Heddiw, ddydd Gwener, Mehefin 20fed, bydd dau adeilad nodedig sy’n ganolfannau eiconig i’r celfyddydau’n dod at ei gilydd i lofnodi cytundeb partneriaeth ffurfiol. Dros y pum mlynedd nesaf bydd Galeri yng Nghaernarfon a Chanolfan Mileniwm Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu prosiectau artistig rheolaidd ar y cyd, yn ogystal â rhannu a throsglwyddo sgiliau ac arbenigedd. Bydd Y Gweinidog dros Dreftadaeth Rhodri Glyn Thomas yn ymuno â’r Prif Weithredwyr Judith Isherwood a Gwyn Roberts yn Galeri am 13.30 o’r gloch, i nodi’r garreg filltir hon yn natblygiad y ddwy ganolfan.
I lansio’r bartneriaeth yn Galeri bydd yr artist o Gaernarfon Luned Rhys Parri, yn gweithio gyda phlant o Ysgol Gynradd Waunfawr ar brosiect celf weledol sy’n seiliedig straeon y clasur i blant, Llyfr Mawr y Plant. Yn y bore, caiff y plant greu Wil Cwac Cwac a Sïon Blewyn Coch, sef dau o brif gymeriadau’r llyfr sy’n cael ei addasu’n sioe gerdd gan Theatr Bara Caws, mewn partneriaeth â Galeri a Theatr Gwynedd. Bydd y plant yn dangos eu gwaith gorffenedig i’r Gweinidog. Bydd sioe Llyfr Mawr y Plant yn mynd ar daith o amgylch Cymru yn yr hydref, gyda dau berfformiad arbennig yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 4 Tachwedd. Bydd Galeri’n llwyfannu fersiwn llai o’r cynhyrchiad, Llyfr Bach y Plant, ar 8 a 9 Medi. Yn yr hydref hefyd, bydd yr artist Luned Rhys Parri, a fu ag arddangosfa lwyddiannus iawn o’i gwaith Tan y Clogwyn yn Galeri’n gynharach eleni, yn dod â’i gwaith i’w arddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae’r ddwy ganolfan eisoes wedi dechrau ar berthynas gynhyrchiol, sydd wedi arwain at gydweithio ar nifer o brosiectau artistig ac addysgol. Yn ystod ei 12 mis cyntaf bydd y Cytundeb Partneriaeth yn arwain at amrywiaeth eang o weithgareddau ar y cyd, gan ganolbwyntio ar gael ieuenctid i gymryd rhan drwy gyfrwng celfyddydau trefol, cynyrchiadau dwyieithog a’r celfyddydau gweledol.
Yn sgil llwyddiant g_yl Berw’r Bae/Breakin the Bay Canolfan Mileniwm Cymru, a ddenodd mwy na 10,000 o bobl ifanc dros un penwythnos yn gynharach eleni, bydd arweinydd gweithdy o Gaerdydd yn mynd i ddigwyddiad ieuenctid Stryd di’r Lle / Street’s the Place Galeri ym mis Awst. Y nod yw datblygu talent brêc ddawnsio Caernarfon, ac arwain at berfformiad gan gr_p o Galeri lawr yng ng_yl Berw’r Bae yng Nghaerdydd 2009.
Yn 2009 y bwriad yw llwyfannu cynhyrchiad theatr gerddorol dwyieithog mewn cydweithrediad â Theatr Gerdd Cymru ac Academi. Caiff ei lwyfannu yn gyntaf yn Galeri, yna yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru, gyda rhaglen addysg gefnogol wedi’i chreu yn y ddwy ganolfan.
Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth Rhodri Glyn Thomas yn cefnogi’r cytundeb partneriaeth newydd. Meddai, “Efallai fod Canolfan Mileniwm Cymru a Galeri un bob pen i Gymru, ond mae’r ddwy ganolfan yn straeon o lwyddiant i Gymru . Rydw i wrth fy modd o weld y ddau sefydliad yn gweithio â’i gilydd, yn rhannu arbenigedd a chydweithio’n greadigol”.
Ychwanegodd Judith Isherwood, Prif Weithredydd Canolfan Mileniwm Cymru ‘Er bod y ddwy ganolfan â phellter o 175 milltir rhyngddynt a’u bod ar raddfa wahanol i’w gilydd, mae sawl tebygrwydd rhyngddynt hefyd. Mae’r ddwy ganolfan yn rhan annatod o raglen adfywio cymunedol a threfol ehangach. Mae’r ddwy ganolfan hefyd ar gyrion ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, Butetown ac Ysgubor Goch, dwy ardal a nodir dan gynllun Cymunedau’n Gyntaf. Rydyn ni’n hynod gyffrous yngl_n â chydweithio’n agosach â Galeri, a gallwn ddysgu cymaint gan ein gilydd hefyd.’
Meddai Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri, “Mae’r cytundeb yma’n rhoi cyfle gwych i ni roi prosiectau ymarferol ar waith - prosiectau sy’n adlewyrchu ac yn dathlu tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng y cymunedau rydyn ni’n gweithio â nhw”.
|