn eto’n brysur yn cyfansoddi drama newydd i Llwyfan Gogledd Cymru yn seiliedig ar hanes Branwen. Bydd y ddrama yn agor yn Nulyn ym mis Hydref, cyn teithio Cymru. Digon i edrych ymlaen ato felly… |
| Y Cymro web site: |
| Paul Griffiths e-mail: |
| Friday, June 16, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Dros yr wythnosa nesa, dwi am fwrw golwg ar rai o’r dramâu a’r dramâu cerdd newydd sy’n dod i Lundain. Ond cyn cychwyn ar fy nhaith, beth sydd ar y gweull yma’n Nghymru…?