Dwi am gychwyn y golofn yr wythnos hon drwy fynd â chi nôl i 1999, a rhannu atgofion am un penwythnos hir delfrydol a dreuliais yn Llundain! Pedair noson a pum sioe lwyfan! Nefoedd i mi, uffern i eraill! ‘Beauty and the Beast’ oedd y sioe gyntaf ar y rhestr, a chael fy nghyfareddu gan ddewiniaeth Disney; ymlaen at ‘Spend, Spend, Spend’ a hanes Viv Nicholson yn gwario ei henillion i gyd, a’r Gymraes Barbara Dickson yn y brif ran; cael fy syrffedu wedyn gan ‘The Phantom of the Opera’, a hynny’n bennaf oherwydd blinder yr actorion wedi dwy sioe ar y dydd Sadwrn, a dim sbarc na sglein ar y cynhyrchiad. Gorffwys tros y Sul, yna rhyfeddu at bresenoldeb llwyfan Maggie Smith yn nrama Alan Bennett – ‘The Lady in the Van’. A gorffen fy nghyfnod efo matinee yn Theatr yr Aldwych – yng nghornel mwya’ gorllewinnol y West End, a chynhyrchiad y gwyddwn i ddim amdano – ‘Whistle Down the Wind’ o waith Jim Steinman a’r meistr ei hun, Andrew Lloyd Webber. Wyddwn i ddim chwaith, wrth gamu mewn i’r theatr, mai’r cynhyrchiad yma fyddai’n aros yn y cof fwya. Mae’n stori syml ond hynod o drawiadol, ac wedi’i gosod yn nhref Louisiana ychydig wythnosau cyn Nadolig 1959. Hanes criw o blant sy’n dod ar draws diethryn yn cuddio yn y llofft gwair. Mae’r diethryn yn cael ei ddeffro’n ddamweiniol, a thrwy’i ddychryn yn ebychu’r enw ‘Iesu Grist’. A nhwtha wedi’u trwytho gan grefydd, a’r neges wythnosol bod y Meseia am ddychwelyd rhyw ddydd, mae’r plant yn cymryd yn ganiataol bod yr Iesu wedi’i dod i lochesu ar y ffarm. Ond yn fuan iawn, daw hi’n amlwg mai carcharor sydd wedi ffoi o’r carchar lleol yw’r dieithryn, a bod y plant mewn perygl. Mawredd y stori yw’r cyfeillgarwch sy’n datblygu rhwng y plant a’r dieithryn, a’r modd mae’r carcharor yn dysgu llawer am fywyd o ddiniweidrwydd y plant. Falle bod y stori a’r teitl yn gyfarwydd i lawer oherwydd y ffilm a wnaethpwyd ym 1961 gyda Hayley Mills ac Alan Bates yn y prif rannau. Mae’n stori sy’n apelio at bob cenhedlaeth, a pha ryfedd felly bod y cyfarwyddwr Bill Kenwright yn awyddus i lwyfannu fersiwn newydd o stori afaelgar Mary Hayley Bell, (mam Hayley Mills gyda llaw) ddeng mlynedd ers y fersiwn welis i. Mae’r sioe hefyd yn deyrnged iddi, yn dilyn ei marwolaeth yn 91oed ym mis Rhagfyr 2005, gwta wyth mis ar ôl colli’i g_r Syr John Mills yn 97 oed. Er cystal ydi’r cynhyrchiad cynnil yma yn Theatr y Palace, roedd yn well gen i fawredd a chynnwrf y cynhyrchiad gwreiddiol. Yr hyn sy’n gwneud cynhyrchiad Kenwright yn wahanol ydi’r ffaith ei fod o wedi canolbwyntio llawer mwy ar y ddrama, a’r angerdd rhwng y ferch fach ‘Swallow’ (Claire Marlowe) a’r dieithryn (Chris Holland yn y perfformiad welis i gan fod y seren Tim Rogers yn absennol). Roedd y golygfeydd tua diwedd y sioe, ble mae’r ddau yn ffarwelio â’i gilydd i gyfeiliant cerddoriaeth hudolus Lloyd Webber yn drawiadol iawn. Mae’r ffaith bod sawl cân wedi dod â llwyddiant i grwpiau fel Westlife a chantorion fel Michael Ball yn y siartiau prydeinig, hefyd yn cadarnhau apêl eang y sioe. Yr wythnos nesa, yn ôl at lwyfannau Cymru yn ‘obeithiol iawn am haf o gynhyrchiadau cyffrous… |
| Y Cymro web site: |
| Paul Griffiths e-mail: |
| Friday, July 7, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Dwi am gychwyn y golofn yr wythnos hon drwy fynd â chi nôl i 1999, a rhannu atgofion am un penwythnos hir delfrydol a dreuliais yn Llundain! Pedair noson a pum sioe lwyfan! Nefoedd i mi, uffern i eraill!