1. Yn eich barn chi, ar wahân i ddarparu arian ychwanegol, beth ddylai/gall y Cynulliad ei gynnig i'r celfyddydau yng Nghymru a sut y gall y Cynulliad ddatblygu'i Bolisi Celfyddydau a Diwylliant terfynol ei hun?
Yn gyntaf, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb i sicrhau fod arian yn cael ei ddidol gan gorff sydd yn ddemocrataidd atebol. Nid corff felly yw Cyngor Celfyddydau Cymru. Caer drefedigaethol a welodd ddyddiau gwell ydyw ag un sy'n siomi artistiaid Cymreig a chynulleidfaoedd yn ddirfawr. Carem weld y Cynulliad Cenedlaethol yn dileu ei gefnogaeth i'r C.C.C. a throsglwyddo'r cyfrifoldeb o noddi'r celfyddydau i gorff newydd, cyffrous a fyddai'n gadarnhaol weithredol. Dylai'r corff hwn rannu dyheadau artistiaid a'u cynorthwyo i'w gwiredu. Dylai fod yn gorff agored , yn gorff atebol a fyddai yn defnyddio ei incwm ar waelod yr ystol ac yn y maes yn hytrach na'i wastraffu ar weinyddiaeth gynhwysfawr ar y brig ag ad-drefnu cyson o'i strwythur. Y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol herio y corff hwn yn gyson gan roi iddo nod ac amcanion i'w cyflawni. Mae penderfyniadau ar hyn o bryd yn cael eu gwneud yn gyfrinachol gan C.C.C., heb system apêl democrataidd. Mae angen beirniad annibynnol i ymchwilio cwynion.
Yn ail, y mae'n bwysig pwysleisio fod Undeb yr Ysgrifenwyr Cymru yn credu y dylai y Cynulliad Cenedlaethol ganfod chwaneg o arian er mwyn cefnogi celfyddydau Cymru, yn arbennig yng nghyd-destun ehangach y ddarpariaeth a wneir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a'r Alban y llynedd. Bu mwy o lewyrch arnynt ill dau nag a fu ar Gymru a chredwn fod yn rhaid wrth ragor o nawdd os yw Cymru hithau i gael sin gelfyddydol lewyrchus a chynhyrfus, a fydd yn gefongol i artistiaid Cymreig a chaniatau iddynt weithio yn gyson yn eu gwlad eu hunain, gan ddarparu rhychwant eang o ddewis o'r safon uchaf posib o gelfyddyd i gynulleidfa Gymreig. Ar hyn o bryd, rydym yn amddifad o sin o'r fath. Y mae yn dadfeilio tan ddiffyg nawdd a pholisiau dryslyd, ac yn amlach na heb dyrys, o du y Cyngor Celfyddydau wedi mygu celfyddydau Cymreig yn hytrach na'u gadael iddynt dyfu a llewyrchu. Dylai arian oddimewn i'r Cynulliad gael ei rwym-ffensio i sicrhau darpariaeth gogyfer a'r celfyddydau.
2. Beth ddylai prif egwyddor polisi'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru fod?
Prif amcanion y celfyddydau a pholisi celfyddydol o'i hanfod fyddai cefnogi celfyddydau Cymreig ag artistiaid yn anad dim byd arall. Y mae arnom angen buddsoddi mewn artistiaid yn y maes er mwyn annog creadigrwydd a rhoi cyfleoedd i dalent Cymreig gynhyrchu o'i orau a llewyrchu. Ar hyn o bryd, does dim hanner digon o ddeunydd yn cael ei greu nac yn cael ei arddangos yng Nghymru i greu yn ei dro ddiwylliant bywiol y gallwn ei hawlio i ni'n hunain. Dylem annog y talent sydd gennym yma yng Nghymru mewn termau ariannol real ynghyd a datblygu mewnstrwythur i alluogi y cyhoedd i weld y gwaith. Os na allwn gefnogi ein hartistiaid ein hunain, yna yn naturiol, fe ant i lefydd eraill i weithio, ac felly, rhaid inni ddangos hyder yn ein pobol ein hunain a buddsoddi yn ddi-oed yn eu syniadau, eu hegni, eu hymroddiad a'u doniau.
3. A ddylai egwyddor polisi o'r fath gael ei seilio ar y celfyddydau yng Nghymru neu ar Gelfyddydau Cymreig? Beth dylai'r cydbwysedd rhwng y ddau fod?
Heb os nac oni bai rhaid i'r flaenoriaeth fod ar gelfyddydau Cymru. (Dehonglwn hyn fel a ganlyn sef : celfyddydau a grewyd yng Nghymru, boed hynny yn ddawnsio gwerin yn Llanelli, neu yn gerddoriaeth Bhangra yn Grangetown.) Wedi'r cyfan, os na allwn gael ffydd yn noniau ein gweithwyr celfyddydol, pam disgwyl i eraill feddu ar hynny? Cri barhaus a ddaw i'n clustiau yw o awduron yn gorfod gadael Cymru oherwydd diffyg cyfleoedd. Rhaid inni greu cyfleoedd go iawn i artistiaid proffesiynol i aros a gweithio yng Nghymru gan ddangos ffrwyth eu llafur i gynulleidfaoedd Cymreig. Mae hi'n amlwg hefyd fod yn rhaid inni gefnogi celfyddydau eraill yng Nghymru, er mwyn gwrteithio ein cynnyrch cartref, ond ni ddylai hynny fod ar draul creadigrwydd mewn cyd-destun proffesiynol Cymreig. Am yn rhy hir o lawer ni fu gennym yr hyder yn ein llais ein hunain, ac fe ddylai creu sin gelfyddydol fywiol fod yn fodd o roi Cymru ar y map ac ni all yr effaith ond a bod yn llesol i'n heconomi, yn enwedig o safbwynt y diwydiant ffilm a theledu. Mae rhaid i ni gefnogi'r celfyddydau eraill yng Nghymru hefyd er mwyn cyfannu gwaith ein hun, ac i gydffrwythloni'n ddiwylliannol. Ond ni ddylai'r gwaith yma digwydd er anfantais creugarwch proffesiynol Cymreig.
4. O gael 'llechen lân', sut fyddech chi'n awgrymu y dylai'r Cynulliad strwythuro ei drefniadau ar gyfer ariannu a rheoli/datblygu'r celfyddydau yng Nghymru?
Rhy ychydig o'r grochan nawdd sy'n cyrraedd unigolion sy'n gweithio yn y maes ac sy'n creu y gwaith. Nodwn enghraifft: ym mlwyddyn ariannol 1998-1999 dim ond £93,600 o gyllid theatr o £3.3 miliwn a gyrhaeddodd bocedi dramodwyr Cymru (a charem bwysleisio fod hyn cyn iddynt dalu y dreth incwm). Dim ond 10 y cant o'r gyllid theatr a wariwyd ar ysgrifennu newydd (dramau newydd yn y ddwy iaith mewn cyd-destun Cymreig) ac eleni dim ond 4 y cant sydd wedi ei glustnodi i'w wario. Rhaid inni daclo'r broblem yma rhywsut neu'i gilydd. Yn yr Alban, gwerir 31 y cant o'r gyllid theatr ar gefnogi dramau newydd Albanaidd. Paham yr anghyfartaledd? Rhaid sianelu nawdd i greadigrwydd yn hytrach nag i srwythurau rheoli fel ag sydd gennym ar hyn o bryd. E.e. llwyddodd C.C.C. i wario £300,000 yn fwy ar weinyddiaeth in ystod y flwyddyn 1998-1999 nag a wnaeth yn y flwyddyn cynt. Ni all hyn fod yn dderbyniol. Mae angen corff sy'n cael ei redeg gan swyddogion sydd hefyd yn gweithio fel artistiaid, ac felly yn deall ein problemau. Rheolwyr sydd ddim yn baranoiaidd, ac yn hapus i wrando ar ein syniadau.
5. Yn eich profiad chi, pa mor agored a hygyrch y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod wrth wrando ar eich barn ac ymgymryd â'ch syniadau? Gan ddefnyddio'r Strategaeth Ddrama fel enghraifft, a ydych o'r farn fod y broses ymgynghori wedi'i rheoli'n dda neu a ddylid bod wedi gwneud pethau'n wahanol?
Cam-reolwyd a cham-gynghorwyd y strategaeth ddrama o'r dechrau i'r diwedd. Ffiasco cywilyddus oedd y cwbwl, a dylai'r rheiny a fu'n gyfrifol ymddiswyddo. Ni chafodd ei gefnogi gan Undeb yr Awduron (Cymru) Prydain Fawr o gwbwl. Modd o ymwrthod ag amrywiaeth ydoedd, a hynny er mwyn sicrhau cyllid diogel i un ffefryn gwmni theatr (Clwyd Theatr Cymru) nad yw yn ystod y bedair blynedd ddiwethaf ond wedi comisiynu a chynhyrchu un ddrama gan awdur Cymreig ( ac roedd y ddrama honno wedi ei chomisiynu cyn apwyntiad yr arweinydd artistig presennol). Gwelodd y strategaeth yn dda i fygwth Theatr i Bobol Ifanc a dau o gwmniau ysgrifennu newydd mwyaf hir-hoedlog Cymru yn cau er mwyn lloffa arian a chreu fersiwn dwy-ieithog o gwmni ysgrifennu newydd, y mae yr Undeb wedi dadlau sy'n gam yn ol yn natblygiad y Theatr Gymreig yn y ddwy iaith. Bu swyddogion o'r C.C.C. yn hapus i gyfarfod a Undeb yr Awduron i wrando ar ein gwrthwynebiad, ond buont yn dra ffyrnig i'n safbwyntiau ac yn amharod i weithredu yn gadarnhaol i'n hargymhellion. Yn fwy diweddar, cytunodd C.C.C. wedi cyfnod maith o negydu, i ganiatau i un o'n cymodyr Seisnig i gymryd rhan yn y broses o gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y cytundeb ysgrifennu newydd, ond yn anffodus ni dderbyniwyd yr un o'i hargymhellion gan y C.C.C. Roedd o'r pwys mwyaf i ni fod llais yr awdur i'w glywed yn y broses o ddethol cwmni a fa'i yng ngofal gwaith awduron, ac wedi cyfnod hir o drafodaeth cytunodd C.C.C. Roedd yn egwyddor bwysig i ni ac yn un y bu'n rhaid inni frwydro amdani - er fod llais yr awdur, yn y diwedd, wedi ei anwybyddu. Mae'r strategaeth ddrama yn bodoli er gwaethaf y proses ymgynghori, nid achos y proses ymgynghori. Fe wnaeth C.C.C. anwybyddu'r lleisiau oedd yn gwrthwynebu'r strategaeth, ac yn ddigon hapus i roi 'sbin' positif i'r drwg a'r da. Ni wnaethpwyd dogfennau ymgynghorol yn gyhoeddus, ac er fod bron pob corff celfyddydol proffesiynol wedi diarddel y strategaeth ddrama, mynnodd y C.C.C. ei fod yn fynegiant o ewyllys boblogaidd y gymuned gelfyddydol. Bu eu hagwedd yn haerllug, yn ddi-ildio ac yn amal, yn ymosodol. Ymddwynont yn anemocrataidd yn eu hymwneud a'r strategaeth ddrama, pan y byddai unrhyw gorff gweddus wedi ildio yn wyneb y fath wrthwynebiad cyhoeddus. Corff di-wyneb ac anemocrataidd yw Cyngor y Celfyddydau Cymru. Nid yw'n gynrychioloadol o Gymru yn ei chyfanrwydd, ac mae'n ddi-gyswllt ac yn amherthnasol. Dylid dileu y Cyngor ar unwaith.
6. A ydych o'r farn fod strwythur a threfn y Cyngor yn briodol i'w alluogi i ddatblygu strategaethau celfyddydau cenedlaethol a rheoli dosbarthiad arian y Cynulliad?
Na. Yn eu hanfod gweision suful yw'r swyddogion heb nemor ddim profiad o sut y mae hi arni ar artistiaid, actorion ac awduron. Nid ynt yn deall problemau dyddiol o weithio yn y celfyddydau ac felly ni allant ymateb, fel ag y dylient i'n pryderon yn effeithiol, neu ymateb i'n anghenion yn iawn. Corff cyfrinachol ydyw sy'n ddrwgdybus o bobol o'r tu allan. Mae ynddo ormodedd o fiwrocratied sy'n gwneud y nesa' peth i ddim. Achos yr ad-drefnu costus sydd wedi digwydd tu fewn i C.C.C., mae nifer o'r biwrocratiaid ddim yn gwybod dim amdano'r celfyddyd mae nhw yna i gynrychioli. Mae'n debyg nid oes cysylltiad rhwng grantiau, cynllunio a pholisi. Er enghraifft, dim ond wedi ymgyrch gan Undeb yr Ysgrifenwyr â wnaeth C.C.C. penderfynu byddent yn anelu i sicrhau fyddai'r cwmniau theatr refeniw yn comisiynu dramodwyr Cymreig. Ddylai'r egwyddor yma wedi bod yn rhan allweddol o'r strategaeth o'r dechrau.
7. Yn eich barn chi, a yw'r celfyddydau wedi'u cefnogi'n dda ar draws pob rhanbarth o Gymru, yn enwedig wrth hyrwyddo'r Gymraeg?
Gall penderfyniadau gan y C.C.C. handwyo hyrwyddo yr iaith Gymraeg yn y celfyddydau yng Nghymru. Er enghraifft, y mae'r egwyddor o sefydlu cwmni dwyieithog newydd yng Nghaerdydd, fel ag yr arfaethir gen y C.C.C. yn benderfyniad drwg gan ei fod yn gorfodi dileu cwmni uchel ei barch sydd a'r cyfrifoldeb o ddatblygu drama yn yr iaith Gymraeg. Cwmni Theatr Dalier Sylw yn flaenorol a oedd a'r cyfrifoldeb am ddarparu dramau yn yr iaith Gymraeg a Made in Wales am yr iaith Saesneg. Y mae'r cam yma tuag at greu cwmni dwyieithog yn gweithredu ar lai o gyllid nag oedd gan y ddau gwmni blaenorol, yn mynd i arwain at grebachu yn y gwaith yn y ddwy iaith, gan leihau gwaith i awduron, actorion a chyfarwyddwyr Cymreig a.y.b. a maes o law yn arwain at ostwng statws a ffocws i waith yn yr iaith Gymraeg a Saesneg. Ni fydd hyn yn fodd o hyrwyddo yr iaith Gymraeg mewn unrhyw ddull neu fodd. (A bydd hefyd yn ergyd farwol i awduron Cymreig sy'n ysgrifennu yn Saesneg gan nad oes gwmniau eraill mewn bodolaeth yng Nghymru sydd a diddordeb mewn comisiynu gwaith newydd yn y Gymraeg, ond bydd hefyd lai byth o gyfleoedd gwaith i awduron Saesneg eu hiaith). Bwriad y strategaeth ddrama oedd i ddileu llawer o'r cwmniau yn yr ardaloedd lle roeddynt yn teithio ac yn deall anghenion cymunedau lleol. Trwy ariannu llai o gwmniau bydd llai o gyswllt a chynulleidfaoedd yn eu cynefin a bydd amrywiaeth y gwaith yn dioddef. Ni fydd y buddsoddiad o symiau mawr o arian mewn nifer bach o ganolfannau yn hyrwyddo'r celfyddydau ym mhob cwr o Gymru.
8. A ydych yn cytuno â'r egwyddor o "cyllido llai er gwell" h.y. sianelu adnoddau ar lai o fudiadau gyda golwg ar wella ansawdd y cynyrchiadau yn sylweddol?
Na, dylem ariannu 'mwy' yn well. Dyma yw'r nod. Profodd y C.C.C. trwy eu hymdrech ddiweddar i ariannu llai o gwmniau theatr yn well y byddai hyn yn arwain at gyni i gynulleidfaoedd, gyda llai o gynhyrchiadau i ddewis ohonynt. Yng nghyd destun ysgrifennu newydd, y maent wedi methu ag ariannu llai yn well, ac wedi llwyddo i ariannu un yn well o ychydig nad oedd o'r blaen. Nid yw'n ddigon da. Sut y gallwn ni gael gwell dramau gan awduron Cymreig trwy ariannu llai o gwmniau? Mae'r penderfyniad yma yn golygu y bydd llai o ddramau gan awduron Cymreig a llai fyth o awduron yn gallu ennill bywoliaeth. Defnyddir yr arian sydd ar gael yn awr i'w wario ar gyflogi chwaneg o weision cyflog a'r hyn a elwir yn 'arbenigwyr' i falu awyr a mwydro yn ddi-fudd ynglyn a chyflwr y ddrama yng Nghymru pan ddylai rhagor o arian gael ei gyfeirio i sicrhau fod gwaith yn cael ei greu gan gymaint o amrywiaeth o awduron a sy'n bosib. Yn hanesyddol mae Cymru wedi llwyddo gyda nifer o fanerlongau bach. Pam, yn sydyn, mae rhaid cael banerlongau mawr?
9. Pa gorff/gyrff ddylai chwarae rôl allweddol wrth reoli a dosbarthu arian Ewrop i'r celfyddydau?
Unrhyw un ond Cyngor Celfyddydau Cymru.
Y Cynulliad efallai mewn cyd-weithrediad âg asiantaeth newydd.
10. Beth gall Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, neu eraill wneud wrth hyrwyddo diwydiannau creadigol Cymru dramor?
Beth am fuddsoddi o ddifri yn y celfyddydau Cymreig, ac fe werthant eu hunain ar gorn eu henw da a'u gwerth. Y mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ddibynnol ar y Cyngor Prydeiniog am nawdd. Dylai'r Cynulliad wobrwyo arian i C.Rh.C. i'w alluogi i weithredu mewn cyd-destun Cymreig yn unig a rhoi iddo'r rhyddid i wneud penderfyniadau yn nad ynt yn ddibynnol ar swyddogion llundeinig.
11. Sut gall y celfyddydau gyfrannu at fynd i'r afael â dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru a pha rwystrau sy'n atal unrhyw gynnydd ar hyn o bryd?
Y mae ysgrifennu theatr newydd yn ail-greu drama mewn cyd-destun cyfoes a pherthnasol. Fe'i gwna yn 'newydd' i'r gynulleidfa. Y mae'r gwaith a grewn yng Nghymru yn gorfod bod yn berthnasol i'r gynulleidfa er mwyn eu cynnwys hwy yn y broses, a dim ond trwy gefnogi yr artistiaid Cymreig hynny sydd am weithio yng Nghymru a byw yn y gymuned y gellir gweld y math o waith a ellir ei gynhyrchu. Wedi'r cwbwl, faint o ddramodwyr Cymreig allwch chi eu henwi? Gall y mwyafrif ond enwi Dylan Thomas, ond pwy mor berthnasol yw 'Dan y Wenallt' i bobol ifanc sy'n prifio ar stad Penrhys? Heb y buddsoddiad mewn syniadau newydd gan feddyliau newydd mewn cyd-destun perthnasol, ni fydd gan bobol sydd yn synied ar hyn o bryd nad oes gan y theatr ddim oll i'w gynnig iddynt hwy, unrhyw ddewis ond parhau a'r un meddylfryd. Dylai addysg yn y celfyddydau fod a rol allweddol yn y cyswllt hwn. Enghraifft gwych yw y gwaith a wneir gan Gwmniau mewn Addysg yn ysgolion Cymru. Y mae'r cwmniau hyn yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno y celfyddydau i blant Cymru a dylid eu parchu a'u gwerthfawrogi. Mae llawer o'r cwmniau hyn yn gweithio yn y gymundeb hefyd a thrwy gyfrwng cwmniau o'r fath y cyflwynir y celfyddydau i unigolion a'r gobaith yw y daw pobol yn selogion i'w gwaith. Gellid hefyd sybsideiddio prisiau tocynnau er mwyn gwneud y gwaith yn hawddach-i-fynd-ato.
12. Pa gymorth ddylai'r Cynulliad ei ddarparu i gynnal new gynyddu hyfywedd ac incwm diwydiannau creadigol yng Nghymru?
Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol roi proffeil uwch i'r Celfyddydau o fewn y Cynulliad. Nid yw o ddim help i'r achos fod y celfyddydau wedi eu claddu o fewn busnes pwyllgor a elwir yn 'Addysg a Hyfforddiant Ol 16'. Carem weld Ysgrifenydd gyda gofal unswydd tros y celfyddydau yng Nghymru, neu o leiaf aelodau o'r pwyllgor yma gyda chyfrifoldeb arbennig tros y celfyddydau. Rhaid sylweddoli a gwerthfawrogi fod artistiaid yn gwasanaethu eu cymundeb trwy eu gwaith gan hyrwyddo yn eu tro greadigrwydd y rheiny a ddaw i gysylltiad a ni. Gall artistiaid Cymru greu diwylliant bywiol a chryf i gynrychioli Cymru adre a thramor ar lwyfan y byd. Rydym angen cefnogaeth ac ewyllys da y Cynulliad i gyflawni hyn.
Ond yn y bôn mae angen mwy o arian. Mae'r Cyngor Celfyddydau yn Loegr wedi derbyn cynnydd o 15% eleni. Yn yr Alban 10% (ac 20% yn y flwyddyn 2002-2003). Mae Cymru wedi derbyn 2.8%. Pam y gwahaniaeth? Ddylai'r Cynulliad sylweddoli y ffyrdd fe all y celfyddydau hybu ein economi, a'u meithrin.
Thema
Atgyfnerthu hunaniaeth genedlaethol a statws rhyngwladol Cymru: 1
Hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a dinasyddiaeth actif drwy roi mwy o gyfle i'r cyhoedd gael mynediad i'r celfyddydau yng Nghymru: 6
Gwella ansawdd bywyd unigolion a chymunedau: 3
Cefnogi addysg a hybu talent artistig ledled Cymru: 4
Pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i fyd gwaith yng Nghymru: 2
Datblygu rhagoriaeth: 5
|