Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro     

Colofn Paul Griffiths yn Y Cymro Mae ‘na ambell i sioe y cofiwch chi amdani am byth. Y syndod o weld llond llwyfan o gast neu set chwaethus; yr anesmwythyd o gael eich dychryn neu wylltio; y wefr o glywed llai unigryw yn llenwi’r theatr nes gyrru iâs oer i lawr y cefn…

Heb os nag onibai – llais Idina Menzel fydd yn aros yn y cof ar ôl gweld y sioe ddiweddara i agor yn y West End yr wythnos hon… yr unigryw ‘Wicked’.

Wrth gamu i mewn i theatr yr Apollo Victoria, hawdd iawn yw credu bod y sioe hon wedi costio saith miliwn o bunna i’w llwyfannu! Bu’r sioe eisioes yn lwyddiant ysgubol ar Broadway ers agor yn 2003, gan ennill sawl Gwobr theatr nodedig fel y ‘Tony’ a’r ‘Grammy’ a hynny am bob agwedd o’r cynhyrchiad.

Mae’r sioe yn seiliedig ar nofel Gregory Maguire sy’n adrodd hanes y wrach ddrwg o’r Gorllewin, yn ngwlad hudolus Oz. Dyma stori sy’n rhagymadrodd i’r ffilm enwog Y Dewin Oz, sydd mor gyfarwydd i bob aelod o’r teulu. Er bod sawl haen wleidyddol tu cefn i’r stori, mae ‘na ddyfnder hyfryd yma sy’n profi mai gwrach dda oedd y wrach ‘ddrwg’ mewn gwirionedd, ac mai’r gymdeithas a barodd iddi chwerwi. Dilynwn ei hanes o’i geni drwy’r blynyddoedd yn yr ysgol hyd at ganfod cariad a dod wyneb yn wyneb a hiliaeth yn sgil cael ei geni, o’i thin i’w thalcen, yn wyrdd! Un brwydr enbyd fu ei bywyd, gan geisio cael ei derbyn fel person da ynghanol pobol ddrwg. Byddai ail-wylio’r ffilm hefyd o fantais, gan bod llawer o gyfeiriadaeth at y stori enwog am Dorothy a’i chi Toto yn cael eu chwythu ynghanol y corwynt a’u gorfodi i ddilyn y ffordd frics melyn!

Er bod yna lu o wynebau cyfarwydd yn rhan o’r cast gan gynnwys Miriam Margolyes fel yr athrawes ‘Madame Morrible’, Adam Garcia fel y cariad ‘Fiyero’ a Nigel Planer fel y dewin, heb os nag onibai, seren y sioe ydi Idina Menzel fel ‘Elphaba’ y wrach ddrwg.
Y Cymro  
web site
:
Paul Griffiths
e-mail:
Friday, October 6, 2006back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk