Dwi newydd ddychwelyd o Lundain ac wedi ceisio gweld cyn gymaint o sioeau â phosib mewn amser byr! Mi gewch chi wybod mwy am rhain dros yr wythnosa nesa. Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o Gymry yn hawlio’i lle ar lwyfannau’r West End. Wyddoch chi fod na o leia deunaw drama gerdd newydd ar fin ymddangos yn Llundain rhwng rwan a diwedd y flwyddyn, a damwain a hap llwyr oedd imi ymweld â’r ddinas ynghanol bwrlwm West End Live. Dyma benwythnos blynyddol lle mae’r sioeau cerdd yn rhoi blas am ddim i’r cyhoedd o gynnwys y sioe, ynghanol Leicester Square. O sioeau sydd eisioes wedi hen gartrefu yno fel ‘The Producers’, ‘Lion King’ a ‘Mamma Mia’ i’r sioeau newydd sydd ar fin agor fel ‘Wicked’ (hanes y ‘wicked witch of the West’) a ‘Spamalot’ (sioe yn seiliedig ar ffilmiau Monty Python).Ond ‘Sunday in the Park with George’ aeth a’m sylw cyntaf, a chael fy nghyfareddu gan berfformiad graenus Daniel Evans fel yr arlunydd Georges Seurat. Bu farw Seurat yn 31oed, ac mae’i yrfa byr yn cael ei gynrychioli gan dri prif ddarlun. Cefndir creu dau o’r tri darlun yma yw’r ddrama gerdd hon o waith Stephen Sondheim. Mae ‘Ymdrochwyr yn Asnières’ a ‘Prynhawn Sul ar Ynys La Grande Jatte’ yn wrthgyferbyniol – un yn dangos criw o fechgyn dosbarth gweithiol yn ymlacio ger yr afon Seine ym Mharis, tra bod y llall yn darlunio’r crach yn gwylio’r bechgyn yn ddirmygus ar ochor arall yr afon. Mae’r gwrthgyferbynu yma i’w weld hefyd yn nwy Act y ddrama - y gyntaf yn ein tywys i 1886, a’n cyflwyno i’r ‘cymeriadau’ sydd yn y darluniau, tra bod yr ail yn bwrw golwg gyfoes ar waith ac arddull yr artist drwy lygaid ei ddisgynyddion. Yr hyn sy’n plethu’r cyfan yw’r berthynas rhwng y ddau brif gymeriad sef Daniel ac eilun addoliad yr artist sef ‘Dot’ – Jenna Russell. O’r eiliadau cyntaf, mae’r ddau yn hoelio sylw’r gynulleidfa, a’u tynged sy’n bwrw’r stori ymlaen tuag at y diweddglo emosiynnol ar sawl lefel. Mae’r ffaith bod y ddau hefyd yn canu cerddoriaeth cymhleth ond cyfoethog Sondheim yn dipyn o her, yn enwedig wrth i’r cyfansoddwr efelychu arddull peintio’r artist trwy ei gerddoriaeth. Mae’r set a’r modd mae’r lluniau yn cael eu taflunuio arno yn wefreiddiol, ac yn werth pris y tocyn ynddo’i hun. Dyma wledd i’r llygad a’r glust, a diwedd yr act gyntaf a diwedd y sioe yn funudau bythgofiadwy. Tydi’r sioe ddim wedi plesio pawb – yn wir, roedd y ddwy Americanes o bobtu mi yn y theatr heb fwynhau, tra bod rhai tu cefn imi ar eu pumed ymweliad! Os di’n well gennych gerddoriaeth caniadwy Lloyd Webber, yna falle fydd arddull Sondheim ddim yn eich dennu; ond os oes diddordeb gennych mewn celf a cherddoriaeth, ac am wledd gofiadwy ynghanol Llundain gan Gymro Cymraeg, yna mynnwch eich tocyn heddiw! Mae’r sioe i’w gweld yn Theatr Wyndham ynghanol y West End tan ddechrau mis Medi. Yr wythnos nesa, gewch chi flas o sioe arall sy’n agor yn swyddogol dros y dyddia nesa – y dadleuol a’r doniol ‘Avenue Q’… |
| Y Cymro web site: |
| Paul Griffiths e-mail: |
| Friday, June 23, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Dwi newydd ddychwelyd o Lundain ac wedi ceisio gweld cyn gymaint o sioeau â phosib mewn amser byr! Mi gewch chi wybod mwy am rhain dros yr wythnosa nesa. Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o Gymry yn hawlio’i lle ar lwyfannau’r West End. Wyddoch chi fod na o leia deunaw drama gerdd newydd ar fin ymddangos yn Llundain rhwng rwan a diwedd y flwyddyn, a damwain a hap llwyr oedd imi ymweld â’r ddinas ynghanol bwrlwm West End Live. Dyma benwythnos blynyddol lle mae’r sioeau cerdd yn rhoi blas am ddim i’r cyhoedd o gynnwys y sioe, ynghanol Leicester Square. O sioeau sydd eisioes wedi hen gartrefu yno fel ‘The Producers’, ‘Lion King’ a ‘Mamma Mia’ i’r sioeau newydd sydd ar fin agor fel ‘Wicked’ (hanes y ‘wicked witch of the West’) a ‘Spamalot’ (sioe yn seiliedig ar ffilmiau Monty Python).