Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro     

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro Dros y bythefnos nesaf, mi fyddai’n edrych yn ôl dros y flwyddyn a fu ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd i’w weld ar ein llwyfannau yn y flwyddyn sydd i ddod. Bu hi’n flwyddyn hynod o weithgar o ran y cynnyrch theatrig a minnau wedi bod yn cadw llygad ar 27 o gynhyrchiadau drama a 26 cynhyrchiad o ddramâu cerdd!

O ran y cyhyrchiadau a fu, un o sêr y flwyddyn i mi fu Daniel Evans a roddodd inni’r cynhyrchiad gwych o ‘Esther’ nôl ym mis Ebrill. Yn union wedi gorffen cyfarwyddo, rhaid oedd i Daniel fynd yn ôl i Lundain er mwyn ail-lwyfannu’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’. Cefais fy nghyfareddu gan ei berfformiad graenus fel yr arlunydd Georges Seurat yn y ddrama gerdd hon o waith Stephen Sondheim. Cafodd y sioe ei selio ar ddau ddarlun enwocaf a gwrthgyferbynniol Seurat sef ‘Ymdrochwyr yn Asnières’ a ‘Prynhawn Sul ar Ynys La Grande Jatte’; – un yn dangos criw o fechgyn dosbarth gweithiol yn ymlacio ger yr afon Seine ym Mharis, tra bod y llall yn darlunio’r crach yn gwylio’r bechgyn yn ddirmygus ar ochor arall yr afon. Gwelsom y gwrthgyferbynu yma hefyd yn nwy Act y ddrama - y gyntaf yn ein tywys i 1886, a’n cyflwyno i’r ‘cymeriadau’ sydd yn y darluniau, tra bod yr ail yn bwrw golwg gyfoes ar waith ac arddull yr artist drwy lygaid ei ddisgynyddion. Yr hyn sy’n plethu’r cyfan yw’r berthynas rhwng y ddau brif gymeriad sef Daniel ac eilun addoliad yr artist sef ‘Dot’ – Jenna Russell. O’r eiliadau cyntaf, hoeliodd y ddau sylw’r gynulleidfa, a’u tynged sy’n bwrw’r stori ymlaen tuag at y diweddglo emosiynnol ar sawl lefel.

Roeddwn i’n falch iawn o weld bod Daniel yn ogystal â Jenna Russell wedi’u henwebu ar gyfer y ‘Theatregoers' Choice Awards’ fel yr actorion gorau mewn drama gerdd yn ystod y flwyddyn. Pob lwc iddyn nhw, a phob lwc hefyd i’r Gymraes Connie Fisher sydd hefyd wedi’i henwebu yn yr un categori am ei rhan fel Maria yn y sioe ‘The Sound of Music’. Y Cymry yn hawlio’u lle heb os ar lwyfannau Llundain! Actores arall sydd ar yr un rhestr yw Idina Menzel fydd yn gorffen ei chyfnod fel y wrach ddrwg yn y sioe ‘Wicked’ ddiwedd y flwyddyn. Os na gawsoch y cyfle i weld y sioe hon hyd yma, mynnwch eich tocynnau rwan – a cheisiwch ei weld tra bod Idina yn y brif ran. Dyma lais unigryw a lenwodd y theatr nes gyrru iâs oer i lawr fy nghefn. Mae’r sioe i’w gweld yn theatr yr Apollo Victoria, a hawdd iawn credu bod y sioe wedi costio saith miliwn o bunna i’w llwyfannu! Bu’n llwyddiant ysgubol ar Broadway ers agor yn 2003, gan ennill sawl Gwobr theatr nodedig fel y ‘Tony’ a’r ‘Grammy’ a hynny am bob agwedd o’r cynhyrchiad. Mae’r ddrama gerdd yn seiliedig ar nofel Gregory Maguire sy’n adrodd hanes y wrach ddrwg o’r Gorllewin, yn ngwlad hudolus Oz. Dyma stori sy’n rhagymadrodd i’r ffilm enwog Y Dewin Oz, sydd mor gyfarwydd i bob aelod o’r teulu.

Ym mis Awst, mi dreuliais i wythnos yng Ng_yl Ryngwladol ac Ymylol Caeredin, gan brofi sawl gwefr o’r môr o gynnyrch sydd i’w weld yno. Un cynhyrchiad a barodd imi chwerthin fwya yn ystod fy ymweliad â’r Alban oedd ‘Floating’ – cyd-gynhyrchiad rhwng cwmni Hoipolloi a chynhyrchiadau Hugh Hughes. Cyflwynwyd y sioe gan Hugh Hughes (Shôn Dale-Jones) a’i gydymaith Sioned Rowlands (Jill Norman) sy’n ein tywys yn ôl i’r 1af o Ebrill 1982, pan gafodd Sir Fôn ei hysgwyd gan ddaergryn enfawr, nes peri i’r bontydd ddymchwel a’r fam-ynys yn cael ei ddatgysylltu oddi wrth y tir mawr. Wrth iddi ddechrau arnofio draw am y moroedd mawr, mae’r trigolion sy’n dal arni yn ceisio gwneud popeth i achub y sefyllfa. Cawn hanes eu hymdrech i gasglu holl gynfasau gwely ar draws yr ynys, gan ddod â’r cwbl ynghyd i stad ddiwydiannol yn Llangefni er mwyn eu gwnio at ei gilydd, gyda’r bwriad o greu hwyl enfawr i’w gosod ar ben T_r Marcwis! A sôn am hwyl, roedd perfformiadau egniol y ddau actor yn werth eu gweld wrth gyflwyno hanes a chefndir Sir Fôn i’r gynulleidfa Ryngwladol yn yr Alban. Braf yw cael cyhoeddi bod y cwmni am ail-deithio’r cynhyrchiad yn y flwyddyn newydd, ond yn anffodus does dim ymweliadau â Chymru ar y daith hyd yma. Bydd y cwmni yn ymweld â Plymouth ym mis Ionawr, Eastleigh ac Ipswich ac Efrog Newydd ym mis Chwefror a Lerpwl a Llundain ym mis Mehefin.
Nadolig Llawen ichi gyd.
Y Cymro  
web site
:
Paul Griffiths
e-mail:
Friday, December 22, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk