|
Merch o'r Cymoedd
|
Pedair sir ym Mlaenau’r Cymoedd yn dod ynghyd mewn perfformiadau ‘Merch o’r Cymoedd’
Sut mae llunio perfformiad cymunedol dwyieithog sy’n gweithio ar draws pedair sir ac sy’n cynnwys cannoedd o bobl nad ydynt erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o’r blaen?
Dyna’r her oedd yn wynebu Celf ar y Blaen, y sefydliad celf gymunedol newydd sy’n gweithredu yn nwyrain Blaenau’r Cymoedd.
Roedd yr ateb yn syml a hefyd yn gymhleth i Kate Strudwick, Rheolwr Prosiect Creadigol a Bethan Watkins, Rheolwr y Cynhyrchiad:
“Mae damaid bach fel cael set Lego neu jig-so enfawr, gyda llawer o ddarnau bach yn cael eu hymarfer ar draws y pedair sir sy’n cael eu cloi gyda’i gilydd ar y funud olaf i greu pedwar perfformiad lleol hollol wahanol sydd i gyd yn rhan o’r un stori Merch o’r Cymoedd”.
Ers mis Medi, bu tîm craidd o artistiaid yn gweithio ar holl elfennau gwahanol brosiect Merch o’r Cymoedd ac yn cynnal gweithdai allestyn i sicrhau fod cynifer o bobl ag sydd modd yn medru cymryd rhan yn y sioe, un ai fel perfformwyr neu drwy gyfrannu deunydd ar gyfer y sgript drwy weithdai ysgrifennu caneuon ac adrodd straeon digidol. Mae cannoedd wedi chwarae rhan wrth ddod â’r cyfan ynghyd, yn cynnwys clybiau ieuenctid, grwpiau mam a phlentyn, pensiynwyr, cylchoedd gwnïo a phobl gydag anableddau lluosog a helpodd i greu'r trac sain.
Dywedodd Chris Durnall, y Cyfarwyddwr Artistig: “Mae bod yn gynhwysol yn hollol ganolog i’r prosiect hwn i gyd, felly nid yw’r ffocws ar yr hyn na all pobl ei gyflawni ond edrych am a chanfod ffyrdd i’w galluogi i gyflawni”.
Bu gan Chris y dasg enfawr o fynd drwy lwyth o ddeunydd a ddatblygwyd yn y gweithdai a’i aildrefnu i greu stori gydlynol, tra’n cadw lleisiau gwreiddiol y bobl a gyfrannodd at y prosiect. Un o’r ffyrdd y gwnaeth hyn yw rhoi tymor yng nghylch bywyd fel thema ar gyfer pob sioe:
“Mae creu’r holl waith o gegau a meddyliau’r cymunedau wedi gwneud y prosiect yn unigryw”. Mae Chris yn awr yn wynebu her bellach o wneud iddo weithio mewn pedwar lleoliad gwahanol iawn.
Mae Cheryl Beer, yr ymgynghorydd ysgrifennu caneuon, wedi gweithio gyda mwy na 25 gr_p i greu dwsinau o ganeuon sy’n adrodd straeon pobl yn byw yn yr ardal yn defnyddio eu geiriau ei hun a dywedodd
“Bu’n ffordd wych o weithio. Mae’n wirioneddol deimladwy gweld sut mae’r emosiwn a gynhyrchwyd mewn gweithdy ysgrifennu creadigol wedi trosi yn ddrama gorfforol - medrwch olrhain pob dim yn ôl i’r gweithdai gwreiddiol”.
Roedd yr uchafbwyntiau i Cheryl yn cynnwys cwrdd â pherson yn y fan llyfrgell symudol ym Merthyr a ddisgrifiodd ei hunan fel “dim yn ddiddorol iawn” ond a ddatgelodd wedyn iddi fod yn rhan o’r tîm oedd wedi datrys y Cod Enigma yn ystod y rhyfel. Hefyd yn dilyn sesiwn galw heibio cymunedol yn Nhrefddyn Catwg, dychwelodd 40 o bobl yn nes ymlaen ar gyfer cyngerdd anffurfiol o’r gwaith roeddent newydd ei ysgrifennu a maent yn awr wedi ffurfio côr cymunedol yn perfformio yn fersiwn Blaenafon o’r sioe.
Mae’r tîm creiddiol yn cynnwys Gina Morgan, Cydlynydd Dawns, a drefnodd ddawnswyr amatur o dan 7 i dros 70 oed yn y cynhyrchiad aml-gyfrwng hwn ac Einir Sion, ymgynghorydd y Gymraeg, a luniodd ffyrdd blaengar o gynnwys y Gymraeg yn y prosiect.
Un o nodweddion mwyaf diddorol y sioe yw cân ryfeddol a berfformir gan bedwar côr lleol a gomisiynwyd yn arbennig gan Helen Woods, cyfansoddwraig o Gaerdydd. Yn ogystal â defnyddio geiriau o gegau pobl leol, mae hefyd yn cynnwys cyfrinach a ddatgelir pan ddaw’r corau at ei gilydd.
Medrir gweld Merch o’r Cymoedd yn Neuadd Gweithwyr Blaenafon ar 8 Mawrth, Kidz r Us yn Nhredegar ar 18 Mawrth, Canolfan y Rhosyn Gwyn yn Nhredegar ar 22 Mawrth a Chapel Soar ym Merthyr Tudful ar 29 Mawrth. I gael gwybodaeth bellach cysyllter â Celf ar y Blaen ar 01495 357815/6 (info@head4arts.org.uk).
|
web site: |
e-mail: |
Saturday, February 28, 2009 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999