10.30am, Dydd Mawrth 29 Mehefin 2010 Heddiw, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru cam cyntaf ailwampiad sylweddol o'i fuddsoddiad yn y celfyddydau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gweithiodd y Cyngor ar yr adolygiad mwyaf trylwyr yn ei hanes.
Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad, meddai Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith:
"Gweithredwn heddiw i gadw'r celfyddydau'n fyrlymus ac yn gryf ar gyfer yfory. Rydym yn gwneud y penderfyniadau beiddgar hyn nawr fel bod y celfyddydau gorau yng Nghymru yn ffynnu yn y dyfodol. Drwy flaenoriaethu'n glir, a buddsoddi ble mae'r angen a'r haeddiant fwyaf, gosodir seiliau cadarn ar gyfer llwyddiant hir dymor y celfyddydau. Ein nod yw gweld y celfyddydau yng Nghymru'n ffynnu yn hytrach na bodoli. Cefnogwn waith o ansawdd a rhagoriaeth er mwyn ymgysylltu â'r gynulleidfa ehangaf bosibl ar draws Cymru, gan ddynodi bywiogrwydd cyfoes Cymru i'r byd."
Cynhwysa'r strategaeth newydd y nodweddion canlynol:
- cefnogi rhwydwaith genedlaethol o sefydliadau, sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg - o 2011/12, bydd y Cyngor yn darparu cyllid refeniw blynyddol ar gyfer 71 o sefydliadau. Cynhwysa'r rhain ystod o sefydliadau o gerddorfeydd, theatrau ac orielau, i ganolfannau celfyddydol, carnifal a sefydliadau celfyddydau cymunedol
- rydym yn annog mwy o bobl i feithrin eu creadigrwydd eu hunain drwy gymryd rhan o ddifrif yn y celfyddydau - buddsodda'r Cyngor mewn cymunedau lleol, gan gefnogi gweithgaredd sy'n hwyl, heriol a gweddnewidiol. O Valleys Kids ym Mhen-y-Graig i Theatr Felinfach yng Ngheredigion, Dawns Rubicon yng Nghaerdydd i Gyswllt Celf ym Mhowys, a Chelf ar y Blaen yng nghymoedd y de, cefnogwn sefydliadau sy'n gwneud y celfyddydau'n rhan ddyddiol o fywyd pobl
- rydym yn hyrwyddo enw da Cymru yn rhyngwladol o ran ei bywiogrwydd, ei chreadigrwydd a'i rhagoriaeth - cefnogwn bortffolio o gwmnïau cenedlaethol sy'n cynrychioli'r gorau y gall Cymru ei gynnig ar lwyfan y byd. Enghreifftiau rhyngwladol blaenllaw o ragoriaeth - Artes Mundi, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Clwyd Theatr Cymru a Opera Cenedlaethol Cymru -a'u gwaith wedi'u gwreiddio yng Nghymru
- rydym yn buddsoddi yn adnewyddiad economaidd, diwylliannol a chymdeithasol y wlad - rydym yn cynorthwyo'r sefydliadau celfyddydol gorau a mwyaf entrepreneuraidd, sefydliadau megis Canolfan Gelfyddydol Aberystwyth a Galeri yng Nghaernarfon sydd yn gallu denu cynulleidfaoedd ac ymwelwyr, creu cyfleoedd i greu swyddi ar draws y diwydiannau creadigol, a gwneud ein trefi, ein dinasoedd a'n cymunedau yn lefydd gwell i fyw a gweithio ynddynt
- anadlu bywyd newydd i'r celfyddydau - o National Theatre Wales i NoFit State Circus i Ganolfan Gerdd William Mathias, mae'r Cyngor yn cefnogi talent newydd ac arloesedd
- rydym yn trawsnewid y mannau lle gall pobl weld a mwynhau'r celfyddydau - mae adeiladau arobryn fel Chapter, Canolfan Grefft Rhuthun a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol i fwynhau'r celfyddydau
- eirioli cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc i fwynhau a datblygu eu creadigrwydd - o Gerdd Cymunedol Cymru i Theatr Iolo, o Arad Goch i Gelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, dymunwn i fwy o bobl ifanc gymryd rhan yn y celfyddydau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, o fewn a thu allan i'r ysgol
Yn anffodus, nid newyddion da yn unig a ddaw heddiw. Bydd trefniant 32 o sefydliadau (sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid refeniw blynyddol) o Ebrill 2011, yn dod i ben. Bydd modd iddynt dderbyn cymorth o'n rhaglen pontio, a gallant yn y dyfodol ymgeisio am gymorth prosiect. Bu'n rhaid i'r Cyngor leihau neu derfynu cyllido rhai er mwyn cyllido'n ddigonol y rhai ag erys.
Meddai Dai Smith:
"Edrychwyd yn ofalus ar yr hyn a ellid ei gyllido. Cychwynasom y broses beth amser yn ôl. Nid torri fu wrth wraidd y penderfyniadau, ond yn hytrach defnyddio arian trethdalwyr yn y modd mwyaf effeithiol. Ni ddefnyddiwn yr hinsawdd economaidd sy'n gwaethygu fel esgus cyfleus, ac nid ydym ychwaith yn gwyro'r cyfrifoldeb ar doriadau posib a ddaw o du'r llywodraeth rhyw ben. Ein penderfyniadau ni yw'r rhain, a derbyniwn y cyfrifoldeb yn llwyr amdanynt."
Yn Rhagfyr, gobeithia Cyngor Celfyddydau Cymru dderbyn gwybodaeth am swm ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Pryd hynny, gallwn gadarnhau dyraniad cyllido pob un o'r 71 o sefydliadau. Bydd y Cyngor yn ogystal, yr adeg yma, yn cyhoeddi sut a fwriada leihau ei gostau gweinyddol a chostau rhedeg.
Daw'r cyhoeddiadau ar adeg pan fo pwysau digyffelyb ar gyllido cyhoeddus. Wrth ymateb i'r sefyllfa, meddai'r Athro Smith:
"Nid diniwed mohonom. Bydd yn rhaid i Gymru wneud toriadau yng ngwariant cyhoeddus, a bydd gan Lywodraeth y Cynulliad ei dewisiadau ei hun i'w gwneud parthed blaenoriaethau cyllido. Ein gobaith yw eu perswadio ynghylch budd blaenaf buddsoddi'n y celfyddydau fel arf ganolog i ddatblygiad cymdeithasol a diwylliannol Cymru yr unfed ganrif ar hugain." |