"Dwi wrth fy modd fod y cwmni'n parhau i wneud gwaith mor heriol a phwysig ac yn cyfoethogi bywydau cymaint o bobl ifanc a phlant. Gwych iawn!! "
Llio Silyn, Un o sylfaenwyr y cwmni
Sefydlwyd Cwmni’r Frân Wen ym 1984 fel rhan o weithgarwch Canolfan Gelfyddydau Theatr Ardudwy yn Harlech. Sefydlwyd y cwmni newydd er mwyn darparu prosiectau Theatr mewn Addysg i Ysgolion Awdurdod Addysg Gwynedd, fel adwaenid y Sir ar y pryd. Yr athroniaeth o’r cychwyn cyntaf oedd cyflwyno profiad theatrig safonol i ddosbarth o ddisgyblion ar y tro, i’w ddefnyddio fel adnodd addysgol, a hynny trwy gyfrwng Y Gymraeg.
25 mlynedd yn ddiweddarach mae’r Cwmni yn parhau i ddatblygu a chynhyrchu prosiectau Theatr mewn Addysg o’r safon uchaf trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae erbyn hyn wedi ehangu ei ddarpariaeth i gynnwys gweithdai cyfranogol i blant a phobl ifanc, prosiectau theatr ieuenctid a chynyrchiadau cymunedol a phrif lwyfan.
Mae’r weledigaeth artistig o ddefnyddio p_er y theatr i ysgwyd y gynulleidfa yn emosiynol a’u hysgogi i edrych ar y byd o’r newydd yn parhau yn ganolog i athroniaeth y cwmni.
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf mae Cwmni’r Frân Wen wedi cyrraedd oddeutu 250,000 o blant a phobl ifanc gyda 102 o gynyrchiadau i ysgolion cynradd ac uwchradd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy.
Mae’n bleser cael dathlu pen-blwydd Cwmni’r Frân Wen ac ymfalchïo yn ei gyfraniad celfyddydol i fywydau plant a phobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru. Mae ganddynt hawl i dderbyn profiadau theatrig o’r safon uchaf posibl a dyna fydd yr her a’r cyfrifoldeb sy’n ein wynebu ni fel Cwmni mewn cyfnod dyrys lle all y celfyddydau fod dan fygythiad. Mae’r celfyddydau yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad emosiynol, creadigol, addysgol a chymdeithasol plant a phobl ifanc gan sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer meithrin dinasyddion goddefgar a chyfrifol yn y byd sydd ohoni.
"Diolch i bawb o aelodau staff, actorion, timau technegol, cerddorion, cyfarwyddwyr, dramodwyr, pobl ifanc, athrawon, cefnogwyr, cynulleidfaoedd ac arianwyr am eich cyfraniad i lwyddiant y Cwmni."
Iola Ynyr, Cyfarwyddwraig Artistig, Cwmni’r Frân Wen
I gyd-fynd â’r garreg filltir arbennig hon yn hanes y Cwmni, maent yn falch o gyhoeddi penodiad Rhodri Meilir fel Llywydd.
Drwy'r ddarpariaeth a gynigir gan Gwmni'r Frân Wen, derbyniais gyfran hanfodol o'm haddysg o ran grym y theatr a'i gallu i drin a thrafod sefyllfaoedd cymdeithasol a phersonol. Tra'n ddisgybl ysgol, cefais fudd o’i Chynllun Ysgrifennu, gan ddysgu iaith y theatr a chael cyfle i greu darn theatrig cwbl wreiddiol, cyn mynd ymlaen fel actor gyda’r cwmni i brofi effaith y theatr yn uniongyrchol ar gynulleidfaoedd ifanc. Pob hwyl a llwyddiant yn ystod y chwarter canrif nesaf.
Rhodri Meilir, Actor a Llywydd
Bydd y Cwmni yn dathlu gyda chyflwyniad arbennig o’i waith yn Galeri Caernarfon ar 17eg o Dachwedd, 2009.
Mae gwaith Cwmni’r Frân Wen dros y blynyddoedd wedi bod yn hynod o broffesiynol ac o safon uchel iawn. Fel Prifathro, mae’n braf bod mewn sefyllfa lle nad oes rhaid poeni am addasrwydd y perfformiad. Mae’r cwmni wastad yn rhoi cyfle i ni weld y perfformiad o flaen llaw ac yn llwyddo i gael y cyfuniad perffaith - sioe addysgiadol sydd hefyd at ddant y disgyblion.
Dr Brian Jones, Pennaeth, Ysgol David Hughes
Am ragor o wybodaeth yngl_n â’r Cwmni cofiwch ymweld â’i wefan newydd fydd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf.
Does dim gwerth ariannol ar theatr mor ardderchog. Mae amrywiaeth y themâu yn syfrdanol. Llongyfarchiadau ar berfformiad ardderchog.
Ian Lloyd Hughes, Ysgol Ffridd y Llyn
|