Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Diwedd y daith i Dalier Sylw?     

Mae’n siw^r ichi glywed erbyn hyn fod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi eu Strategaeth Ddrama, strategaeth sy’n mynd i newid yn sylfaenol y ddarpariaeth drama yma yng Nghymru. Fel rhan o’r Strategaeth, bwriedir ail edrych ar y ddarpariaeth ysgrifennu newydd yn y Gymraeg a Saesneg .Ys dywed y Strategaeth " bydd datblygu ysgrifennu newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn parhau yn flaenoriaeth. Mae angen datblygu ysgrifennu newydd yn ofalus ac awgrymir ymgynghori pellach er mwyn trafod y dulliau gorau o gefnogi’r maes pwysig hwn….". Mae’r CCC wedi llunio papur cefndir ar gyfer yr ymgynghoriad (copi yn amgaeëdig), ac yn gofyn am ymatebion gan ystod eang o bobol a grwpiau sydd â diddordeb. Hoffwn ni eich gwahodd , fel cefnogwyr Dalier Sylw, i fynegi barn, ac i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Yn ôl y Strategaeth Ddrama, "bwriada CCC ddatblygu strategaethau priodol i gefnogi a chynhyrchu dramâu newydd yn y Gymraeg a Saesneg. Byddai rhan o’r cynllun hwn yn golygu datblygu Theatr y Sherman fel rhyw fath o arddangosfan i ysgrifennu newydd, o bosib gan gynnwys canolfan i ysgrifenwyr. Bydd yr ymchwil a’r ymgynghori yn dechrau yn gynnar yn haf 1999, ac fe’u cwblheir erbyn hydref 1999. Bydd y gefnogaeth a roddir gan CCC ar hyn o bryd i’r cwmnïau ysgrifennu newydd, Made in Wales a Dalier Sylw, yn parhau trwy gydol 1999-2000, gyda golwg ar gael darpariaeth i’w holynu yn ei lle o fis Ebrill ymlaen……. Bydd CCC yn ymgynghori yngly^n â newid pwyslais i Theatr y Sherman, gyda rôl ganolog i ddatblygu a chynhyrchu gwaith newydd a ysgrifennwyd yn Gymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn rhoi i’r Sherman rôl strategol allweddol i hybu’r awduron sy’n ysgrifennu ar gyfer y llwyfan mewn cydweithrediad agos ag asiantaethau eraill. Bydd CCC yn cadw at ei ymrwymiad i’r lefelau presennol, neu lefel uwch, o gymorth i weithgareddau sy’n hanu o’r Sherman."

Beth yw goblygiadau y Strategaeth Ddrama i ysgrifennu newydd?
Ymddengys mai’r bwriad yw ffurfio un cwmni newydd, fydd yn gweithio yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ac wedi ei leoli yn Theatr y Sherman. Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau presennol sy’n gweithio gydag awduron newydd yn mynd i gael eu dileu, sef Dalier Sylw, Made in Wales ac o bosib Cwmni Theatr y Sherman, er mwyn creu un cwmni dwyieithog. Bydd y strwythur newydd yn derbyn llawer llai o gymhorthdal na lefel ariannu presennol y tri chwmni .

Beth yw goblygiadau y Strategaeth Ddrama i Dalier Sylw?

Mi fydd y cwmni yn cael ei DDIDDYMU ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon (diwedd Mawrth 2000).
Yn y deng mlynedd o fodolaeth Dalier Sylw, cynhyrchwyd 25 o ddramâu gan 14 o awduron. Cyhoeddwyd 11 o’r dramâu, gydag 3 (hyd yn hyn) wedi eu cynnwys fel llyfrau gosod a nifer arall
yn cael eu hastudio fel rhan o faes llafur TGAU a Safon Uwch CBAC (gweler y tabl isod).

Drama Awdur Cyhoeddi? Astudio?
1989/90 Adar Heb Adenydd Edward Thomas Do
Bermo yn y Nos Wiliam Owen Roberts
1990/91 Hunllef yng Nghymru Fydd Gareth Miles Do
Largo Desolato Vaclav Havel, cyf. Sion Eirian
Mysgu Cymyle Branwen Cennard
1991/92
Bacchai (Cymraeg) Euripides, cyf. Gareth Miles Do
Bacchai (Saesneg) Euripides, cyf. Ian Brown
1992/93 Simone Weil, Y Forwyn Goch Menna Elfyn
Wyneb yn Wyneb Meic Povey Do Safon Uwch Drama
1993/94 "i" Jim Cartwright, cyf. John Owen Do TGAU Drama
Calon Ci Gareth Miles
1994/95 Epa yn y Parlwr Cefn Sion Eirian Do
Y Cinio Geraint Lewi Do TGAU Drama
1995/96 Fel Anifail Meic Povey Do Safon Uwch Drama
The Language of Heaven Geraint Lewis
Croeso Nôl Tony Marchant, cyf. John Owen Do
Welcome Home Tony Marchant
1996/97 Y Groesffordd Geraint Lewis
Meindiwch Eich Busnes Geraint Lewis
Bonansa! Meic Povey Do Safon Uwch Drama
1997/98 Spam Man Dafydd Llewelyn
Cnawd Aled Jones Williams
Maoysata Sera Moore Williams
Y Cinio (ail gynhyrchiad) Geraint Lewis
1998/99 Tair Meic Povey Do Safon Uwch Drama
Y Madogwys Gareth Miles




Mae Dalier Sylw yn awyddus i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei lle haeddiannol mewn unrhyw strwythur newydd, ac felly byddwn yn croesawu eich barn chi ar oblygiadau’r strwythur honno.
Tra’n cytuno bod rhaid symud ymlaen mewn rhyw ffordd, mae Dalier Sylw yn awyddus i sicrhau dyfodol iach a dilyniant haeddiannol i’r gwaith a gyflawnwyd gan y cwmni. Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i unrhyw un sy’n cefnogi y theatr Gymraeg. Mynnwch eich cyfle i fynegi barn. Mae’r CCC yn gofyn am ymatebion erbyn 12 Gorffennaf. Cysylltwch a ni erbyn 1 Gorffennaf er mwyn inni allu cynnwys eich ymateb chi ochr yn ochr ag ymateb Dalier Sylw.

Dalier Sylw  
web site
:
Mai Jones + Bethan Jones
e-mail:
Monday, June 21, 1999back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk