|
BITSH! – Addasiad John Ogwen o’r nofel gan Eirug Wyn
|
Dros flwyddyn yn ôl rhoddodd Cwmni’r Frân Wen gynnig ar gyflwyno cais i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd i’r theatr Gymraeg a mentro unwaith yn rhagor i fyd y ddrama prif lwyfan. Bu’r cais hwnnw’n llwyddiannus, ac o ganlyniad bydd y cwmni yn teithio ‘Bitsh!’ sef addasiad John Ogwen o nofel heriol Eirug Wyn, mewn taith genedlaethol o amgylch theatrau Cymru rhwng y 10fed a’r 27ain o Hydref 2006.
Fel y crybwyllwyd nid dyma’r tro cyntaf i’r cwmni gamu i fyd dramâu prif lwyfan. Nôl yn 2004 llwyfanwyd ‘Stags a Hens’, sef cyfieithiad Bethan Gwanas o ddrama boblogaidd Willy Russell o amgylch theatrau’r Gogledd. Bu’r daith yn llwyddiant ysgubol gan ein sbarduno i fynd ati i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda’r cynhyrchiad yma. Mae ‘Bitsh!’ yn dynodi carreg filltir arbennig yn hanes y cwmni wrth i ni dorri cwys newydd a mentro i deithio’n genedlaethol am y tro cyntaf.
Ein nod wrth deithio ‘Bitsh!’ yw ymateb yn uniongyrchol i anghenion sefyllfa bresennol y theatr Gymraeg, sef yr angen dybryd i ddenu cynulleidfa newydd. Credwn yn gryf fod ‘Bitsh!’ yn gyfle gwych i agor cil y drws ar fyd y theatr brif ffrwd Gymraeg i gynulleidfa eang ei thrawsdoriad - yn fynychwyr hen a newydd fel eu gilydd.
Mae ‘Bitsh!’ yn cynnig cyfle unigryw i lwyfannu addasiad meistrolgar o ddarn llenyddol o safon a hynny gan gast amryddawn ac adnabyddus. Yn fwy na hynny dyma’r addasiad cyntaf o un o weithiau llenyddol Eirug - sy’n ddigwyddiad cyffrous ynddo’i hun. Dyma ddrama ddwys a phwerus ei chynnwys ond ar yr un pryd sy’n frith o’r hiwmor ffraeth hwnnw yr oedd Eirug Wyn y llenor yn wybyddus amdano.Yn sicr mae ei theitl crafog yn hoelio’r sylw yn syth ac yn bendant yn ennyn chwilfrydedd!
Trwy atgofion Abi cawn ein tywys trwy’r ddegawd gythryblus hon, a phrofi rhwng y chwerthin a’r dagrau, ryddid arloesol y cyfnod ar y naill law a chulni disgwyliadau cymdeithas chwarelyddol, fyglyd Gymreig ar y llall. Wedi eu plethu rhwng melodïau adnabyddus y Stones, y Beatles a Bob Dylan cyffyrddir â themâu oesol dynolryw: Bywyd a marwolaeth. Cenedl ac unigolyn. Rhyddid a chaethiwed. Cariad a chasineb. Wrth i Abi dwrio trwy ei atgofion, daw’r caneuon yma â chysur pendant wrth iddo geisio canfod yr atebion hynny sy’n angenrheidiol i ddeall ei orffennol.
Llenor a wyddai sut i drin ei ddeunydd crai ydoedd Eirug Wyn a bu ei gyfraniad toreithiog i lenyddiaeth Cymru yn hynod nodedig dros y blynyddoedd. Cyhoeddoedd 15 o gyfrolau ers 1992 gan gynnwys: Y Dyn yn y Cefn Heb Fwstash (2004), Powdwr Rhech (2001) a Tri Mochyn Bach (2000) Mae ei ddawn dweud, ei hiwmor a’i allu i dreiddio i’w gymeriadau yn rhoi stamp unigryw ar ei waith. Yn sicr, bu ei farwolaeth drist yn Ebrill 2004 yn golled enfawr i’r genedl gyfan.
Yn yr un modd, mae John Ogwen yntau yn enw a wyneb hynod gyfarwydd ar deledu, llwyfan a radio. Mae ei ymdriniaeth gelfydd yn ei addasiad o’r nofel ‘Bitsh!’, yn brawf o’i ddealltwriaeth o hanfodion gwirioneddol y llwyfan ac yn gydnabyddiaeth deilwng o gyfoeth y nofel hithau fel sail i gynhyrchiad penigamp.
Gadewch i Gwmni’r Frân Wen eich tywys ar daith nostalgaidd yn ôl i Gymru’r 1960’au. Dewch i flasu bwrlwm unigryw y ddegawd arbennig honno. Oes rhyddid, roc a rôl a’r brwsh a phot paent…..
Noder: mae’r cynhyrchiad yn anaddas ar gyfer pobol ifanc o dan 14 oed.
Cast: Catrin Fychan
Rhian Blythe
Maldwyn John
Eilir Jones
Jonathan Nefydd
Carwyn Jones
Mari Wyn
|
Cwmni'r Fran Wen
web site: |
e-mail: |
Friday, September 29, 2006 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999