Mae Shimli yn ymgyrch newydd a chyffroes ym myd theatr mewn addysg. Mae’r cwmni yn cynnig cyfle i fudiadau o bob math gyfathrebu eu neges i gynulleidfa eang drwy gyfrwng pwerus y theatre.Mae Shimli yn cael ei redeg gan ei Gyfarwyddwraig Artistig, Siwan Llynor, a’i Gyfarwyddwraig, Mared Elliw Huws. Rhyngddynt mae ganddynt dros ddeng mlynedd o brofiad o weithio gydag ieuenctid Gogledd Cymru trwy weithdai drama. Maen nhw hefyd yn actorion proffesiynol gyda phrofiad o gyfarwyddo, sgriptio a rheoli llwyfan. Yn dilyn eu prosiect llwyddiannus “Cofia” gydag Adran Diogelwch y Ffyrdd o Gyngor Ynys Môn, sylwodd Mared a Siwan fod angen cwmni theatr oedd yn gallu arbenigo mewn pynciau penodedig a cymdeithasoll. Mae eu gwaith yn rhyngweithiol a thrwy’r actorion a’u defnydd helaeth o’r dechnoleg ddiweddaraf, maen nhw’n gofalu fod y plant a phobl ifanc yn cyfranogi yn llawn yn y profiad. Gobaith Siwan a Mared yw defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad i gynorthwyo mudiadau ac elusennau i hyrwyddo eu neges o fewn ysgolion a mudiadau ieuenctid yn y ffordd fwyaf cyffrous ac effeithiol. Maent hefyd yn awyddus i ddatblygu talentau lleol trwy gyflogi actorion ifanc brwdfrydig, dramodwyr a cherddorion ar gyfer gwahanol brosiectau. Mae’r dramâu yn cael eu hysgrifennu i ddiwallu anghenion y cleiant ac mae 'na elfen gref o gydweithio wrth ddatblygu’r syniadau. Mae’n bosib datblygu thema dosbarth neu ysgol trwy weithdai drama sy’n rhan effeithiol iawn o ddysgu trwy chwarae. Bydd y cwmni yn cael ei lansio yng Ng_yl Y Plant ar gae Sioe Mona ar yr ail a’r trydydd o Orffennaf gan berfformio drama newydd, amlgyfrwng ‘Bus Stop’ – drama gomic, amlgyfrwng a rhyngweithiol |
| web site: |
| Siwan Llynor e-mail: siwanllynor@btinternet.com |
| Tuesday, July 1, 2008 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Shimli yn ymgyrch newydd a chyffroes ym myd theatr mewn addysg. Mae’r cwmni yn cynnig cyfle i fudiadau o bob math gyfathrebu eu neges i gynulleidfa eang drwy gyfrwng pwerus y theatre.