Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Diolch yn fawr iawn oddi wrth Theatr na n'Óg     

Diolch yn fawr iawn oddi wrth Theatr na n'Óg Wel, lledwyd yr hwyliau, codwyd yr angor a golchwyd y deciau ym Mhasiant y Plant gyda Theatr na n'Óg, yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, 2006.
 
’Roedd cyngerdd nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod am 8 yr hwyr ar Awst 5ed yn llwyddiant mawr gyda Halen yn y Gwaed gydag ail-berfformiad oedd yr un mor drawiadol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nos Fercher diwethaf.
 
Hoffai Theatr na n'Óg estyn diolch mawr iawn i’r holl blant fu’n perfformio ynghyd â’u teuluoedd cefnogol.  Dangosodd y plant ymrwymiad a brwdfrydedd pendant i’r cynhyrchiad hwn.  Wrth i ymarferion Halen yn y Gwaed  gael eu cynnal bob Sadwrn ers mis Mai gyda sesiynau ychwanegol dros wyliau’r haf, mae dros 100 o blant lleol, o 8 – 11 oed wedi bod yn canu, dawnsio, actio a dysgu llinellau am fisoedd.  ’Roedd y diweddglo yn un ysblennydd a pherfformiadau’r plant o’r safon uchaf!
 
“Am griw talentog; dangosodd y bobl ifanc yma broffesiynoldeb amlwg!” dywedodd un o’r gynulleidfa wrth ymadael dan ganu caneuon o’r sioe.
 
Mae Pasiant y Plant yn brofiad unigryw, sydd wedi galluogi plant lleol i gymryd rhan mewn a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol o fewn un o lwyfannau mwyaf Ewrop o flaen cynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol.
 
Comisiynwyd Theatr na n’Óg, un o gwmnïau blaenllaw Theatr-mewn-Addysg, i gyfarwyddo a chynhyrchu Pasiant y Plant eleni.  Mae Theatr na n'Óg, fydd yn dathlu ei phenblwydd yn 25 oed blwyddyn nesaf, wedi bod yn darparu gwasanaeth dwyieithog o safon uchel i ysgolion yn Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont, yn ogystal â theithio gyda sioeau teulu a phlant dros y Prydain.
 
Gyda chymaint o blant a phobl ifanc talentog, bydd Theatr na n'Óg yn ymestyn ei gwaith tu hwnt i brosiectau ysgolion i’r gymuned leol, gan weithio ar y cyd gyda’r Urdd yng Ngorllewin Morgannwg.  Ariennir y prosiect hwn gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo.  Bydd y gwaith yn cychwyn ym mis Medi gyda lansiad Clybiau Drama a Theatr Ieuenctid ar lleolir yn Theatr na n'Óg yng Nghastell Nedd, a gweithdai Cymraeg yng Nghastell Nedd ac Abertawe mewn partneriaeth gyda’r Urdd.
 
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Victoria Goddard yn Theatr na n'Óg ar 01639 641771
 
 
web site
:

e-mail:
Friday, August 11, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk