Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro     

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro Dau wahoddiad wythnos yma i weld dwy sioe wahanol iawn. Gr_p Ieuenctid Theatr Fach Llangefni yn cyflwyno addasiad o’r ddrama gerdd ‘Ail Liwio’r Byd’ a Theatr Bara Caws yn perfformio’r sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ yng Nghlwb Rygbi Bethesda.

Roedd teithio draw i Theatr Fach Llangefni yn brofiad ddigon nerfus i mi ar sawl lefel, oherwydd dyma ddrama gerdd y cyd-sgwennais i gyda Gareth Glyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bro Conwy yn 2000. Bryd hynny, Theatr Gogledd Cymru Llandudno oedd y lleoliad a chast o 400 o blant! A rwan, dyma gast o 40 yn mynd ati i’w llwyfannu yn un o theatrau lleia Cymru! Catrin Jones (Pennaeth Drama Ysgol y Creuddyn) oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r ddwy fersiwn, a hi hefyd oedd wedi addasu’r sioe ar gyfer y criw ifanc yma, gyda chymorth Annest Rowlands yn cyfarwyddo. Cefais fy swyno efo pob un wan jac o’r cast – pawb yn rhoi ei orau, ac yn amlwg yn mwynhau bob eiliad o’r profiad. Dyma lle mae cychwyn diddordeb ein hieuenctid yn y theatr, gan roi cyfleon fel yma iddynt i fwynhau a diddanu cynulleidfa leol. Gobeithio fydd yn profiad o lwyfannu sioeau tebyg yn hwb iddynt i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau. Rhaid enwi Iestyn Lewis a roddodd berl o berfformiad fel ‘Sydna’ – y seren siwpyr yn yr olygfa o Awstralia! Arbennig iawn. Clod hefyd i’r Theatr Fach sy’n amlwg yn bwerdy drama pwysig iawn yn Sir Fôn, a hir y pery hynny.

I Glwb Rygbi Bethesda wedyn ar nos Sadwrn chwilboeth! Mynd yno’n amheus iawn, heb wybod yn iawn os oeddwn am fwynhau’r profiad o weld sioe glybiau arall, gan Theatr Bara Caws. Dyfan Roberts, Tony Llewelyn a Bryn Fôn sy’n gyfrifol am y sgript, a’r diwydiant teledu sy’n ei chael hi tro ma! Dyma dri sy’n hen gyfarwydd a’r testun, a stor o sweips yn barod i’w tanio!

Cyfres o olygfeydd ydi’r sioe, yn efelychu sawl math gwahanol o raglenni ar S4C – o’r Newyddion a’r tywydd i Blaned Plant; o raglenni garddio i Bandit, a’r dileit prin hwnnw dyddiau yma – cyfres ddrama a ffilm gyfnod uchelgeisiol!

Maldwyn John ydi’r Rheolwr Llawr hoyw sy’n llywio’r cyfan, a fo sydd efo’r dasg anodd o gadw’r cyfan i fynd drwy bontio’r golygfeydd a chodi ysbryd y gynulleidfa. Llyr Ifans wedyn fel ‘Jac Jones’ – bachgen sy’n cychwyn ei yrfa yn y diwydiant ar gynllun tebyg i CYFLE, ac yna’n cael ei ddyrchafu yn brif weithredwr y sianel. Eilir Jones a’i ystod o gymeriadau gwahanol – o Ffarmwr Ffowc i’r garddwr noeth! a Lisa Jên Brown a Catrin Mara yn rhoi testun i’r innuendo rhywiol! Mae yna lu o gymeriadau eraill hefyd, chlod mawr i’r pump ohonynt am fedru llithro o un cymeriad i’r llall mor rwydd a di-ffwdan.

A’r cwestiwn mawr – be o’n i’n feddwl?! Wel, mae’r ffin rhwng ‘smyt’ a dychan yn un dennau iawn. Mae ambell sioe debyg yn y gorffennol wedi methu am bod y deunydd mor wan. Ond tro ma, mae na ddigon o ddychan (ac ambell i wirionedd!) sy’n codi’r cyfan uwchlaw’r jocs budur a’r innuendo’s. Mi nesh i chwerthin, ac ynghanol y gwres, roedd hynny’n dipyn o gamp! Bydd y cwmni yn ymweld â Chaernarfon, Abergele a Phorthmadog wythnos yma, ac yna Blaenau Ffestiniog, Llanberis ac Eisteddfod Abertawe wedi hynny.

Y Cymro  
web site
:
Paul Griffiths
e-mail:
Friday, July 21, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk