Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cwmni Theatr 3D yn cyflwyno dwy ddrama ar y thema Darganfyddiad     

Cwmni Theatr 3D yn cyflwyno dwy ddrama ar y thema Darganfyddiad
Yn ol eu harfer o roi llwyfan i ysgrifennu newydd, ag atgyfodi clasuron.

'Y Twr' gan Gwenlyn Parry
Dyma gyfle i weld detholiad o un o ddramau Gwenlyn Parry a oedd yn ddrama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd nwl yn 1978. _Dyma ddrama yn dilyn taith bywyd gwr a gwraig wrth iddyn nhw ddringo twr bywyd. Gwelir hwy yn heneiddio, a'r dieithrwch rhyngddynt yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo. Mae'r detholiad hwn yn dangos y cwpwl yn ystod eu blynyddoedd mwyaf cythryblus....eu harddegau. Gwyliwn y pwr wrth iddynt ddygymod w'r ffaith nad ydynt bellach yn blant, ond nid eto'n oedolion.

Cast: Aled Wyn Thomas, Rebeca May
Cyfarwyddwr: Hannah Wynn Jones

Ac hefyd

Sawl yn Syrthio gan Glenn Jones

Diffiniad y geiriadur o "SYRTHIO":-
'Disgyn yn sydyn, cwympo, codwm, cwympo o fan uchel gyda nerth disgyrchiant; lleihau gwerth; llai pwerus; teimlad cariad; digwyddiad neu amod.'
Ond syrthio mewn ffordd wahanol iawn a wna'r pedwar cymeriad sy'n ganolog i'r ddrama hon.
Byddwn yn dyst i ddeilema Llio, Huw, Arwel a Meirion wrth iddynt sefyll ar eu dibyn personol nhw yn myfyrio dros yr ysfa bwerus i syrthio...neu ddim.
Bydd y ddrama hon hefyd yn rhan o gynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr 3D - Angel.
Cast: Aled Wyn Thomas
Elin Leyshon
Glenn Jones
Ieuan Rhys
Cyfarwyddwr: William Gwyn

 
web site
:

e-mail:
Tuesday, July 21, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk