Dyma gychwyn trydydd flwyddyn ein Theatr Genedlaethol, a chyfle i mi fwrw golwg yn ôl dros y ddwy flynedd gyntaf. Dwy flynedd anodd iawn ble y gwelwyd sawl ‘clasur’ yn cael ei ail-lwyfanu a dim ond dwy ddrama wreiddiol; ble y cawsom ein cyflwyno i bedwar ‘actor craidd’ ifanc a chroesawu Cefin Roberts yn ‘gyfarwyddwr artistig’ cynta’r cwmni.Roeddwn i’n croesawu hefyd gweld sefydlu ein Theatr Cenedlaethol, gan fod mawr angen sefydliad o’r math yma i roi hyder a gobaith i barhad y Ddrama Gymraeg. Er bod yna sawl cwmni yn ceisio cadw’r fflam ynghyn, roedd dirfawr angen pwerdy fyddai’n tanio ein dychymyg eto fyth. Wedi fy magu yn Nolwyddelan yn Nyffryn Conwy, roeddwn i’n ymwelydd cyson â Theatr Gwynedd ym Mangor ble y cefais fy nhrwytho o oedran cynnar iawn mewn dramâu theatrig a chofiadwy; cof plentyn am bantomeimiau fel ‘Rasus Cymylau’ a ‘Guto Nyth Cacwn’, ac yna cynhyrchiadau’r unigryw a’r diweddar annwyl Graham Laker, a chael fy swyno gan y Clasuron fel ‘ Y Gelli Geirios’, ‘Y Werin Wydr’, ‘Y Cylch Sialc’ ac ‘Y T_r’. Wedi ymadawiad Graham â Chwmni Theatr Gwynedd – un o gamgymeriadau mwya’r cwmni yn fy nhyb i, cefais y fraint o fod yn aelod o’u Pwyllgor Ymghynghorol Artistig. Er penodi Arweinydd Artistig newydd, doeddwn i ddim yn cytuno â’r weledigaeth honno, gan bwysleisio bryd hynny y dylid cychwyn drwy ‘lynu at y Clasuron Cymraeg, a rhoi gwedd newydd ar waith Gwenlyn a Saunders. Drwy ddangos pwer a chryfder ‘drama dda’, ac o ddenu cynulleidfa gadarn yn eu hôl, byddai digon o gyfle wedyn i arbrofi gydag addasiadau o ddramâu Saesneg neu ddramâu newydd yn y Gymraeg. Mae gennai barch o’r mwyaf i Cefin fel cyfarwyddwr cerddorol a theatrig, ond dwi’n dal i gredu fod ei benodi fel cyfarwyddwr artistig cynta’r Theatr Genedlaethol wedi bod yn gamgymeriad mawr. Fyddai ddim yn deg honni bod yna sawl ‘cyfarwyddwr’ arall yng Nghymru efo mwy o brofiad na Cefin, a gall neb wadu ei gyfraniad sylweddol yn meithrin talent ifanc drwy ei waith gydag Ysgol Glanaethwy. Mae angen gweledigaeth a phrofiad mwy eang; rhywun fyddai’n barod i herio ein disgwyliadau a rhoi gwedd newydd ffres ar y canfas wag. Yn ôl y gyfres ddiweddar ar S4C, yn olrhain cefndir dwy flynedd cynta’r cwmni, uchafbwyntiau’r cyfnod yma oedd ‘T_ ar y Tywod’ gan Gwenlyn Parry ac ‘Esther’ gan Saunders Lewis. Y cynhyrchiad cyntaf wedi’i chyfarwyddo gan Judith Roberts sylwer a’r ail gan Daniel Evans. Dwy ddrama glasurol, a dau gyfarwyddwr sydd wedi treulio cynfod maith yn Llundain yn cyd-weithio â phobol blaenllaw ym Myd y Theatr. Yr ail-gamgymeriad oedd dewis pedwar actor mor ifanc a di-brofiad i fod yn actorion craidd i’r cwmni. Oni fyddai wedi bod yn llawer mwy defnyddiol i benodi pedwar actor h_n a phrofiadol, er mwyn rhoi sgôp llawer ehangach i’r dewis o ddramâu? O wneud hyn, byddai gwahodd actorion ifanc i gyd-actio efo nhw, ac i ddysgu o fod yn eu cwmni, wedi gwneud llawer mwy o synnwyr. A wedyn y dewis o ddramâu; chwarae’n saff a ‘chawl eil-dwym’ efo ‘Yn Debyg Iawn i Ti a Fi’ a ‘Sundance’ – dwy ddrama ddaeth a llwyddiant ysgubol i Theatr Bara Caws rai blynyddoedd ynghynt; diffyg gweledigaeth a strwythr yn y dramâu newydd ‘Plas Drycin’ a ‘Dominos’; diffyg cynnildeb wedyn efo chast enfawr yn ‘Romeo a Juliet’ a ‘Hen Rebel’. Diolch byth am Gwenlyn a Saunders, ac yn fwy fyth am Judith a Daniel! Glynu at y Clasuron wnawn ni eto ar gychwyn y drydedd flwyddyn efo dathliad o waith Beckett ac addasiad Sion Eirian o ‘Cysgod y Cryman’. Ond eto eleni, dim ond tri ymweliad gan y cwmni â’r Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn y babell erchyll a elwir Theatr y Maes. Dwi’n gofyn eto eleni, pam, pam, pam, nad oes cynhyrchiad uchelgeisiol gan ein Theatr Cenedlaethol mewn theatr safonnol yn ystod ein Prifwyl? Siawns ar ôl dwy flynedd, nad oes gwersi wedi’u dysgu? Mae’r canfas yn wag eto, ond pwy sydd â’r ddawn i greu y campwaith nesaf…? |
| Y Cymro web site: |
| Paul Griffiths e-mail: |
| Friday, July 28, 2006 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Dyma gychwyn trydydd flwyddyn ein Theatr Genedlaethol, a chyfle i mi fwrw golwg yn ôl dros y ddwy flynedd gyntaf. Dwy flynedd anodd iawn ble y gwelwyd sawl ‘clasur’ yn cael ei ail-lwyfanu a dim ond dwy ddrama wreiddiol; ble y cawsom ein cyflwyno i bedwar ‘actor craidd’ ifanc a chroesawu Cefin Roberts yn ‘gyfarwyddwr artistig’ cynta’r cwmni.