Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Gareth Potter i Gyflwyno Anturiaethau yn y Byd Pop Cymraeg     

Gareth Potter i Gyflwyno Anturiaethau yn y Byd Pop Cymraeg Bydd Sherman Cymru a Dan y Gwely yn cyflwyno Gadael yr Ugeinfed Ganrif, sydd yn adrodd hanes anturiaethau hunangofiannol Gareth Potter yn y byd pop Cymraeg, yn Chapter ym mis Chwefror ac wedyn ar daith o amgylch Cymru.

Dyma sioe un dyn (wedi’i ysgrifennu a’i pherfformio gan Gareth Potter) sydd yn adrodd hanes cerddorol dau ddegawd olaf yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru, a ddaeth i benllanw gyda C_l Cymru a dyfodiad Senedd i Fae Caerdydd.

Mae’r cynhyrchiad yn gronicl teimladwy o gyfnod a lle arbennig yn niwylliant Cymru, sy’n cael ei adrodd yn wylaidd ac yn ddidwyll gan rywun oedd yno go iawn. Mae’r sioe yn teithio yn dilyn rhediad llwyddiannus yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010 ble cafodd ymateb gwresog gan gynulleidfaoedd a’r wasg.

Mae Gareth wedi bod yn aelod blaenllaw o’r sin pop yng Nghymru am dros chwarter canrif gan ddechrau drwy ffurfio’r band Clustiau C_n pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Rhydfelen. Yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau roedd yn aelod o fandiau amrywiol yn cynnwys Traddodiad Ofnus, Pop Negatif Wastad a T_ Gwydr. Mae Gareth yn parhau i weithio fel DJ yng Nghlwb Ifor Bach a’r Fuwch Goch yng Nghaerdydd ar y cyd â’i waith actio sydd wedi cynnwys rhannau mewn sawl gyfres deledu yn cynnwys Torchwood, Y Pris, Pobol y Cwm, Eastenders a Casualty. Sefydlodd ei gwmni, Dan y Gwely, gyda’r awdur a’r cyfarwyddwr Ian Staples yn 2009.

Yn ôl y cyflwynydd Radio 1, Huw Stephens mae Gareth yn -

"gerddor a dyn syniadau mentrus sydd wedi cyfoethogi’r sîn yng Nghymru"

Datblygwyd y ddrama trwy fenter Datblygu Artistiaid Sherman Cymru dan ofalaeth Pennaeth Dysgu Creadigol Sherman Cymru a chyfarwyddwr y sioe, Phillip Mackenzie. Dywed Gareth am y broses yma -

“Dyw Phil ddim yn siarad Cymraeg ond ar ôl iddo fe chwarae rhan mor allweddol ar ddechrau’r broses o ‘sgwennu’r ddrama roeddwn i’n awyddus iawn i barhau’r berthynas greadigol yma. Hefyd yn y gorffennol dw i wedi cyfarwyddo gwaith yng Nghosovo yn yr iaith Albaneg ac fe wnes i ffeindio’r profiad yma yn un diddorol iawn. Ma’r cyfnod ymarfer wedi bod yn gyfle i Phil, sy’n dod o Awstralia yn wreiddiol, i ddod i adnabod y diwylliant Cymraeg a’r cyd-destun hanesyddol (methiant refferendwm ’79) ‘nath roi sbardun i gyfnod gwirioneddol gyffrous yn y sîn roc Cymraeg. Ma’r ffaith bod Phil yn edrych ar y diwylliant yma o safbwynt gwrthrychol rhywun o’r tu allan wedi bod yn help mawr i grisialu naws a phwysigrwydd y cyfnod yma i Gymru. Mae e wedi dod â lot o syniadau newydd i’r broses o lwyfannu’r sioe mewn ffordd weledol a phwerus.”

Bydd Gadael yr Ugeinfed Ganrif i’w gweld yn Chapter o 16 – 19 Chwefror am 8.00yh. Pris y tocynnau yw £12/£10 ac maent ar gael o Swyddfa Docynnau Chapter ar 029 2030 4400 neu www.chapter.org
 
web site
:

e-mail:
Monday, January 24, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk