Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Qualification accredited to Bridging The Gap Youth Project     

Qualification accredited to Bridging The Gap Youth Project 
On Thursday, 17 June pupils of Ysgol Coed Menai and Bryn Llwyd Unit, Bangor will receive an OCN Level 1 Introduction to Performing Arts and Multimedia provided by YMCA Wales Community College in collaboration with Urdd Gobaith Cymru’s Arts Development Scheme “Routes to the Summit".

This will be the culmination of an innovative youth project created and developed by two local Arts based companies; Cwmni’r Frân Wen based in Porthaethwy, Ynys Môn (who provides challenging theatre for children and young people in North West Wales) and Dawns i Bawb (the Umbrella Community Dance Company for North West Wales) based in Galeri in Caernarfon.

This inspiring and challenging project “Bridging the Gap” brought together three local artists whom were trained to work together with experts from Contact Theatre, Manchester; with youths from Ysgol Coed Menai and Bryn Llwyd Unit, Bangor. The project involved working with youths with a particular focus on those who are often termed as hard to reach. The power of artistic activities has been proven to be highly beneficial in raising self respect, nurturing self belief, trust and therefore stimulating the potential capabilities in people.

On the menu on 17 June in Ysgol Coed Menai will be the presentation of a recording of various Rap songs composed by the group with the support of Ed Holden, and at Bryn Llwyd Unit, Bangor there will be a showing of a film that the students created and recorded named ‘Zombie’. This will only be a snapshot of the work achieved as the project delivered 12 days of varied activities such as Street Dance, Rapping, Lyric Writing, Script Writing, Drama Performance, Music, Drums and Beat Boxing.  The project aimed and succeeded in introducing the groups to artistic disciplines that helped them develop new skills which inspired and stimulated them.

Said Artistic Director of Cwmni Fran Wen Iola Ynyr: 
"It was a pleasure to witness the work that the young people succeeded to create at the end of the project.  They expressed themselves eloquently and honestly through the medium of film, rap and performance voicing their concerns and hopes for their future."

Funding was made available for this innovative collaboration by the Arts Council of Wales.

For further information about this project contact Karine Decorne on karine@dawnsibawb.org / 01286 685220 or Iola Ynyr on post@franwen.com / 01248 715048




Cymhwyster i gynllun prosiect celfyddydol Pontio’r Bwlch

Ar dydd Iau, 17 Mehefin bydd disgyblion o Ysgol Coed Menai ac Uned Bryn Llwyd, Bangor yn derbyn cymhwyster OCN Lefel 1 Cyflwyniad i’r Celfyddydau Perfformio ac Amlgyfrwng a ddarparwyd gan Coleg Cymunedol Cymru YMCA mewn cydweithrediad gydag Adran Datblygu’r Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru drwy’r cynllun "Llwybrau i’r Brig".  Bydd hyn yn ganlyniad a diweddglo i gynllun arloesol sydd wedi ei greu a'i ddatblygu gan ddau gwmni Celfyddydol lleol; Cwmni’r Frân Wen sydd wedi ei leoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn (sy’n darparu theatr heriol i blant a phobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru) a Dawns i Bawb (Cwmni Dawns Cymunedol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru) sydd wedi ei leoli yn Galeri, Caernarfon.

Mae’r prosiect heriol ac ysbrydoledig “Pontio’r Bwlch” wedi dod a thri artist lleol at ei gilydd i dderbyn hyfforddiant a chyweithio gydag arbenigwyr o Contact Theatre, Manceinion; gyda phobl ifanc Ysgol Coed Menai ac Uned Bryn Llwyd, Bangor.  Mae’r cynllun yn ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc gyda’r ffocws ar unigolion sydd yn gallu bod yn anodd eu cyrraedd.  Mae pwer gweithgareddau celfyddydol eisoes wedi ei brofi ac yn hynod o fuddiol yn y broses o feithrin hunan hyder, magu hunan barch ac ymddiriedaeth ac o ganlyniad yn gallu symbylu potensial yng ngalluoedd y cyfranogwyr.

Ar y fwydlen ar 17 Mehefin yn Ysgol Coed Menai bydd cyflwyniad o recordiad o ganeuon Rap amrywiol a gyfansoddwyd gan y bobl ifanc gyda chefnogaeth Ed Holden ac yn Uned Bryn Llwyd, Bangor bydd dangosiad o ffilm sydd wedi ei chreu a'i recordio o’r enw “Zombie”. Cip olwg yn unig yw’r dangosiad o’r gwaith a grewyd gan y bobl ifanc dros gyfnod o 12 diwrnod o weithgareddau amrywiol gan gynnwys Dawns Stryd, Rapio, Ysgrifennu Caneuon, Ysgrifennu Sgriptiau, Perfformio Drama, Cerddoriaeth, Drymio a Bocsio Beat.  Llwyddodd y cynllun gyda'i nod i roi blas i'r bobl ifanc o ddisgyblaethau celfyddydol amrywiol sydd wedi eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd gan eu cyffroi a'u hysbrydoli.

Dywedodd Cyfarwyddwraig Artistig Cwmni’r Frân Wen, Iola Ynyr:

“Pleser o'r mwyaf oedd tystio'r gwaith a lwyddodd y bobl ifanc i'w gynhyrchu erbyn diwedd y cynllun.  Trwy gyfrwng ffilm, rap a pherfformio cafwyd mynegiant huwadl a gonest o'u pryderon a'u gobeithion ar gyfer eu dyfodol."

Derbyniwyd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu’r cynllun arloesol hwn.

 
web site
:

e-mail: karine@dawnsibawb.org
Wednesday, June 9, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk