New Chair of Volcano Theatre announced
|
Volcano Theatre Company is delighted to announce the appointment of David Phillips as Chair of the Board.
David is probably better known as the Leader of Swansea Labour and a Swansea councillor of many years standing with a high public profile. However, David has had a varied professional career in both the public service and business, together with a long involvement with the voluntary sector.
David brings to Volcano a high level of expertise in corporate governance and a passion for the live arts and especially cinema, having previously been a key player in the transformation of major cultural organisations such as the Council of Museums in Wales and the British Federation of Film Societies as well as a prime mover in the Arts About Swansea Festival in 2005. His roles for the City & County of Swansea have included Chair of the Cultural Services Committee and Cabinet Member for Finance. David is also a Board member of Swansea City Opera.
David’s appointment comes at the perfect time for Volcano, which is poised for a period of re-visioning and business planning, and has been looking for a suitably charismatic, committed and dynamic person to lead the Board in recognising, achieving and shaping the company’s vision and strategic aims.
Cwmni Theatr Volcano
Cyhoeddiad – Cadeirydd y Bwrdd
Mae Cwmni Theatr Volcano yn falch i allu cyhoeddi penodiad David Phillips yn Gadeirydd y Bwrdd.
Efallai bod David yn fwy adnabyddus fel Arweinydd y Blaid Lafur yn Abertawe, ac fel Cynghorydd hynod brofiadol â phroffil cyhoeddus amlwg. Fodd bynnag, mae gyrfa broffesiynol David wedi bod yn un amrywiol, yn y gwasanaethau cyhoeddus ac ym myd busnes, yn ogystal â chyswllt hir â’r sector gwirfoddol.
Daw David â lefel uchel o arbenigrwydd mewn rheolaeth gorfforaethol i Volcano, a brwdfrydedd dros y celfyddydau byw, yn enwedig y sinema. Yn y gorffennol, bu ganddo ran allweddol yn nhrawsffurfiad sefydliadau diwylliannol mawr megis Cyngor Amgueddfeydd Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Ffilm Prydain, a bu hefyd yn ffigur dylanwadol yng Ng_yl Gelfyddydau Abertawe 2005. Mae ei rolau blaenorol yng Nghyngor Dinas a Sir Abertawe yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Diwylliannol ac Aelod y Cabinet dros Gyllid. Mae David hefyd yn aelod o Fwrdd Opera Dinas Abertawe.
Daw penodiad David ar adeg berffaith i Volcano, sy’n paratoi ar gyfer cyfnod o addasu gweledigaeth a chynllunio busnes. Mae angen person carismatig, ymroddedig a deinamig i arwain y Bwrdd i sefydlu, cyflawni a llywio gweledigaeth ac amcanion strategol y cwmni.
|
web site: |
e-mail: |
Thursday, May 14, 2009 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999