Yr wythnos hon caiff cystadleuaeth sgwennu drama fer Cymdeithas Ddrama Cymru ei lansio. Bwriad y gystadleuaeth yw i hyrwyddo sgwennu newydd ar gyfer y llwyfan amatur trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Ar gyfer 2009 ceir tri gategori sef categori agored, chategori ar gyfer dramâu sy’n addas i’w perfformio gan ieuenctid 16-25 ml oed ac y ddrama orau yn yr iaith Gymraeg. Yn ychwanegol at yr wobr ariannol fe gysidr cyhoeddi y dramâu buddugol. Eisioes cyhoeddwyd a pherfformiwyd gwaith cyn-enillwyr ac hynny o ganlyniad iddo gael ei hyrwyddo trwy gyfrwng ein Cynlluniau Sgwennu Newydd. Bydd panel o feirniaid a ddewisir gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn darllen ac yn ystyried y dramâu ac yn rhannu’r gwobrau canlynol; y ddrama orau ar gyfer criw ieuenctid (16-25 oed) - £200; y ddrama orau yn y categori agored - £200; y ddrama orau yn yr iaith Gymraeg - £200, yn ogystal bydd y tri enillydd yn derbyn medal a cysidr cyhoeddi y gwaith. Drama orau gan dramodydd sy’n breswyl yng Nghymru – Ysgoloriaeth Ty Newydd ar gyfer cwrs ysgrifennu theatr. Bydd y gwaith buddugol ymhob categori yn derbyn £200 a fe gysidr ei chyhoeddi. Disgwylir i’r dramâu fod rhwng 20–50 munud o hyd. Rhaid cynnwys o leiaf 2 gymeriad • Y ddrama orau ar gyfer cast ifanc (16–25 oed) - £200 • Y ddrama orau yn y categori agored - £200 • Y ddrama orau yn yr iaith Gymraeg - £200 • Drama orau gan dramodydd sy ’n breswyl yng Nghymru – Ysgoloriaeth Ty Newydd ar gyfer cwrs ysgrifennu theatr • Bydd y buddugwyr yn derbyn medalau • Cysidr cyhoeddi y gwaith buddugol gan C.Dd.C I dderbyn ffurflenni cais cysylltwch â Dewi neu Teresa yn swyddfa Cymdeithas Ddrama Cymru, Bae Colwyn 01492 532277 / Caerdydd 029 2045 2200 neu drwy ffacs 029 2045 2277 e-bost: aled.daw@virgin.net Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Ionawr 31 2009 Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i bawb hyd yn oed y rheiny sy’n byw y tu allan i Gymru. Rydym yn derbyn gweithiau o led led y byd. NODDIR GAN TECHNOCOVER |
| Drama Association of Wales web site: |
| e-mail: aled.daw@virgin.net |
| Saturday, September 6, 2008 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Yr wythnos hon caiff cystadleuaeth sgwennu drama fer Cymdeithas Ddrama Cymru ei lansio.