Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro     

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro Parhau i edrych yn ôl dros y flwyddyn sy’n prysur ddirwyn i ben fyddai yr wythnos hon, yn ogystal â rhoi blas o’r hyn sydd i ddod.

Y cwmni mhlesiodd i fwya cyson yn ystod y flwyddyn oedd Clwyd Theatr Cymru. Roedd safon eu cynhyrchiadau yn arbennig o dda, a bron i bob cynhyrchiad yn taro deuddeg mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Llyfnder a chast cry drama Harold Pinter ‘The Birthday Party’ gyda pherfformiadau cofiadwy gan Trystan Gravelle a Steffan Rhodri; Ehangder ac angerdd yr ensemble o actorion yn ‘The Grapes of Wrath’ gyda Lynn Hunter yn gry’ fel mam y teulu ac yna awyrgylch emosiynnol a dirdynnol Berlin a Bethlehem yn ‘Memory’ gyda phortread sensitif Vivien Parry o’r nain yn cael ei gorfodi i ail-fyw ei hatgofion am yr Ail Ryfel Byd.

Mi gesh i’m mhlesio ar lefel amatur hefyd drwy fwynhau cynhyrchiad Theatr Fach Llangefni o ‘Golff’ a chynhyrchiad myfyrwyr Cwrs Celfyddyd Perfformio Coleg Menai o ‘Little Children’ – chwa o awyr iach, gan obeithio bydd yr actorion yn cael y cyfle i droedio llwyfannau pellach yn y dyfodol.

Siom arall oedd trydedd flwyddyn ein Theatr Genedlaethol sydd wirfawr angen newid cwys rhag diflasu a chynddiriogi ei chynulleidfa. Di-ddychymyg a di-liw oedd ‘Wrth Aros Beckett’ a ‘Diweddgan’ a fedrai mond diolch am gynhyrchiad Daniel Evans o ‘Esther’ roddodd rhyw lygedyn o obaith yn y duwch cyson. Wrth edrych ymlaen am y flwyddyn newydd, rhaid cyfaddef bod dau ddewis nesaf y cwmni eto’n saff a syrffedus. Parhau efo’u tymor o glasuron wnawn nhw gan droi at y Gymraeg yn gyntaf gyda addasiad llwyfan Sion Eirian o nofel y diweddar Islwyn Ffowc Elis ‘Cysgod y Cryman’. Bydd y cynhyrchiad yn teithio drwy Gymry yn ystod mis Chwefror a Mawrth gan orffen eu taith yn Theatr Bloomsbury, Llundain ar Ebrill 5ed. ‘Dyma chwip o stori dda, ar gynfas mawr a chydag oriel o gymeriadau lliwgar, i ddod ag afiaith rhyfeddol y cyfnod yn fyw i lwyfannau Cymru’ yn ôl adran farchnata’r cwmni. Mae’r cast yn cynnwys Lisa Jen Brown, Owen Garmon, Bethan Wyn Hughes, Iola Hughes, Carwyn Jones, Betsan Llwyd, Fflur Wyn Owen, Christine Prichard, Iwan Tudor, Dyfan Roberts, Simon Watts, Llion Williams ac eto fyth, Owen Arwyn. Tybed fedar ein Theatr Genedlaethol gynhyrchu drama heb Owen Arwyn?! Cefin Roberts fydd yn cyfarwyddo, gan ddefnyddio set Martin Morley, goleuo Tony Bailey Hughes a cherddoriaeth Gareth Glyn. Wedi troedio Dyffryn Aerwen yn y 1950au, bydd y Theatr Genedlaethol wedyn yn mynd â ni i Ffrainc yn yr ail-ganrif ar bymtheg ar gyfer eu hail-Glasur sef ‘Cariad Mr Bustl’ cyfiethiad newydd Gareth Miles o ddrama Moliere 'Le Misanthrope'. Bydd y cynhyrchiad yma yn teithio ym mis Mai a Mehefin, heb Owen Arwyn gobeithio!!

Doedd cynhyrchiad cynta’r flwyddyn Llwyfan Gogledd Cymru sef y ddrama gerdd heb ganeuon ‘Theatr Freuddwydion’ ddim yn plesio chwaith, ond diolch byth am eu cynhyrchiad olaf sef ‘Branwen’ gododd fy ngobaith, ac sy’n haeddu’r canmoliaeth ucha’. Eto, perfformiadau cry’ gan Ffion Dafis a Dafydd Dafis, a bydd cyfle arall i weld y cynhyrchiad tua mis Mai yn y flwyddyn newydd. Edrych ymlaen hefyd at gynhyrchiad y cwmni o ddrama newydd Iwan Llwyd ‘Nid oes gennym hawl ar y sêr’ sy’n ymdrin â dyddiau olaf bywyd y bardd enwog Hedd Wyn.

Bu hi’n flwyddyn brysur arall i Theatr Bara Caws efo sawl cynhyrchiad yn teithio ac ar y cyfan yn plesio. O’r sioe glybiau arferol i’r comediau gwreiddiol sy’n ffres ac yn dennu cynulleidfa. Yn y flwyddyn newydd, bydd na dinc deheuol iawn i’w cynhyrchiad nesaf sef ‘Gwaun Cwm Garw’ addasiad Sharon Morgan o ddrama Mosies Kaufman ‘The Laramie Project’. Bydd y cynhyrchiad ar daith ym mis Mawrth. ‘Yn dilyn llofruddiaeth erchyll mewn tref wledig rhoddwyd cymuned gyfan ar brawf. Dilyna’r ddrama ymdrech criw o actorion i wneud synnwyr o lofruddiaeth gwr ifanc hoyw gan gyflwyno tystiolaeth tros 60 o gymeriadau yn eu geiriau eu hunain.’ Mae’r cast yn cynnwys Geraint Pickards, Maria Pride a Delyth Wyn gyda Catrin Edwards yn cyfarwyddo.

Digon i godi blas felly gan obeithio y bydd hi’n Flwyddyn Newydd Dda ar lwyfannau Cymru!
Y Cymro  
web site
:
Paul Griffiths
e-mail:
Friday, December 29, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk