Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro     

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro A ninnau ar drothwy gwyliau’r Haf, braf gweld bod digon o gynhyrchiadau i’w gweld ar lwyfannau Cymru. Theatr Bara Caws wedi cychwyn ar eu taith efo’r sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ fydd yn ymweld â Bethesda, Y Bala a Chaernarfon yr wythnos hon. Ar y gorwel hefyd mae’r Eisteddfod Genedlaethol, a chyfle i fwynhau cyflwyniadau gan ein Theatr Genedlaethol o waith Samuel Beckett, i ddathlu canmlwyddiant ei eni eleni. Bydd pob sesiwn yn cynnwys perfformiadau o'r dramâu byrion iawn 'Dod a Mynd' a 'S_n Traed', wedi eu cyfieithu'n arbennig gan yr Athro Gwyn Thomas, a’r cast fydd Carwyn Jones, Valmai Jones, Lisabeth Miles, Jonathan Nefydd a Christine Pritchard dan gyfarwyddyd Cefin Roberts a Judith Roberts. Cofiwch hefyd am Sgript Cymru yn cyflwyno dwy ddrama ‘Mae Sera’n Wag’ gan Manon Steffan Ross a drama fer gan Mari Siôn o’r enw ‘Car Dy Gymydog’ a Chwmni Rhosys Cochion yn cyflwyno ‘Holl Liwie`r Enfys’ gan Catrin Edwards a Sharon Morgan.

Ond dwi am fynd â chi i Borthmadog ac i Sir Benfro yr wythnos hon, gyda dau gwmni a dwy ddrama tra gwahanol! Cwmni Theatr y Torch o Sir Benfro yn ymweld â Bangor efo’u cynhyrchiad diweddara – ‘Dead Funny’ o waith Terry Johnson. Roedd yna ddipyn o heip wedi bod yn y wasg lleol am y cynhyrchiad yma, gyda sawl rhybudd am ‘iaith gref’ a ‘noethni’. Mentro â meddwl agored felly, i weld pam y fath stwr! Fe gychwynodd y cyfan yn eitha fflat, wrth inni gael ein cyflwyno i Eleanor (Rebecca Wingate) a Richard (Richard Nichols) – g_r a gwraig oedd yn amlwg â phroblemau mawr yn eu priodas. Er bod yma rai llinellau doniol yma ac acw, digon di-gyffro a llonnydd oedd eu cyflwyniad. Yn fuan ynghanol yr Act gynta, dyma ddod i ddallt am y rhybudd, wrth i’r g_r orfod diosg ei ddillad yn gyfangwbl a’r wraig i geisio ‘ail-ddeffro’ eu bywyd rhywiol! Gydag ymddangosiad y cwpl arall sef Nick (Liam Tobin) a Lisa (Lynn Seymour) a’u cymydog hoyw Brian (Ken Oxtoby), yn ogystal â’r newyddion trist am farwolaeth sydyn y diddanwr Benny Hill, daw hi’n amlwg bod y cymeriadau i gyd (heblaw’r wraig) yn ffans mawr o fyd comedi. Wrth alaru a hel atgofion am Benny Hill, daw hi’n amlwg hefyd pam nad oes gan y g_r ddiddordeb yn ei wraig! Er cystal oedd set chwaethus Sean Crowley, a pherfformiadau Richard Nichols a Ken Oxtoby, digon siomedig a llonnydd oedd y ffars. Os am fynd i weld y sioe (am resymau celfyddydol wrth gwrs!) mae’r cwmni yn ymweld ag Aberhonddu, Caerdydd ac Aberdaugleddau tan Gorffennaf 29ain.

Ymlaen wedyn i Borthmadog i ddal y sioe gymunedol Pasiant Port gyda dros 170 o blant ac oedolion yn mynd â ni nôl i gyfnod yr Ail-Ryfel Byd i gyflwyno ‘Lle Bu’r Blacowt’. Fel un sydd wedi cyfarwyddo sawl drama gerdd tebyg yn ardal Pwllheli, mi wn yn iawn am y gwaith caled o gael pawb ynghyd, a llwyfanu cynhyrchiad o’r maint yma. Er cystal oedd cyflwyniadau Ysgolion Eifionydd, Eifion Wyn, Y Gorlan a Borth y Gest, ro’n i yn teimlo fod yna sawl cyfle wedi’i golli i greu mwy o ddrama a chomedi efo’r cast, yn enwedig gyda chriw’r ‘Hôm-Gârd’ a’r gwragedd efo’u llyfrau Rasions. Serch hynny, cafwyd noson gofiadwy o ganu ac roedd mwynhâd y cast yn cynnal y sioe. Trist iawn oedd clywed am farwolaeth sydyn yr organyddes Mair Jones Robinson, oriau yn unig wedi’r perfformiad. Cydymdeimlaf yn llwyr â chwi oll.

Y Cymro  
web site
:
Paul Griffiths
e-mail:
Friday, July 14, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk