|
Arad Goch yn cyhoeddi 'crynodeb' Ymateb i'r strategaeth ddrama |
|
Fe luniwyd ymateb llawn ARAD GOCH wedi trafodaethau hir a helaeth gan dim rheoli'r cwmni, gyda staff y cwmni a gyda'i Fwrdd Rheoli. Mae'r ymateb hwnnw yn canolbwyntio, yn priodol, ar yr awgrymiadau a wneir gan CCC ar gyfer theatr i bobl ifainc. Beth bynnag, gan na ellir trafod ThBI heb ei ystyried o fewn fframwaith mwy eang, mae'r papur yn cyfeirio, hefyd, at elfennau eraill y strategaeth. Crynodeb a geir yma o ddogfen ymateb ARAD GOCH i Ddrafft Strategaeth Drama CCC Rhagair Mae ARAD GOCH yn cydnabod yr angen, bob yn hyn a hyn, i 'gymeryd stoc' o sefyllfa'r celfyddydau. Credir bod CCC, dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, wedi rhoi cyfle i nifer o ddatblygiadau newydd a bod angen ystyried y sefyllfa fel ag y mae erbyn hyn er mwyn gosod seiliau ar gyfer datblygiadau'r dyfodol. Ond, tra'n gwerthfawrogi'r ffaith fod CCC wedi gwahodd sylwadau gan y proffesiwn a'r cyhoedd dros y misoedd diwethaf, gresynir mai crynodeb yn unig o'r holl sylwadau a ddarparwyd i aelodau'r Cyngor a'r proffesiwn Wrth ymateb i'r ddogfen, mae'n rhaid gofyn rhai cwestiynau sylfaenol: Pam na lwyddodd CCC, yn ystod proses ad-drefnu llywodraeth leol, i sicrhau parhâd yn y nawdd a gafwyd, ar gyfer nifer o fathau o weithgareddau, gan yr awdurdodau lleol? Pam na lwyddwyd i sicrhau'r un canran o gynnydd yn yr arian a roddir i'r celfyddydau ag a gafwyd yn Lloegr? Pam na roddir nac esboniadau na rhesymau dros y newidiadau a'r penderfyniadau a argymhellir yn y ddogfen? Pa brawf sydd gan CCC fod y newidiadau a argymhellir yn y ddogfen yn debygol o lwyddo i gyflawni holl nod ac amcanion y Cyngor? -------------------------------------------------------------------------------- Rhoddir isod, ar ffurf nodiadau, ymateb yn ôl penawdau dogfen CCC. 3. Ymhle yr hoffem fod - ymhen pum mlynedd Synnir na rydd yr adran hon ystyriaeth o gwbl i ofynion cymdeithasol, hanesyddol, ieithyddol na diwylliannol Cymru. Da byddai cael gwybod sut a pham '...byddai cydbwysedd iachach...drwy gefnogi oddeutu deg neu un ar ddeg o sefydliadau...'. Cytunir y gellir gwella ar gyd-gynllunio rhwng cynhyrchwyr a chyflwynwyr. Serch hynny, awgrymir bod y ddogfen yn rhoi llawer gormod o bwyslais ar theatr 'brif- ffrwd' mewn adeiladau / theatrau cydnabyddedig; anogir CCC i roi mwy o ystyriaeth i rôl holl bwysig hyrwyddwyr lleol / cymunedol yn y patrwm cyfan. 4. Cynhyrchu a Theithio 1: y gynulleidfa gyffredinol Mae'n rhaid gofyn a yw'r awgrym/bwriad i greu dau gwmni theatr cenedlaethol yn gywir, moesol a doeth, yn enwedig o ystyried y pwyntiau canlynol: nid oes prawf o alw cadarn oddi fewn nac oddi allan i'r proffesiwn am gwmniau o'r fath; bydd gweithredu'r awgrym hwn yn amddifadu sectorau eraill y diwydiant o'u nawdd er mwyn cynyddu nawdd i un math o theatr; gallai gweithredu'r awgrym hwn amddifadu cynulleidfaoedd (er enghraifft yn eu cymunedau ac mewn ysgolion) o theatr berthnasol gan arwain at greu theatr elitaidd ac amherthnasol - a gan wrth-ddweud bwriad y strategaeth fel y'i amlinellir yn 3.1 '.... sy'n cyrraedd mwy o bobl...'; bu sawl ymgais aflwyddiannus yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf i sefydlu cwmniau cenedlaethol; does dim prawf y byddai dwy uned felly yn gallu darparu gwasanaeth llwyddiannus. Mae'r 25 mlynedd ddiwethaf yn y theatr yng Nghymru wedi profi nad oes rhinwedd mewn ceisio efelychu cyfundrefn y theatr yn Lloegr. Camgymeriad yw tybio bod theatrau prif-ffrwd, mawr eu maint a mawr eu cynnyrch, yn berthnasol i sefyllfa gymdeithasol, ddiwylliannol Cymru. Credir fod y ddogfen, yn enwedig yr adran hon, yn arwain at theatr elitaidd a fyddai'n wrthyn i Gymru. Mae yn y ddogfen anghysondeb annealladwy: gan ei fod yn fwriad gan CCC gyhoeddi 4 'ffranseis' ar gyfer gwaith i bobl ifanc, sut y gellir cyfiawnhau peidio â gwneud yr un peth am bob math arall o weithgaredd? Credir y dylid, cyn cynyddu grant i unrhyw sefydliad, arolygu yn fanwl ac asesu llwyddiant/methiant y sefydliad, ei berthynas gyda gweddill y diwydiant, ei brosesau ac arferion gweithio, ei broffeil a'i berthynas â'i gymdeithas. Dylid sicrhau canllawiau a 'brief' clir, tynn ac agored i bob cwmni arall, gan sicrhau y bydd gwaith a gweithgareddau pob uned cynhyrchu yn atgyfnerthu gwaith ei gilydd yn hytrach na tharfu ar eu llwyddiant. Dylid bod yn glir, er enghraifft, am rôl ieithyddol a daearyddol. Gofynnir i CCC sicrhau y bydd y nawdd a roddwyd i unedau cynhyrchu ar gyfer gwaith Cymraeg yn y gorffennol yn cael ei chadw nôl a'u ail-gyfeirio i weithgareddau'r cwmniau fydd yn darparu gwaith Cymraeg yn y dyfodol. Awgrymir y dylai dogfen bwysig fel hon fod yn hollol eglur ac agored ynglyn â bwriad CCC o ran gwariant i'r sector Cymraeg ac i'r sector Saesneg. Hyd yn oed pe sefydlid CCPCC yn y ddwy iaith, nid oes rheswm na chyfiawnhad dros dderbyn, yn ddigwestiwn, fod theatr yn y Gymraeg yn llai costus i'w chynhyrchu. Mae'r bwriad o roi cymaint o bwyslais a sylw i theatr 'brif-ffrwd' gan y CCPCC yn gwrthddweud yr awgrym yn 4.3.9 5. Theatr ar gyfer Pobl Ifanc Mae ARAD GOCH yn llongyfarch CCC ar ei benderfyniad i warchod '...theatr i bobl ifainc ... y gem yng nghoron y theatr yng Nghymru' (chwedl cyn Brif Weithredwr CCC) ac yn hyderu y bydd CCC yn sicrhau mai cwmniau cynhyrchu arbenigol fydd yn darparu gwaith i bobl ifainc. Ond, nid yw'r ddogfen bwysig hon yn esbonio sut y gall 4 cwmni wneud gwaith yr 8 cwmni presennol heb i'r gwaith ddioddef ac heb gwtogi ar y gwasanaethu. Hyderir bod gan CCC ffeithiau, ystadegau a ffigyrau sydd yn profi fod hyn yn bosib ac y gall CCC rannu'r wybodaeth hon gyda'r ymarferwyr. Mae'n rhaid cofio fod theatr-mewn-addysg wedi bod yn un o lwyddiannau mawr CCC; mae'n destun edmygedd ac eiddigedd cydweithwyr mewn sawl gwlad, ymhell ac agos. Awgrymir mai annoeth fyddai cwtogi'r ddarpariaeth er mwyn cynyddu cyllid sector arall - a dweud y gwir, yng ngoleuni'r ddogfen holl bwysig arall Y CELFYDDYDAU A PHOBL IFANC YNG NGHYMRU a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae yna sawl rheswm dros gynyddu gwariant CCC ar theatr i bobl ifanc a hynny er mwyn 'sicrhau bod holl bobl ifainc Cymru yn cael mynediad at gyfleodd i ... brofi ac ymwneud â'r celfyddydau...'. Wrth ystyried y ddarpariaeth bresennol - a'i pharhad a'i datblygiad ar gyfer y dyfodol - mae'n rhaid ystyried fod llawer o adnoddau a chyllid cwmniau eraill heblaw'r 8 cwmni Theatr mewn Addysg ar hyn o bryd, yn cael eu gwario ar greu a darparu theatr i bobl ifainc a phlant. Os na fydd y cwmniau / theatrau hynny yn parhau i weithredu fel theatr (adeilad a chynnyrch) i bobl ifainc, mae'n rhaid i CCC sicrhau i'r arian a glustnodir ar hyn o bryd ar gyfer ThBI, ac sy'n cael ei wario drwy'r theatrau hynny, gael ei gynnwys fel arian ar gyfer ThBI yn y dyfodol - yn ogystal â'r arian theatr-mewn-addysg presennol. Mae peidio â chynnwys gwybodaeth ac ystyriaeth am waith ThBI y cwmniau/theatrau eraill yn y ddogfen yn gamarweiniol. Hyderir y bydd CCC yn sicrhau y bydd 'brief' y pedwar cwmni yn ddigon eglur ac yn hysbys i bob cwmni arall (i) er mwyn i'r 4 cwmni beidio a dyblu gwaith ei gilydd (ii) er mwyn sicrhau darpariaeth gytbwys, yn genedlaethol, o ran mathau o waith, iaith, ac oedran a (iii) yn bwysicach, fel bod dealltwriaeth rhwng y sector theatr i bobl ifainc a gweddill y diwydiant fel na fydd lle i un sector dyblu nac amharu ar waith y llall. Awgrymir nad ydyw'n bosib, ar hyn o bryd i ddosrannu'r arian ar gyfer y 4 ffranseis yn gyfartal hyd nes i CCC benderfynnu beth fydd cynnwys a chanllawiau'r ffranseisiau. Hwyrach y bydd angen mwy na ú180,000 ar un neu rai o'r 4 cwmni newydd er mwyn cyflawni'r gwaith y bydd CCC yn llunio'r canllawiau ar ei gyfer. Awgrymir y dylai CCC nodi mai ymdrechion cwmniau unigol ac nid CCC sydd wedi llwyddo i gadw cefnogaeth gan nifer o awdurdodau lleol i waith ThMA. Mae'r amserlen a awgrymir yma yn aneglur iawn ac, yn nhyb llawer, yn anymarferol am y rhesymau canlynol: nad oes modd dosrannu gwaith unrhyw gwmni yn bedwar chwarter cyfartal a thaclus. mae'r cyfnod rhwng cyhoeddi'r cyfundrefn newydd ym mis Gorffennaf a dirwyn grantiau ym mis Rhagfyr yn rhy fyr (o ystyried gwyliau'r Haf a Nadolig); does dim lle yn yr amserlen a gyhoeddwyd i drafod cynnwys canllawiau'r ffranseisiau gyda'r ymarferwyr presennol ( sef y bobl sydd â'r wybodaeth angenrheidiol am ofynion y gwaith, ei effeithiolrwydd a'i ymarferolrywdd). Yn olaf, awgrymir y dylai CCC sicrhau na chollir y cyfoeth o waith a grewyd dros y 25 mlynedd ddiwethaf - sgriptiau, pecynnau adnoddau, gwaith plant, lluniau - ac y dylid sicrhau y bydd modd i'r gwaith hyn gael ei drosgwlyddo i'r system newydd. 6. Cynhyrchu a Theithio 3 Diffyg sylfaenol yn y strategaeth ddrafft yw absenoldeb unrhyw gyfeiriad o bwys at deithio cymunedol. Ni wneir unrhyw gyfeiriad o bwys i'r cynlluniau presennol 'Nol a Mlân' a 'Noson Mâs'. Oherwydd natur daearyddol, cymdeithasol a demographic Cymru mae teithio cymunedol yn elfen holl bwysig - yn bwysicach mewn rhai achosion, na'r adeiladau theatr 'brif-ffrwd'. Oni ddylai strategaeth o'r fath gynnwys elfen o geisio meithrin a datblygu hyrwyddwyr teithio cymunedol sy'n rhan mor bwysig o sicrhau mynediad i weithgareddau theatr mewn cymunedau gwledig? Ni chyfeirir, ychwaith, at bwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol fel ffocws ar gyfer gweithgareddau theatr broffesiynnol ac fel corff comisiynu. Hyderir y bydd 'brief' pob cwmni prosiect yr un mor dynn â'r cwmniau refeniw ac y sicrheir y bydd y gwaith y bwriedir ei greu yn berthnasol i'r cynulleidfaoedd a dargedir. Credir bod dyletswydd ar CCC i fonitro safonau artistig a sistemau gweithio pob cwmni prosiect yn ogystal â sicrhau a chynnal cydbwysedd cynnyrch. I GLOI Credir bod y ddogfen yn cynnwys llawer iawn o sylwadau a syniadau pell gyrhaeddiol. Ond mae ganddi hefyd lawer o wendidau - yn enwedig yn y ffordd y gwneir awgrymiadau heb esboniad am eu hangen, heb brawf o'u cefnogaeth na gwybodaeth ynglyn â sut y'u gweithredir. Mae'r gwendidau hyn yn gwanhau effaith y ddogfen. |
| Arad Goch web site: |
| Jeremy Turner e-mail: |
| Thursday, March 18, 1999 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
