Teithwyr drwy Amser
|
Mae trigain aelod ifanc o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2009 yn preswylio yn Aberystwyth ar hyn o bryd - yn gweithio rhwng y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau - i greu, ymarfer a lansio eu cynhyrchiad am 2009, Canrif / Century, cyn cychwyn ar daith i Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Sherman Cymru, Caerdydd.
Mae’r ddrama newydd hon gan Manon Eames a gomisiynwyd yn arbennig – dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig ThCIC, Tim Baker – yn tynnu ar etifeddiaeth hanesyddol ddiweddar Cymru gan gludo actorion a chynulleidfaoedd ar daith ddyfeisgar, pendramwnwgl drwy rai o ddigwyddiadau tyngedfennol y ganrif ddiwethaf.
Gan ymgorffori antur byw, a deunyddiau archif a dogfennol, mae Canrif / Century, yn cyflwyno golygfeydd sydd wedi’u gwreiddio yng ngorffennol diwydiannol Cymru, golygfeydd sy’n adlewyrchu’r ddau ryfel byd, a golygfeydd sy’n datgelu’r frwydr i ennill yr hawl i bleidleisio – hyn i gyd â dynoliaeth a dos iachus o hiwmor yn rhan ohono.
“Trwy ganfyddiad cywrain Manon o bwysigrwydd digwyddiadau byd-eang, ynghyd â'r digwyddiadau hynny sy'n ymwneud yn agosach â Chymru, cafwyd atgof cyfareddol a heriol o brotest a newid yn ystod yr 20fed ganrif. ”
Tim Baker, Cyfarwyddwr Artistig ThCIC
Gyda chefnogaeth tîm artistig proffesiynol a ddewiswyd yn arbennig, mae pump a deugain o aelodau'r Theatr Ieuenctid yn datblygu eu sgiliau actio, symud a cherddoriaeth, a pymtheg aelod yn canolbwyntio ar sgiliau dylunio a chynhyrchu. Gyda'i gilydd fel un tîm byddant yn llunio cynhyrchiad, uchelgeisiol ar raddfa fawr a fydd, yn ôl gwir draddodiad ThCIC, yn hysbysu a difyrru cynulleidfaoedd.
“Mae ymroddiad a brwdfrydedd ein pobl ifanc heb ei ail; maent yn manteisio ar bob cyfle a roddir ger eu bron, ac yn cyfrannu egni a brwdfrydedd anhygoel i bob tasg. Maent wedi ymrwymo eu hunain i gynhyrchu darn arbennig o theatr y mae’n si_r gen i fydd yn cyffroi ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd ynghyd â phryfocio eu meddyliau.”
Pauline Crossley – Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
|
web site: |
e-mail: |
Friday, August 21, 2009 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999