Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Mae’r antur yn parhau...     

Mae’r antur yn parhau...
Theatr na n'Óg yn agor eu sioe newydd gyda chlec yn
Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd.


Bydd “Y Bachgen, y Cyw, a’r Wy Aur” yn cychwyn taith gymraeg Theatr na
n'Óg i blant ym Mhabell Cyngor Celfyddydau Cymru ar faes yr Eisteddod.
Pan fydd wy aur Jack yn deor cyw anferth ac nid yw bellach yn rhoi ei
ffortiwn iddo, mae ei natur farus yn dod i’r amlwg, ac mae’n mynd i chwilio
am wy aur arall. Gyda’r cyw anferth wrth ei gwt, mae Jack yn cael mwy
nag un sioc ar hyd y ffordd!

Bydd y sioe, â ysgrifennwyd gan Alun Saunders ac â gyfarwyddwyd gan
gyfarwyddwr cysylltiol Theatr na n'Óg, Phylip Harries, yn teithio tan Fehefin
19eg i ysgolion o fewn awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port
Talbot a Phen-y-bont.

Eglura Phylip Harries, “Yn dilyn llwyddiant “Fi y Cawr” y llynedd, dyma
gyfle gwych arall i neidio i fyd chwedlau tylwyth teg a chyflwyno
cymeriadau enwog mewn ffordd newydd a chyffrous i blant, a pha le gorau
i wneud hynny ond yn yr wyl gystadleuol fwyaf Ewrop!”
Gyda chast talentog yn cynnwys Iola Hughes, Ceri Mill ac Alun Saunders
mae’r sioe hon yn sicr o wefreiddio cynulleidfaoedd ifanc a’u teuluoedd.

Felly dewch i weld y sioe a’r cwmni Theatr na n'Óg ym mhabell Cyngor
Celfyddydau Cymru, Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd
Sadwrn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Theatr na n'Óg 01639 641771
 
web site
:

e-mail:
Friday, May 22, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk