Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

TAIR IAITH, DWY WLAD, UN STORI – LLWYFAN GOGLEDD CYMRU’N ARLOESI UNWAITH ETO     

TAIR IAITH, DWY WLAD, UN STORI – 
LLWYFAN GOGLEDD CYMRU’N ARLOESI UNWAITH ETO Unwaith eto mae cwmni theatrig Llwyfan Gogledd Cymru yn gwthio ffiniau’r theatr Gymreig gyda’u cynhyrchiad diweddaraf, Branwen. Bydd y cynhyrchiad aml-gyfryngol a thairieithog (Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg) yn mynd ar daith yng Nghymru ac Iwerddon yn ystod Hydref a Thachwedd 2006.

Datblygwyd y ddrama yn gyfochrog gan bartneriaid o Gymru ac Iwerddon. Caiff ei chyfarwyddo gan ffigurau amlwg o fyd y theatr yn y ddwy wlad (Ian Rowlands a Darach Mac Con Iomaire) a’i hysgrifennu gan Darach Ó Scolaí o Iwerddon ac Ifor ap Glyn, un o awduron cynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru yn 2005, Fron Goch, a dderbyniodd glod uchel iawn gan gynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd.

Mae Branwen yn adrodd stori dau ysgrifennwr – Gwyddel (Stephen D’Arcy) a Chymraes (Ffion Dafis) – a daflwyd at ei gilydd i lunio sgript ar gyfer fersiwn animeiddiedig o stori Branwen o’r Mabinogion. Yn ystod y gwaith daw’r ddau’n gariadon Celtaidd a datgelir sawl cyfrinach am berthynas y ddau ac am berthynas y ddwy wlad.

Fel Fron Goch, mae Branwen yn defnyddio technegau llwyfannu aml-gyfryngol er mwyn cyfoethogi profiad y gynulleidfa. Defnyddir y technegau hynny i ddarparu isdeitlau lle bo angen, ac i ddod â dimensiwn amgen i rai elfennau o’r plot. Mae’r dechnoleg, felly, yn rhan greiddiol o’r cynhyrchiad.

Dywed Ian Rowlands, Cyfarwyddwr Artistig Llwyfan Gogledd Cymru: “Fel cwmni rydym yn anelu at ddarparu adloniant yn ogystal â phrofiad theatrig llawn i’n cynulleidfaoedd. Rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd o gydweithio ar gynyrchiadau a defnyddio technegau newydd er mwyn dod â dimensiwn newydd i fyd y theatr yng Nghymru.

“Mae yna baralel amlwg rhwng y stori yn y ddrama ei hun a’r broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r cynhyrchiad, sef uno profiadau ac agweddau o Gymru ac Iwerddon. Rydym yn hyderus bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith terfynol a’i fod yn gynhyrchiad real a diffuant.”

Bu’r ddrama ar daith yn Iwerddon yn ystod mis Hydref 2006 a bydd y daith yng Nghymru yn cychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor ar 8 Tachwedd cyn symud ymlaen i Gaerdydd, Llanelli, Pwllheli a Harlech.



Dyddiadau’r daith:

8-9 Tachwedd 2006 Theatr Gwynedd, Bangor
14--15 Tachwedd 2006 Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
18 Tachwedd 2006 Theatr Elli, Llanelli
22 Tachwedd 2006 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
24 Tachwedd 2006 Theatr Ardudwy, Harlech


Actorion:

Dafydd Dafis
Ffion Dafis
Stephen D’Arcy
Bridin Nic Dhonncha


Sgript:

Ifor ap Glyn
Darach Ó Scolaí


Cyfarwyddwyr:

Ian Rowlands
Darach Mac Con Iomaire
llwyfan gogledd cymru  
web site
:

e-mail:
Thursday, November 2, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk