Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Fersiwn Cymraeg Ymateb Theatr Powys Powys i'r Strategaeth ddrama     

Y BROSES YMGYNGHORI

Ein dadl ni yw y dylai’r broses ymgynghori dynnu ar brofiad, dyheuadau a safbwyntiau Ymarferwyr y Celfyddydau a’r bobl hynny sydd â diddordeb ac yn ymwneud â drama yng Nghymru. Erbyn diwedd y broses ymgynghori, dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at y drafodaeth ynglþn â dyfodol drama yng Nghymru gael cyfle i wneud hynny.

Rydym yn credu bod proses ymgynghori presennol Cyngor Celfyddydau Cymru yn amlwg wedi methu trosglwyddo’r egwyddorion uchod. Mae hyn gydag amserlen afrealistig wedi cyfrannu at y gred bod y broses wedi cael ei yrru drwodd i gwrdd â thargedau economaidd y flwyddyn gyntaf a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol Drafft Cyngor Celfyddydau Cymru ( 1999/2000 - 2001/2002). Mae lefel natur a sgop yr ymgynghoriad wedi bod yn annigonol. O ganlyniad, mae nifer o grwpiau, sefydliadau ac unigolion wedi cael eu cau allan o’r broses. Felly, mewn gwirionedd, ni all y canfyddiadau adlewyrchu amrediad ac amrywiaeth lleisiau a datganiadau creadigol pobl Cymru.

Gwnaed datganiad pennawd gan Joanna Weston , Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yn eu hadroddiad blynyddol 1997/98 (a gyhoeddwyd ddiwethaf) a oedd yn darllen: " Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych ymlaen i gynnal trafodaeth ynglþn â pholisi diwylliannol gyda chleientau, y wasg a’r Cynulliad Cenedlaethol Newydd i Gymru." Er fod Joanne wedi cyfeirio at y broses ymgynghori cyfredol yn arwain at "strategaeth radical a phellgyrhaeddol" yn ei datganiad cyhoeddus, mae’r Cynulliad Cenedlaethol newydd wedi cael ei gau allan o’r drafodaeth.

Mae methiant Cyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu amserlen i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Newydd Cymru i gyfrannu yn y broses ymgynghori wedi bod yn bryder mawr.

Wedi derbyn Papur Ymghynghori Strategaeth Ddrama Drafft Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Theatr Powys wedi bod yn ynghlwm yn y dasg gymleth o geisio dethol y manylion a’r wybodaeth angenrheidiol o’r papur er mwyn llunio ymateb iddo. Mae cwestiynau pellach wedi cael eu codi a llythyrau a ffacsys wedi eu hanfon at Swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru…. Eto i gyd, nid yw’r cwestiynau wedi cael eu hateb ac mae’r wybodaeth yn anghywir a chamarweiniol.

Gwelir diffyg lefel anghenrheidiol o fanyldeb, safon o wybodaeth, cywirdeb a didwylledd dadansoddiadol yn y Papur Ymgynghori. Mae hyn wedi atal y Cwmni rhag gwneud ymateb gwybodus go iawn o safon yr oedd am ei wneud i’r cynigion drafft.

Rydym yn cwestiynu cywirdeb a gallu proses ymgynghori drama Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn credu y byddai’r broses yn methu â bodloni archwiliad gan y cyhoedd pe bai’n destun archwiliad annibynnol.


--------------------------------------------------------------------------------

THEATR AR GYFER POBL IFANC

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bwriadu cynnig pedwar masnachfraint/rhyddfraint gyda chyfyngiad amser i’w cyflwyno (drwy hysbyseb cyhoeddus) yn Hydref 1999 ardraws Cymru. Nid oes unrhyw ragdybiaethau wedi cael eu gwneud ynglþn â’u hunion lleoliadau yn ddaearyddol na ffisegol. Mae’n anodd i Theatr Powys ymateb yn effeithiol neu mewn unrhyw fanylder i’r fath gynigion tlotaidd ar gyfer dyfodol Theatr ar gyfer Pobl Ifanc. Ategir y cynigion gan ddiffyg tystiolaeth, gwybodaeth a dadansoddiad dibynadwy.

Cefnogwyd penderfyniad canlynol y Cwmni gan ei Bwyllgor Rheoli ar 17/2/99.

Mewn cefnogaeth a chydnabyddiaeth o ddatblygiad hanesyddol 26 mlynedd gwych mewn darpariaeth Theatr Mewn Addysg, mae Theatr Powys wedi penderfynu ar ac yn argymell y canlynol i’w Bwyllgor Rheoli:

I WRTHWYNEBU CYNIGION PAPUR YMGYNGHORI STRATEGAETH DRAMA CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU I SEFYDLU 4 MATH O FASNACHFRAINT AR GYFER CYMRU A FYDD YN DILEU Y MODEL SY’N BODOLI EISIOES A OEDD YN CYNNWYS RHWYDWAITH O 8 CWMNI THEATR MEWN ADDYSG AC YN BYGWTH GWAREDU Â’R METHODOLEG A’R YMARFERIAD THEATR MEWN ADDYSG GORAU YN YSGOLION POWYS.
I GONDEMIO’R GOFYNIAD A OSODWYD AR THEATR POWYS I YMATEB I GYNIGION STRATEGAETH CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU MEWN PERTHYNAS Â THEATR AR GYFER POBL IFANC, HEB UNRHYW DDIFFINIAD EGLUR O BETH YW NATUR A’R MATH O FASNACHFRAINT YN Y DYFODOL.
Mae Theatr Powys yn cydnabod bod rhaid i Gyngor Celfyddydau Cymru ymateb i newidiadau wrth ariannu theatrau mewn ysgolion yn dilyn cyflwyno Rheolaeth Ysgolion yn Lleol, y cwricwlwm cenedlaethol ac ad-drefnu llywodraeth lleol yng Nghymru. Er hynny, rydym yn annog Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cynigion sy’n cefnogi’r newid hwn trwy Theatr Mewn Addysg broffesiynol, gynhenid sydd ag adnoddau digonol ac wedi ei ariannu, a thrwy fynd ar deithiau cymunedol yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith hwn yn gallu trosglwyddo gwaith amrywiol ac unigryw o safon ar sail gynaliadwy yn unol ag egwyddorion Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’u polisïau a’u hamcanion.

Mae’r cwmni yn ymroddedig i sefydlu Cytundeb Gwasanaeth tair neu bum mlynedd gyda refeniw blynddol fel cytundeb treiglo â’r Cyngor Celfyddydau.

Mae’r cynigion strategaeth yn debygol o ddad-sefydlogi trefniadau nawdd partneriaeth yr Awdurdod Lleol sy’n bodoli eisioes ar gyfer darpariaeth Theatr mewn Addysg yng Nghymru. Gyda bwriad y Cyngor Celfyddydau i weithredu polisïau sy’n bygwth dyfodol Llywodraeth Lleol sy’n rhedeg y ddarpariaeth celfyddydau yn uniongyrchol, mae pryderon difrifol wedi cael eu gwyntyllu ynglþn â rôl gyhoeddus ac atebolrwydd y Cyngor. Yn y papur ymgynghori, nodir y canlynol sef bod " Cyngor Celfyddydau Cymru yn bwriadu trafod telerau â phartneriaid yr awdurdodau lleol sy’n bodoli eisioes ar unwaith". Mae hwn yn safle anhygoel a thrahaus ar ran y Cyngor Celfyddydau. Ar adeg pan fo cwmnïau o dan fygythiad o gael eu cau, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod cytundebau noddi partneriaid tu ôl i gefnau’r cwmnïau hyn er mwyn cefnogi a diffinio’r masnachfreintiau cyn casgliadau y broses ymgynghori.

Bydd cau pedwar cwmni Theatr mewn Addysg yn cael effaith niweidiol ar economi cymunedau Cymreig ac ar gyflogaeth a chyfleon hyfforddi ymarferwyr y celfyddydau proffesiynol yng Nghymru. Mewn blwyddyn arferol, mae’r gwerth a amcangyfrifir ar gyfer gweithgareddau economaidd uniongyrchol a gynhyrchir gan Theatr Powys yn mynd tu hwnt i £30,000 - wrth gefnogi siopau, gwestai, siopau gwerthu papurau newydd , garejis a.y.b. Mae’r cwmni yn reolaidd wedi ennill cyfleon cyflogaeth blwyddyn gyfan ar gyfer rhwng 30 a 50 o weithwyr y celfyddydau proffesiynol - ar gytundebau parhaol, tymor byr sefydlog ac ar eu liwt eu hunain.

Mae Theatr Powys yn parhau’n ymroddedig i gyflenwi darpariaeth Theatr mewn Addysg yn rhad ac am ddim ar gyfer ysgolion Powys. Yn ogystal, mae’r cwmni eisiau gweld parhad yn natblygiad methodoleg ac ymarferiad gorau, fel rhaglen waith cyfranogol diwrnod llawn drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg mewn ysgolion.

Mae gan y cwmni bryderon difrifol ynglþn â gallu y broses ymgynghori.Yn genedlaethol, 50 copi yn unig o’r ddogfen ‘Theatr Broffesiynol’ a gylchredwyd. Derbyniwyd cyfanswm o 37 ymateb ysgrifenedig a llafar yn unig o Gymru. Ni fedr hyn fod yn lefel cyfnewid gwybodaeth ac ymgynghori digonol na dibynadwy ar " gynigion radical a phellgyrhaeddol" o’r fath.

Deallwn nad oedd unrhyw grwpiau o bobl ifanc na swyddogion o’r sector ddarparu ar gyfer Pobl Ifanc yn gysylltiedig â’r broses ymgynghori yn Ne a Chanolbarth Cymru. Rydym yn deall na gynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd grwpiau sampl athrawon yng Ngogledd na De Orllewin Cymru. Cafwyd cyfanswm o wyth cyfarfod yn unig i gynrychioli’r cyfan o Ganolbarth a De Cymru. Rydym yn parhau yn ansicr ynglþn â’r diffiniad o’r grwpiau sampl athrawon hyn a’u natur. Deallwn mai un ateb yn unig a oedd yn cynnig fformiwla ar sut i " ail-ystyried Theatr ar gyfer Pobl Ifanc mewn ffyrdd newydd a gwahanol". Er hynny, nid oedd swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru yn medru ( neu nid oeddynt yn barod) dweud a oedd yr ateb hwn yn awgrymu rhyddfreinio yn benodol. Rydym yn tybio nad yw’r ateb yn awgrymu’r opsiwn hwn ac mai syniad swyddogion y Cyngor oedd rhyddfreinio a oedd yn benderfynol i gau 4 Cwmni theatr mewn Addysg fel modd i arbed costau uniongyrchol ( elfen nad yw’n Theatr mewn Addysg heb ei brofi = £169,000) a chostau anuniongyrchol ( ar geisiadau refeniw Loteri a Chyfalafol potensial); penderfynwyd ar ryddfreinio fel cynigiad strategaeth bwriadol cyn y broses ymgynghori.

O’r fath sampl o ymatebion bychan ac anghynrychiadol, rydym wedi gorfod dioddef dadansoddiadau ystumedig a detholus gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Er enghraifft:

Roedd 33 o’r 37 ateb (9:1) yn ffafrio cefnogi llai o Gwmnïau Theatr ar gyfer Pobl Ifanc a oedd gydag adnoddau da.
Roedd 31 o’r 37 ateb (5:1) yn erbyn rhesymoli’r ddarpariaeth bresennol.
Mae hyn yn cynnig llun dryslyd, anghyson ac anherfynol. Ni ddylid defnyddio y fath ddata annibynadwy (yn enwedig wedi eu mynegu yn y ffurf o gymharhebau cyfrannol fel yn yr achos hwn) i gyfiawnhau’r opsiwn " ariannu llai sydd well" heb ychydig o eglurhad o’r data a’r wybodaeth ystadegol mewn ffurf dadansoddiad sensitif.
Cawsom ein hysbysu y byddai’n amhosibl i’r Cyngor ddatgelu amcangyfrifiad o ffigwr neu hyd yn oed ganran o atebion a oedd yn mynegu " pryderon am amseru a natur fer y cyfnod ymgynghori a’r angen am Ymgynghoriad yn y dyfodol i ymestyn dros gyfnod hirach". Byddai diddordeb gennym eto i ddarganfod y lefel o bryder a fynegwyd mewn rhifau neu fel canran.

Nid yw’r Cyngor Celfyddydau wedi gwneud ymdrech gwirioneddol yn y papur ymgynghori i adrodd ar ddatganiad cadarnhaol yn cefnogi model wyth cwmni Theatr Mewn Addysg sy’n bodoli eisioes a gyfeirir ato yn amrywiol gan ymatebwyr fel " Un o lwyddiannau pennaf Cyngor Celfyddydau Cymru…"; "Mae’r rhwydwaith bresennol wedi datblygu sylfaen sgiliau bwysig o actorion, cynllunwyr, ysgrifennwyr a chyfarwyddwyr…"; " Mae’r sector Theatr mewn Addysg yng Nghymru yn trosglwyddo gwasanaeth ac yn cwrdd â thargedau Cyngor Celfyddydau Cymru yn flynyddol ac wedi parhau i wneud hyn trwy ein hanes"; " rhwydwaith unigryw…. Wedi ei edmygu’n fawr gan gydweithwyr mewn llawer gwlad." " Dylid cefnogi’r sefyllfa bresennol…. Dylid darganfod adnoddau newydd…". I ddyfynnu’r Cyngor Celfyddydau "

Ar sail y llwyddiannau ar hyn o bryd, dadl yr atebwyr oedd y dylid cryfhau’r rhwydwaith bresennol." Fel nifer o Fyrddau Rheoli eraill yng Nghymru, ni ymgynghorwyd ag aelodau o Bwyllgor Rheoli Theatr Powys cyn cyhoeddi’r cynigion strategaeth drama drafft. Ni chafodd dogfennau ymgynghorol eu hanfon gan y Cyngor Celfyddydau at Gadeirydd nac aelodau’r Pwyllgor Rheoli.

Argymhelliad y gynhadledd Theatr mewn Addysg Cymreig, a gynhaliwyd ym mis Mawrth, i Michael Barker (Cyfarwyddwr Adran Datblygu Ffurfiau Celfyddydol y Cyngor), oedd y dylid trefnu cynhadledd Theatr mewn Addysg Genedlaethol. Byddai hyn yn galluogi pobl sy’n ymwneud â Theatr mewn Addysg yng Nghymru i gael y llais a’r cyfle i gyfrannu at drafodaeth ynglþn â dyfodol y Theatr mewn Addysg/ Theatr ar gyfer Pobl Ifanc. Roedd ymateb Michael Barker yn siomedig o negatif.

" Rwy’n poeni y byddai rhai’n ofni na fyddai hyn ( Cynhadledd Theatr mewn Addysg) yn cael mwy o effaith nag atgrynhoi’r buddion trefniadau’r gorffennol."

Mae cynigion strategaeth yn y papur ymgynghori yn adlewyrchu bwriad y Cyngor Celfyddydau o gyflawni targedau economaidd Cynllun Corfforaethol wedi ei drefnu ymlaen llaw fel cyfleuster arbed arian heb ystyriaeth go iawn i safon ac hynodrwydd y Theatr mewn Addysg a’i werth artistig ac addysgiadol.

Mae Cynllun Corfforaethol drafft Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys dyraniad o £836,000 ( gan gynnwys costau trawsnewidiol) ar gyfer Theatr ar gyfer Pobl Ifanc yn 1999/2000. Roedd y ffigwr hwn a oedd wedi penderfynu’r gyllideb sefyll yn stond am y 9 mis cyntaf o’r flwyddyn ariannol ar gyfer y model cefnogi 8 cwmni, wedi ei selio ar gyfanswm cost o £666,600 gan gynnwys £180,000 ar gyfer ariannu masnachfraint yn y pedwerydd chwarter (canlyniad hyn yw anghysondeb tebygol yn nyraniad Cynllun Corfforaeth y Cyngor o £10,000!). Mae’r dyraniad o £836,000 yn cyflawni arbediad arian o £53,000 ar gyfer y Cyngor Celfyddydau ar gyllideb model cefnogi’r 8 cwmni y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn darlunio sut mae’r cynigion strategaeth yn cael eu gyrru’n economaidd ar dargedau nawdd blwyddyn gyntaf y Cynllun Corfforaethol. Pam oedd hi’n angenrheidiol i arbed £53,000 trwy’r cyflwyniad o nawdd masnachfraint pedwar chwarter a lle mae’r arian hwn wedi cael ei ail-ddyranu?

Rhoddodd Michael Barker wybod i ni bod y ‘costau trawsnewidiol’ yn cyfeirio at y balans o £170,000 fel dyraniad tuag at sefydlu/ cynllunio costau 4 masnachfraint newydd. Mae hi’n syniad diddorol i ail-ddiffinio nawdd masnachfraint pedwar chwarter fel ‘ costau trawsnewidiol’ yn y modd hwn.

Ymddengys bod gwrthddywediad pwerus yn bodoli yn y Papur Ymgynghori mewn cysylltiad ag ariannu’r Theatr mewn Addysg/ Theatr ar gyfer Pobl Ifanc:

Mae paragraff 5:1 yn nodi: "ni fydd ymrwymiad ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru i’r strwythur newydd ac ystyried economiau y graddfa yn llai na’i gefnogaeth i’r elfen Theatr ar gyfer Pobl Ifanc/ Theatr mewn Addysg yn y model cefnogi wyth cwmni ar hyn o bryd."
Mae paragraff 5.5 yn nodi: " Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bwriadu dyfeisio ac hysbysebu y masnachfreintiau tymor sefydlog Theatr ar gyfer Pobl Ifanc. Gan weithio hyd at gyllidebau ar hyn o bryd, rhagwelir y gellid cyflawni pedwar masnachfraint am £180,000."
Ymddengys fod yna fwlch o £169,000 rhwng y ddau ddatganiad. Mae hyn yn wahaniaeth rhwng £889.000( cyfanswm nawdd refeniw ar gyfer model cefnogi 8 cwmni) a £720,000 ( cyfanswm nawdd ar gyfer 4 rhyddfraint/ masnachfraint).
Fe roddodd Gyngor Celfyddydau Cymru wybod i ni bod yr elfen Theatr mewn Addysg a gyfeirir ato ym mharagraff 5.1 uchod yn £720,000. Mae hwn yn ostyniad anhygoel gan nad oedd elfen nawdd y Theatr mewn Addysg, hyd y gwyddwn ni, erioed wedi cael ei fesur yng nghytundebau nawdd-refeniw y Cyngor Celfyddydau. Ar gyfer Theatr Powys, roedd eu cytundeb nawdd refeniw yn nodi

: " ( mae’r gwobr grant yn gyfangwbl) yn mynd tuag at gostau cynhyrchiadau theatr yn y flwyddyn ariannol… Mae’r grant hwn yn cynnwys cyfraniad tuag at gost teithio o amgylch Cymru gyda’ch cynhyrchiadau."

Mewn llythyr at Theatr Powys, nododd Michael Barker bod ‘ yr elfen Theatr mewn Addysg/ Theatr ar gyfer Pobl Ifanc’ yn llai na £720,000’. Mae Michael yn awgrymu bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn bod yn hael wrth gynnig toriadau o £169,000 gan y dylai hyn fod yn fwy! Yn ychwanegol at hyn , mae Michael wedi nodi bod " y cyfan a gaiff ei wario gan y Cyngor Celfyddydau ar Theatr Powys yn galluogi prosiectau eraill yn hytrach na Theatr mewn Addysg". Rydym yn dadlau ei bod hi’n amhosibl i Gyngor Celfyddydau Cymru i gadarnhau nawdd elfennol na gafodd ei fesur yn y cytundebau nawdd-refeniw. Mae hyn yn hollol ffug.

Mae Theatr Powys yn herio’r Cyngor i ddatgan eu tystiolaeth a’u dadansoddiad i brofi bodolaeth elfen ariannol Theatr mewn Addysg/ Theatr ar gyfer Pobl Ifanc a ellir ei gyfrifo o fewn cyfanswm nawdd-refeniw model cefnogi’r 8 cwmni, ac yn unigol ar gyfer Theatr Powys. Mae Theatr Powys yn herio’r Cyngor i ddatgan eu tystiolaeth a’u dadansoddiad wrth gyfrifo’r ffigwr o £180,000 fesul masnachfraint o safonau cynhyrchu a throsglwyddo’r gwaith yn nhermau arian.

Mae Theatr Powys yn condemnio penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i roi model o gwmnïau Theatr mewn Addysg Cymreig sy’n cefnogi wyth cwmni ar nawdd refeniw sefyll yn stond am y 9 mis cyntaf o flwyddyn ariannol 1999/2000 - penderfyniad a all ddiweddu gyda’r Cyngor Celfyddydau yn peryglu ei safle ariannol, cytundebol a chyfansoddiadol a bygwrth eu cynllunio artisig a’u rhaglenni gwaith.


--------------------------------------------------------------------------------

TEITHIAU CYMUNEDOL

Y Polisïau gan y Cyngor yw i flaenoriaethu ariannu drama yng Nghymru drwy sefydlu " mentrau banerlong"( CCPCC au a theatr arbrofol) sy’n gysylltiedig â " statws i Gymru" a’r ymgyrch i "gynyddu cynhyrch y diwydiannau celfyddydol a diwylliannol".

Rydym yn condemnio polisi sy’n cael ei gynnig ar yr un adeg a’r bwriad i ddad-sefydlogi a dad-adeiladu’r model darparu teithiau cymunedol sy’n bodoli eisioes yng Nghymru. Dylid annog "cryfhau sylfaen economaidd y celfyddydau yng Nghymru" trwy fuddsoddi adnoddau’r Cyngor Celfyddydau yn y cymunedau Cymreig a’r cwmnïau nawdd-refeniw cynhenid ac nid tuag at fuddsoddiadau blaenoriaethus yn y mentrau celfyddydau banerlong mawreddog.

Byddai nawdd yn cael ei ddyrannu i ganiatáu datblygu amrediad amrywiol o brosiectau cyfyngiad amser byr.

Rydym yn condemnio symud cefnogaeth i ffwrdd o gwmnïau nawdd-refeniw i brosiectau nawdd tymor sefydlog (a’r Loteri) a sylfaen gynhyrchu ansefydlog ac ansicr ar gyfer teithiau cymunedol yng Nghymru. Mae’r datblygiad hwn yn gwrthddweud y nodau, amcanion ac egwyddorion a nodir yng Nghynllun Corfforaethol Drafft y Cyngor Celfyddydau sy’n pwysleisio’r angen am " gasgliad cynaliadwy o sefydliadau sy’n chwarae rôl strategol ac yn trosglwyddo safon cyson o weithgareddau". Nid yw’n ystyried amcanion a pholisïau’r Cyngor Celfyddydau tuag at sicrhau mynediad a chyfleon i bobl Cymru i brofi a mwynhau’r celfyddydau " o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi ac am brisiau rhesymol".

Dylai nawdd prosiectau a mentrau newydd weithredu ochr yn ochr a ni ddylent ailosod casgliad o gwmniau refeniw wedi eu hariannu’n effeithiol sy’n cynhyrchu gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg. Credwn mai dyma’r model sy’n caniatáu cyflawni amcanion y Cyngor o " hyrwyddo amcanion tymor hir" drwy gynhyrchu gwaith o " safon uchel ar sail cynaliadwy".

Rydym yn mynnu bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymgorffori ac yn gorfodi amodau nawdd y prosiect sy’n gofyn bod Rheolwyr y prosiect yn cyflogi gweithwyr ar gontractau Undebau Llafur neu o leiaf ar gyfraddau tâl isaf yr Undebau Llafur.

Mae’n hanfodol bod y prosiectau cynhyrchu wedi cael eu hanghori i bolisi datblygu cynulleidfa.

Ymddengys bod y Cyngor yn ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol ar gyfer datblygu cynulleidfa. Does dim syniadau creadigol, mentrau newydd na blaenoriaethau adnoddau yn y Papur Ymgynghori ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd drama - ceir syniadau megis " gadael y cwmnïau yn y lle marchnad".

Cynyddu cyfleoedd nawdd hyblyg ar gyfer amrediad o brosiectau â chyfyngiad amser trwy gynyddu cefnogaeth nawdd i’r cynllun prosiectau.

Nid yw’n eglur beth fydd lefel y nawdd ar gyfer cynllun y prosiectau hyn, neu a fydd cynnydd net mewn nawdd am y cynllun "Noson allan" yn 1999/2000 o gymharu â 1998/1999. A oes cynnydd mewn nawdd ar gyfer cynlluniau teithiau y celfyddydau perfformio yn deillio o ail-ddosbarthu’r £169,000 di-sail yn cael ei gymryd oddi ar y model cefnogi’r 8 Cwmni Theatr mewn Addysg Cymreig sy’n bodoli eisioes? Mae’n ymddangos yn debygol y bydd yna lai o nawdd ar gael yn gyfangwbl ar gyfer teithiau cymunedol yng Nghymru. Rydym yn condemio bwriad y Cyngor i waredu â’r £169,000 sef yr elfen nad yw’n Theatr mewn Addysg (teithiau cymunedol) di-sail o nawdd refeniw, yn ogystal a’r diffyg arwydd o ble a sut y defnyddir yr arian hwn.

Ni chaiff cefnogaeth bresennol y Cyngor Celfyddydau i Theatr yr Hijinx ei gefnogi bellach ar lefel refeniw.

Rydym yn condemnio’r cynnig hwn gan y Cyngor Celfyddydau. O ystyried natur gwaith y Hijinxs yn y maes anghenion arbennig, mae’r cynnig hwn yn gwrthddweud polisi ac amcanion y Cyngor Celfyddydau ar fynediad a chyfleon cyfartal.


--------------------------------------------------------------------------------

YMATEB CYFFREDINOL A CHASGLIADAU

Bydd y strategaeth newydd yn cael ei hariannu o fewn y lefelau presennol o gefnogaeth i ddrama
Fe all y Theatr broffesiynol dderbyn y swm uchaf o nawdd gan y Cyngor Celfyddydau ond mae hwn yn ddadl hynod am nawdd sefyll yn stond na ellir ei gefnogi. Mae Cynllun Corfforaethol Drafft Cyngor Celfyddydau Cymru yn adnabod bod " yr erydiad yn y sylfaen nawdd…. Wedi achosi problemau cynaliadwyedd, yn enwedig yn y celfyddydau perfformio. Mae’r Cyngor yn mynd ymlaen gan nodi bod rhaid i’r "cynllun sicrhau’r trosglwyddiad o waith o safon uchel ar sylfaen cynaliadwy". Rydym yn dadlau na fydd yr amcanion strategaeth drafft yn trosglwyddo heblaw bod cynnydd nawdd o 2.8% ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru a dderbynnir gan y Cyngor Celfyddydau oddi wrth y Swyddfa Gymreig yn cael ei ddyrannu’n gyfartal i ddrama.

Cwmnïau’r Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol Cymreig (Wnpac’au)
Mae lleoliad y cwmnïau hyn yn yr iaith Gymraeg a Saesneg yng Ngogledd Cymru yn creu anghydbwysedd daearyddol â lleoliadau cynhyrchiadau drama yng Nghymru. Rydym yn cwestiynu’r gwahaniaeth amlwg mewn nawdd rhwng y ddau Gwmni Celfyddydau Perfformio sy’n awgrymu statws îs gwaith theatr drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Theatr Gynhyrchu wedi ei leoli mewn adeilad ac Ysgrifennu Newydd.
Mae yna ddiffyg eglurdeb ynglþn â sut y gwireddir datblygu Theatr Sherman yn y dyfodol a’i rôl strategol arfaethedig wrth ddatblygu ysgrifennu newydd fel " ty diogel"

Gyda chyfeiriad at rôl a datblygiad Theatr Sherman yn y dyfodol, mae’r datganiad ym mharagraff 6.1.6 sef ‘ bod y cynigion yn benagored er mwyn caniatáu ymgynghoriaeth lawn’ yn gyfaddefiad damniol gan y Cyngor ei fod wedi gosod amserlen afrealistig ar gyfer y broses ymghynghoriaeth drama. Dylai’r amserlen ymgynghori wedi ystyried y polisiau Celfyddydau a’r cynlluniau datbygu sy’n cael eu datbygu ar hyn o bryd gan yr Awdurdodau Lleol. Dylai’r amserlen wedi ystyried y cynllun datblygu celfyddydau newydd yng Nghaerdydd yn benodol sy’n cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Newydd Cymru yn y drafodaeth.

Nid oes cynigion eglur ar gyfer datblygu ysgrifennu newydd yng Nghymru. Ceir ail-ddatganiad yn unig (ail-labelu’r mannau cynhyrchu) o’r safle ar hyn o bryd a’r haeriad o’r athroniaeth ‘ nad oes unrhyw rhagdybiaethau wedi cael eu gwneud’. Mae Theatr Powys a chwmniau theatr eraill sy’n cynhyrchu teithiau ar raddfa llai a chanolig wedi cael rôl allweddol wrth ddatblygu a chomisiynu ysgrifennu newydd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru. Mae ysgrifennu newydd wedi bod yn ganolog i bolisïau artistig y cwmniau hyn. Mae amcanion Cyngor Celfyddydau Cymru i gau’r cwmnïau hyn yn bygwth y safbwynt hwn, gyda gostyngiad potensial mewn cyfleon ar gyfer comisiynu a chynhyrchu gwaith ysgrifennu newydd yng Nghymru.

Hyfforddiant
Nid yw’n eglur sut y bydd cynigion strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymdrin â materion hyfforddi.

Mae cwmniau theatr sy’n cynhyrchu teithiau ar raddfa llai/canolig gyda nawdd-refeniw wedi bod yn gyfranwyr pwysig tuag at gyflogaeth ac hyfforddiant ymarferwyr celfyddydau sefydliedig a newydd yng Nghymru. Rydym yn condemnio bwriad y Cyngor Celfyddydau i gau’r cwmniau hyn. Canlyniad gweithred o’r fath yw’r colled sylweddol o gyflogaeth tymor hir a chyfleon. Cyfyngir ar gyfleon ymarferwyr y celfyddydau yng Nghymru i weithio mewn cwmnïau gyda pholisïau ac ymroddiad tuag at buddsoddi mewn pobl. Bydd hyn yn anochel yn arwain at weithlu ansefydlog gyda llai o sgiliau a chyflog llai.

Mae amcanion Strategaeth Ddrama Drafft y Cyngor Celfyddydau yn methu adnabod ac ymateb i Egwyddorion, polisiau ac amcanion Cynllun Corfforaethol y Cynllun. Caiff diffiniadau clir ynghyd â’r modd yr ariannir y cynigion strategaeth eu canfod yn fwy tebygol yng nghynllun Corfforaethol Drafft Cyngor Celfyddydau Cymru, neu mewn gohebiaeth dilynol helaeth â Swyddogion y Cyngor yn hytrach nag yn y Papur Ymgynghori. Mae’r sefyllfa hwn yn annerbyniol mewn proses ymgynghori agored.


--------------------------------------------------------------------------------

ATODIAD

Pwysigrwydd a gwerth Theatr mewn Addysg

CYFRANIAD THEATR POWYS AR ERTHYGL O’R ENW " y genhedlaeth nesaf: theatr ar gyfer pobl ifanc a theatr mewn addysg" wedi ei chyhoeddi yn ‘IN PROMPT’ ( cylchgrawn y Gymdeithas Rheoli Theatraidd).

Actiwr: Beth yw natur?
Jonathon: Popeth sy’n fyw .
Actiwr: (gan godi carreg) Ai pethau sy’n byw yn unig yw natur?
Jonathon: Mae pethau byw yn defnyddio pethau eraill i fyw ynddynt.
Actiwr: Gyda’m dwylo a’m traed fe gliriaf y cerrig, darnau bychan a chwydwyd gan y mynydd yn ei hwyliau drwg ac maent yn cwympo yma ac acw…. Trwy’r dydd pob dydd, fi…a’m plentyn yng nghysgod y mynydd.
Jonathon: Mae hi’n wraig garreg! Fe roddodd y mynydd ei hunig gerrig iddi. Mae ‘na garreg yn ei………

Fe ddigwyddodd yr ymgom hwn rhwng yr actiwr, Jonathon (9 mlwydd oed) a’i ddosbarth mewn ysgol wledig yng nghanolbarth Cymru fel rhan o raglen Theatr mewn Addysg Theatr Powys sef ‘ Yr Ysgrifennydd Lluniau’ a oedd yn teithio o amgylch ysgolion Powys ym mis Mawrth eleni. Aeth Jonathon ymlaen i ymgodymu â’r profiad byw o’r ‘wraig garreg’ yn y ddrama; i adnabod ei bodolaeth gymdeithasol mewn modd hynod o synhwyrus a greddfol. Fe lwyddodd y dosbarth cyfan i gael dirnadaeth ddofn iawn o berthynas dynol ryw â natur. Dyma Theatr mewn Addysg mewn ymarferiad.

Caiff y byd go iawn ei ffuglennu mewn modd artistig, ar gyfer a gyda’r plant. Mewn Theatr mewn Addysg da, mae’r byd ffuglennol yn annog diddordeb, yn pryfocio gwerthusiad, yn ysgogi pryder a chyfrifoldeb ac yn gwahodd ymyrraeth yn y pendraw. Mae’r plant yn cael cyfle i gymryd rhan o fewn diogelwch byd y ddrama - maent yn gweithredu’n gymdeithasol i drawsffurfio’r byd y maent yn ei archwilio. Mae’r plant yn ymarfer pðer.

Nid yw ffuglen a gyflwynir i bobl ifanc yn gofyn yn aml am y siwrnai hon o ddiddordeb trwy werthusiad, pryder, cyfrifoldeb ac yna ymlaen at weithred gymdeithasol. Yn sicr, nid yw profiad y plentyn o’r cwricwlwm, teimlo, deall a gweithredu yn aml yn gweithredu mewn undod. Yr uniad o deimlad, dealltwriaeth a gweithred casgliadol yw’r nodwedd ddiffiniadol, hanfodol o brofiad plentyn o’r Theatr mewn Addysg.

Mae’r Theatr mewn Addysg, sy’n wahanol i’r ‘Theatr ar gyfer pobl ifanc’ neu ‘Theatr y Plant’ yn fethodoleg cynnil sydd wedi ei eni yn y Deyrnas Unedig. Mae o’n awr yn y cyfnod aeddfed, wedi crogi a thrawsnewid y tu hwnt i adnabyddiaeth. Tra bo llawer iawn o waith yn cael ei wneud â phobl ifanc gan ddefnyddio ffurf y theatr, nid oes llawer o’r theatr mewn addysg yn parhau.

Mae Cymru o fewn y Deyrnas Unedig dal yn cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o 8 cwmni Theatr mewn Addysg llawn amser wedi cael nawdd refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r cwmnïau hyn wedi bod yn cynhyrchu dros 30 cynhyrchiad/ rhaglenni Theatr mewn Addysg gwreiddiol i dros 60,000 o blant yng Nghymru bob blwyddyn. Fe wnaeth yr Awdurdodau lleol gyfraniad sylweddol i sicrhau lefel cynaliadwy, eglur a strategol o Theatr mewn Addysg a oedd hyd at yn ddiweddar wedi bod yn ffynhonnell balchder a chryfder helaeth o fewn cymlethdod darpariaeth drama Cymreig. Ceir 8 cwmni yn darparu Theatr mewn Addysg i’r ysgolion yn eu hardal, yn datblygu perthnasau sy’n caniatáu darpariaeth gyfredol o fewn profiad addysgiadol y plentyn ac nid profiad neu ddatguddiad yn unig o’r theatr a fedrir ei dicio i ffwrdd yn erbyn gofynion y cwricwlwm.

Mae’r potensial hwn yn awr yn cael ei fygwth yn ddifrifol. Gyda nawdd Awdurdod Lleol yn cael ei ddileu’n barhaus a thoriadau rheolaidd i gyllidebau, mae ‘effeithiolrwydd’ y model darpariaeth Theatr mewn Addysg cyfredol o fewn Gymru i gael ei arolygu ynghyd â rhaglenni sy’n bodoli eisioes ardraws ffurfiau celfyddyd, cyflwyniadau a chyfranogiad Cyngor Celfyddydau Cymru.

Byddwn yn dyst i ymrafael enbyd i ailddiffinio termau ac ailstrwythuro gwirionedd y gwaith sydd ar gael i drosglwyddo gwerth gorau yng nghwyneb adnoddau sy’n lleihau.

Nid yw hwn yn stori newydd nac unigryw. Mae’r un ymarferiad hynod o sinigaidd wedi cael ei arwain ymhobman sef yr orfodaeth ar ail-rannu adnoddau. Mae darparu profiad addysgiadol pwerus, hyfforddi ymarferwyr, cynnal a datblygu theori ac ymarferiad sydd yn diwallu anghenion cynyddol pobl ifanc wedi dod yn destun " diwylliant loteri".

Mewn anerchiad yng Nghynhadledd Theatr mewn Addysg Cymreig ar ddydd Gwener, 3ydd Ebrill 1998, dywedodd Bryn Davies, Ysgrifennydd Cymdeithas Ysgolion Cynradd Powys yng Nghymru: ‘ Mae’r Theatr mewn Addysg yn werthfawr gan ei fod yn broses sy’n digwydd â phlant…. nid ar eu cyfer. Mae’r profiad yn aml yn creu math o densiwn sy’n tywys y plentyn yn ddigon agos at y dibyn fel ei fod yn cael cipolwg ar realiti y sefyllfa ond ar lefel y medr ymdrin ag ef. Rhan bwysig iawn o’r broses yw dod a’r plentyn mewnol allan. Dyma yw Addysg."

Mae Bryn yn siarad ar ran Jonathon a’i ddosbarth. Nid yw’n siarad ar ran y cwmniau, ymarferwyr unigol na’u swyddi. Addysgwr ydi o, sydd dros gyfnod o amser wedi profi cyfraniad darpariaeth Theatr mewn Addysg sydd ag adnoddau llawn, i brofiad addysgiadol a bywyd ei ddisgyblion. Dydi o ddim yn anochel- rydym wedi derbyn y sefyllfa heb werthusiad digonol, gofid, cyfrifoldeb na weithred cymdeithasol. Wrth fethu a herio’r realiti gorfodol hwn, rydym yn caniatáu dinistrio’r Theatr mewn Addysg ac yn cydnabod bod yn rhaid i blant dderbyn hyn hefyd. Rwy’n amau y byddai Jonathon yn cytuno!

Gall y TMA, y noddwyr a’r undebau weithredu’n gymdeithasol ac yn rhydd er mwyn gwynebu’r dinistriad o ddarpariaeth Theatr mewn Addysg profiedig. I ddyfynnu Emyr Jenkins, Prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n ymadael.

" Mae’r Theatr mewn Addysg yn bwysig ac yn gyffrous; gawn ni gydweithio i gadw a diogelu gwasanaeth unigryw Theatr mewn Addysg Cymru.

Ian Yeoman yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr Powys.


--------------------------------------------------------------------------------

2 EGWYDDORION Y THEATR MEWN ADDYSG

Mae delweddau’r theatr yn goroesi’n hirach yn y meddwl pan fo ffeithiau yn anghof.

Pur anaml y caiff teimladau, dealltwriaeth a gweithred eu huno yn y cwricwlwm ysgol; yn y Theatr mewn Addysg caiff hyn ei gyflawni.

Mae’r Theatr mewn Addysg yn mynnu bod dychymyg a chreadigrwydd yn ganolog yn y datbygiad dynol.

Mae chwarae yn weithgaredd difrifol i blant; Mae Theatr mewn Addysg yn gwybod hyn.

Pan fo plant yn cymryd rhan mewn Theatr mewn Addysg, maent yn ymarfer pðer. Mae Theatr mewn Addysg yn trin addysg fel proses a phlant fel chwilwyr brwdfrydig am y gwirionedd.

Mae Theatr mewn Addysg yn anweledig i’r rheini sy’n mynd i’r theatr ac yn weledol i’r rheini nad ydynt yn mynd i’r theatr.

Mae meddyliau gweledol yn well na phen ôl ar gadair.

Nid yw plant yn oedolion annatblygedig ond yn bobl â phrofiadau penodol a gofidiau sy’n mynd y tu hwnt i galonnau pobl; gweithreda’r Theatr mewn Addysg ar yr adnabyddiaeth hwn.

Theatr mewn Addysg yw’r undod o ddiwylliant ac ymgyrchoedd yr ifanc am fyd gwell.

Casgliad cyffredinol Theatr Powys yw bod cynigion Strategaeth Ddrama Drafft Cyngor Celfyddydau Cymru yn brin o onestrwydd artisitig a gweledigaeth; "nid ydynt yn gweithio a ni fyddant yn cyflwyno
Theatr Powys  
web site
:

e-mail:
Friday, March 19, 1999back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk