|
Petai'r cynnyrch a welir ar ein llwyfannau hanner mor ddiddorol â'r ddrama sy'n cael ei hactio yng nghoridorau'r cwangoau a'r cwmnïau drama, fyddai dim angen sniff o sybsidi na chrybwyll cymhorthdal. Dyma geisio dal i fyny â'r act ddiweddaraf (Act 34 erbyn hyn, decini). Theatr mewn Addysg Mae'r Frân Wen yn hedfan ymlaen o nerth i nerth. Dyma un o'r ychydig gwmnïau sy'n cael ffynnu'n swyddogol dan y drefn newydd. Gyda sêl bendith y Pwyllgor Drama, gall gryfhau ei strategaeth a ffurfio rhaglen ar gyfer ei gwaith a dyna mae'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae Cwmni'r Frân Wen yn seiliedig ar Wynedd ond yn bwriadu lledu ei adenydd (sori!); gyda hanes cryf a chydnabyddedig o waith y tu ôl iddynt, dyma un o strategaethau callach y cwango curiedig. Maent eisoes wedi hysbysebu a rhoi'r rhaglen newydd ar waith. Y perygl, yn naturiol, yw fod cwmnïau llwyddiannus yn dioddef, waeth beth fo'u record dda yn y gorffennol. Y lein swyddogol yw fod 'llai yn golygu gwell', ond realiti'r sefyllfa yw fod y 'gwell' buddugol yn cael eu colbio yn unig am fod yn llwyddiannus, tra bod y collwyr yn dioddef stigma aflwyddiant ar waethaf gwaith da. A phan restrir Theatr Powys, Gwent Theatre ac - ie - Clwyd Theatr Cymru yn yr achos hwn - ymhlith y collwyr, mae pobl yn dechrau gwrando. Heb sôn am wleidyddion yn dechrau taranu. Yn y cyfamser, nôl yn y ransh… Y lein swyddogol gan Gyngor y Celfyddydau ers misoedd fu mai collwrs gwael oedd yn beirniadu'r strategaeth: 'roedd y rhai ar y tu mewn yn gwybod y ffeithiau, ac yn cytuno â'r newidiadau. Daeth dau lais lluosog a llafar i wrth-ddweud y ddamcaniaeth hon, fodd bynnag. i) Bu gwifrau'r Academi yn boeth wrth i'r aelodau gysylltu â'i gilydd, rhwydweithio a threfnu i wrthwynebu sawl agwedd o'r Strategaeth Ddrama. Nid cwyno preifat mo hyn, chwaith, ond ymgyrch drefnus, a llefarwyr amlwg yn mynd at y wasg. Ysgrifenwyr a dramodwyr cydnabyddedig - a noddedig - oedd llawer o'r rhai leisiodd farn, a gwan iawn, hyd yma, yw'r awduron a'r dramodwyr cyfatebol a gododd lais i ddadlau yn eu herbyn. ii) Pleidlais o ddiffyg hyder yn Joanna Weston ei hun, gan staff Cyngor y Celfyddydau. Fe wyddom fod mantoli staff yn rhan o fywyd gwaith beunyddiol gweithwyr o bob math y dyddiau hyn, ond pan gafodd y dogfennau mantoli (sydd, ym mhob corff aiff drwy'r fath ymarfer, yn cael eu cadw'n breifat) eu datgelu i'r Cyngor cyfan, aeth undeb yr MSF yn gyfiawn gandryll. Yn wyneb hyn, bu'r ymateb swyddogol yn rhyfeddol o dawedog, o ystyried mor llafar y mae eu llefarwyr fel rheol. A bod yn deg, ni chyfyngwyd yr anniddigrwydd y tro hwn i fyd y ddrama, ond yn sicr fe'u crybwyllwyd fel un o brif sumtomau'r storm sy'n cyniwair. Yn y Flwyddyn Newydd y cyflwynir y bleidlais o ddiffyg hyder - a dyna, am y tro, reswm digonol dros dawelwch swyddogol meistri'r Cyngor. Ond yn y Mileniwm, disgwyliwch fwy o dân gwyllt. |
| Barn web site: |
| Meg Elis e-mail: |
| Wednesday, January 5, 2000 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
